Tudalen:Clasuron Rhyddiaeth Cymru.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PSALM LXXXIII.

At y pen-cerdd ar y Gittith. Psalm i feibion Corah.

1. MOr hawddgar [yw] dy bebyll di o Arglwydd y lluoedd.

2. Fy enaid a chwênychodd, ac a fysiodd hefyd am. dy gynteddau di o Arglwydd: fyng-halon a'm cnawd a orfoleddant yn Nuw byw. 3. Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ, a'r wennol nŷth iddi, lle y gesid ei chywion: sef dy allorau di ô Arglwydd y lluoedd fy Mrenin a'm Duw.

4. Gwynfyd preswylwyr dy dŷ yn wastad i'th foliannant. Selah..

5. Gwyn ei fyd y dŷn y mae ei gadernid ynot, [a'th] ffyrdd yn ei galon.

6. Y rhai sydd yn myned trwy ddyffryn wylofain a'i gosodant yn ffynnon, a'r glaw a leinw y llynnau.

7. Aant o nerth i nerth, [ac] ymddengys [pob un] ger bron Duw yn Sion.

8. O Arglwydd Dduw'r lluoedd clyw fyng-weddi, gwrando o Dduw Iacob. Selah.

9. O Dduw ein tarian gwel, ac edrych wyneb dy eneiniog.

10. Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw o flaen trigo ym-mhebyll annuwioldeb.