Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/73

Gwirwyd y dudalen hon

CENHADWR Y MORWYR

(Caergybi)

NID anghofiodd awel Hydref
Wyro'r blodau mwyaf hardd,
Nid anghofiodd swn ei dolef
Alarnadu uwch yr ardd;
Cwympo'n drist ar ddaear galed,
Nid anghofiodd dail y coed,
Angau gyda'i farwol dynged,
Nid anghofiodd Capten Lloyd.

Nid anghofiodd tlysni natur,
Yn ei dymor harddu'r llawr,
Nid anghofiodd daenu cysur
Gyda'i wyrddlas gwrlid mawr.
Dyma wron nad anghofiodd
Gadw cyfraith Duw erioed,
Dyma'r rhinwedd beraroglodd
Lwybrau bywyd Capten Lloyd.

Pan fa'i gartref ar yr eigion,
Pan fa'i dŷ ar frig y donn,
Pan ynghanol grym peryglon,
Pawb o'i gylch yn brudd eu bron,
Nid anghofiodd y cyfleustra
I rybuddio, doed a ddoed,
Bwrdd ei long a droi'n areithfa
I godi Iesu Capten Lloyd.

Pan y gwgai yr elfennau,
Pan gymylai ar ei hynt,
Cadw'i was mewn cyfyngderau,
Nid anghofiodd Duw y gwynt;