Tudalen:Clasuron Rhyddiaeth Cymru.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pwnc a berthynai attaf. Rhaid i mi ddamuno ar bob Cymro bonheddig a rhowiog na bo mwy annaturiol i mi nog yw pobl eraill i iaith i mammau.

E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geisio ymwrthod a mi ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim [o] honi. Canys chwi a gewch rai yn gyttrym ag y gwelant afon Hafren, ne glochdai Ymwithig a chlowed Sais unwaith yn doedyd "good morow," a dechreuant ollwng i Cymraeg dros gof ai doedyd yn fawr i lediaith Cymraeg a fydd saesnigaidd, ai Saesneg (Duw a wyr) yn rhy gymreigaidd. A hyn sy'n dyfod naill ai [o] wir pholder, yntau o goeg falchder a gorwagrwydd: canys ni welir fyth yn ddyn cyweithas rhinweddol mo'r neb a wado nai dad nai fam nai wlad nai iaith. Eithr mi a obeithia o hynn allan trwy nerth Duw, athrylith, diwydrwydd a gwiw fyfyrdod fynghymru cariadus, y bydd genthyn nhwy fwy o serch i mi, a chan innau fwy o ddiddanwch a golud iddynt hwythau: oblygyd hynn ydwyf yn adolwg i bob naturiol Gymro dalu dyledus gariad i'r iaith Gymraeg: fal na allo neb ddoedyd am yr un o honynt mae pechod oedd fyth i magu ar laeth bronnau Cymraes am na ddamunant well i'r Gymraeg.

Bydd wych.