Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/37

Gwirwyd y dudalen hon

hapus. Wedi'r clefyd, bu'r tad a'r fam yn ddedwydd lawer awr. A phwy na fu wrth fagu plant? Dyma ddarluniad o Dan y Castell, -

"Yn nechrau haf y flwyddyn 1818 yr oedd gŵr a gwraig, a'u haid o blant nwyfus a chwareus, yn byw dan gysgod craig fawr ac ysgithrog, ac mewn tŷ bychan, a'i do o redyn y mynydd-dir oedd gerllaw iddo, ac nid oedd haul yn tywynnu arno am rai wythnosau yn nyfnder y gaeaf. Yr oedd yn cael ei gysgogi'n dda rhag gwyntoedd o'r gorllewin ac o'r deheu; ond yr oedd awelon oerion y gogledd a'r dwyrain yn ymosod arno yn ddidrugaredd. Mynnai y mwg hefyd ymgartrefu yn y tŷ a'r to rhedyn, gyda'r teulu, ac nid ai allan o'i fodd, os na fyddai'r gwynt yn chwythu o ryw bwynt a ryngai ei fodd ef. Yr oedd megis un o'r teulu.
"Yr oedd ffynnon o ddwfr iachus yn tarddu o ganol y mynydd mawr, yn union wrth dalcen y tŷ. Ceid digon o danwydd o fawnog oedd yn y mynydd uwchlaw'r tŷ, yr hyn a barai fod yr aelwyd, ar nosweithiau hirion y dyddiau byrion, yn hynod o gysurus. Eisteddai'r tad yn un gornel, a'r fam ar ei gyfer yn y gornel arall, a'r plant yn hanner cylch o flaen y tân, a phob un oedd yn ddigon o faint yn gwau hosan mor gyflym ag y gallai, fel y gallai'r fam fynd a hanner dwsin o barau i'r farchnad ar y Sadwrn, a'u cyfnewid yno am angenrheidiau teuluaidd."

Gadewch i ni adael Tan y Castell, a throi ein hwynebau tua'r Tŷ Cerrig, a "phulpud y Crynwyr." Sylwch ar y graig fygythiol ddanheddog, a'i chastell yn goron doredig ar ei phen. Yng ngwythiennau'r graig acw y mae aur. Pan oedd Ap Fychan yn cardota ei fara ymhell yn Sir Aberteifi, yr oedd gronynnau aur yn nhalcen ei dŷ.

O'n blaenau dacw Foel Llyfnant a'r Arennig, a dyna isalaw ddofn Rhaeadr Mwy. Dacw'r mynyddoedd y bu Ap Fychan yn crwydro hyd iddynt i hel cen cerrig, dacw dai hen breswylwyr Penanlliw, - pobl dal gyhyrog, pobl ddiwenwyn a heddychlon, pobl wedi eu trwytho a diwinyddiaeth