Tudalen:Clasuron Rhyddiaeth Cymru.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sathredig ymysc y cyphredin. O herwydd hyn pe gallem gael gwybodaeth wrth ddarllen llyfrau o ieithiau eraill am lawer o bethau a dalent i dyscu ai treuthu, etto, e fydd caledi mawr pan geissier cyfieuthu a throi yr unrhiw bethau i'r Gymraeg, am fod уп brin y geiriau gennym er bod yr iaith ohoni ihun cyn gyfoethocced ag un arall.

Mo. Gedwch iddo, er nas gallom wneuthur yn gystal ag y damunem; ef alle y bernir yn ewyllys ni yn dda am wneuthur a allem, canys lle pallo'r grym, ewyllys da a haedda glod. Hefyd gwell, rhag bod yn segur, ag i ddifyrru'r amser, siarad am y Gymraeg yn gynt nog am oferedd gan na ad y brydni anfeidrawl i ni yr owran studio dim a phrwyth ynddo.

Gr. Yn enw Duw, gyfynnwch y peth a fynnoch, minnau a'ttebaf yn orau mettrwyf. Ond, yn fy marni, gorau oedd yn gyntaf son am ramadeg. Canys oddyno byddau ddechrau os mynnem i'r iaith gynnyddu yn llwyddiannus.