Rhoddodd Babi ym mreichiau ei mham. Rhedodd y forwyn allan a chydiodd yn Gwilym, gan ei gario i'r ty. Gwelai Gwilym fod ei llygaid yn gochion a bod y dagrau yn rhedeg i lawr ei gruddiau. Yr oedd ei fam a'r Cawr yn siarad â'u gilydd.
“Oh, Mr. Jones anwyl, diolch i chwi am ddod a hwy adref, yr oeddym yn meddwl yn wir fod rhywbeth wedi digwydd iddynt, wrth weled y cwch wedi mynd i ffwrdd.”
“Wel, mae yn dda gennyf yn fy nghalon fy mod wedi dod ar eu traws. Digwydd bod allan yn morio tipyn gyda'r nos yr oeddwn. Yr oedd mor braf. Ond rhaid i mi ddweyd nos dawch, mae'r ceffyl yn dechreu mynd yn anesmwyth. Caiff y gwas ddod a'r cwch i fyny yn y boreu.” Rhoddodd gusan ar dalcen Babi oedd yn edrych â llygaid cysglyd iawn ym mreichiau ei mham. Yna trodd at Gwilym ac meddai,—“Peidiwch chwi a mynd i'r cwch eto, Gwilym, ar eich pen eich hun fel yna, neu hwyrach y daw y Cawr mewn gwirionedd." Edrychodd Gwilym yn ei wyneb, ac atebodd, —“Tenciw, Mr. Cawr, am ddwad a ni adre at mami. Yr ydych chi'n ffeindiach o lawer na'r Cawr yn y llyfr. Mi gewch fy ngheffyl bach newydd i os oes arnoch chi isio o'n arw iawm.”
Ysgydwodd y Cawr ei ben dan chwerthin, ac wedi dweyd “nos dawch” wrthynt oll neidiodd i'w gerbyd, a chlywent y ceffyl yn carlamu tuag adref. Ceisiai ei fam ddarbwyllo Gwilym mai Mr. Jones, Plas Hendre, oedd wedi dod a hwy adref, ond ni fynnai Gwilym gredu, a'r Cawr fu ef ganddo am amser maith. “Y Cawr hwnnw wyddost ti, Babi, fuo mor ffeind wrtho ni; yn lle myned a ni i'r carchar daeth a ni adre i mami, a 'toedd arno ddim isio fy ngheffyl bach haearn i na dim.”