Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/28

Gwirwyd y dudalen hon

Y PRYF

(RHYBUDD A WELIR AR FURIAU EGLWYS PEDR SANT YN
NINAS CAER, MEDI, 1933. "THIS ANCIENT CHURCH—1026.
YEARS OLD—IS IN DANGER. THE DEATH WATCH BEETLE
HAS ATTACKED THE SOUTH ROOF")

MAE Eglwys y Sant mewn enbydrwydd,
A chyffro drwy Ddinas Caer;
Ac Esgob a Rheithor yn anfon
I fyny ymbiliau taer.

Mae rhywun yn ysu y trawstiau
Nes siglo'r muriau a'r tŵr,
Heb barch i na Rheithor nac Esgob
Na Sant, na chywreinwaith gŵr

Yn nen yr adeilad â'i finiog
Fynawyd yn tyllu drwy
Y llathraidd golofnau fu'n sefyll
Am fil o flynyddoedd a mwy,

Gan droi eu cadernid a'u tegwch
Yn fân-lwch, i ddilyn hynt
Bob tegwch a fu, a chadernid
Ac ymffrost yr oesau gynt.