Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/39

Gwirwyd y dudalen hon

i esboniad gwell? Gwelwch felly nad stori am un teulu ac un digwyddiad yw stori Branwen, ond gwahanol storïau wedi treiglo i lawr yr oesoedd, yna eu huno â'i gilydd a'u plethu i'w gilydd yn araf deg, nes o'r diwedd ddyfod i'r ffurf y mae gennym ni heddyw, â'r cymeriadau ynddi yn hanner dynion a hanner duwiau. Y mae stori'n tyfu fel y tyfwch chwithau. Daw peth o'ch bwyd o'r ardal yma. a pheth o ardal arall, ond â'r cwbl yn rhan ohonoch chwi. Ac er mai darnau ar wahan yw'r bwyd, un ydych chwi sydd wedi tyfu trwy ei fwyta. Felly y mae stori, daw darn ohoni o'r ardal yma, a darn o'r ardal arall, a darn o'r naill wlad a darn o'r wlad arall, nes o'r diwedd gael ohonoch stori gyflawn, ddiddorol dros ben, wedi tyfu trwy uno'r gwahanol ddarnau ynghyd, a gwneuthur un bywyd ohonynt.