ac anwyl," Col. iii. 12. "Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw?" Rhuf. viii. 33. "Oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos?" Luc xviii. 7. Credwn fod y ddwy blaid yn cytuno yn hollol am bob un o'r ystyriaethau uchod, yn ddiwahaniaeth.
Y mae yr holl ddadl, gan hyny, yn nghylch Etholedigaeth bersonol a thragywyddol yn Nghrist i ras a gogoniant. Haora E. H. fod yr Etholedigaeth hon yn ysgrythyrol, a haera R. J. nad ydyw.
II. NATUR YR ETHOLEDIGAETH HON A'I CHYNNWYSIAD.
1. Nid yw y "gadael eraill i farwolaeth," a'r "penderfynu peidio cadw dim un ond y rhai a gedwir," a briodolir gan R. J. i E. H. tudal. 115, bl. 1845, yn un rhan o honi. Gweithred benarglwyddiaethol ydyw ethol ac arfaethu achub; ond nid yw y penderfynu gadael i rai fyw a marw yn eu pechodau, neu benderfynu peidio cadw, &c. ddim amgen na pheidio gweithredu, neu benderfynu neu arfaethu dim; neu fel y dywed un "Arfaethu peidio arfaethu." Nid yw y penderfynu, arfaethu, neu fwriadu tybiedig hyn, yn effeithio dim ar neb o'r gwrthddrychau cadawedig mwy nag hebddo.
2. Nid yw "penderfynu damnio y rhai a ddemnir," (neu a gosbir) y sonir am dano gan E. H. tudal. 149, bl. 1845, yn dal un berthynas â'r Etholedigaeth dan sylw. Oblegid rhaid fod y fath benderfyniad i ddamnio, neu gosbi, yn weithred berthynol i Dduw fel Llywodraethwr moesol; ond perthyn iddo fel Penarglwydd grasol yn unig y mae Etholedigaeth. 3. Nid yw gwrthodiad neb pechaduriaid yn dal un ber- thynas â'r Etholedigaeth hon. Pan sonir am yr Arglwydd yn gwrthod rhai, cymer hyn le mewn canlyniad i'w pechodau. Pan gynygiant eu gwasanaeth rhagrithiol iddo yn eu pechodau, nid yw yn eu cymeradwyo, nac yn eu derbyn hwy na'u gwas- anaeth; y maent fel "arian gwrthodedig" ganddo. Ond, craffwn, ymddygiad yw hwn etto perthynol i Dduw fel Llywodraethwr, ac nid fel Penarglwydd grasol. Pechod yn y gwrthodedig sydd yn achosi y gwrthodiad a'r annghymeradwyaeth; ond gras yn Nuw yw yr unig achos o'r Etholedigaeth