13. "HISTORI YR IESU SANCTAIDD. YN CYNWYS Hanes byrr o Enedigaeth, Bywyd, Marwolaeth, Adgyfodiad, ac Esgyniad ein Iachawdwr Bendigedig: Ynghyd a Chasgliad o Brophwydoliaethau, Rhagddywediadau, a Rhyfeddodau perthynasol iddo ef, a grybwyllir am danynt yn yr Ysgrythyr Lan ac yn Ysgrifeniadau y Cenhedloedd.
At yr hyn y chwanegir,
BUCHEDD A MARWOLAETH
YR
EFANGYLWYR A'R APOSTOLION SANCTAIDD.
A gasglwyd allan o'r Ysgrythyr Lan, Ysgrifenadau yr Hen Dadau, ac Awduriaid eraill o ddiamheuol wirionedd.
Gan William Smith A.M.
A gyfieithwyd i'r Iaith Gymraeg allan o'r 14 Argraphiad yn Saesnaeg gan Dafydd Ellis Curad Derwen Swydd Dinbych.
TREFRYW
Argraphwyd gan D. Jones MDCCLXXVI.
Pris Swllt."
Cofnoda Gwilym Lleyn yr uchod (Llyfr. y Cymry, t.d. 571), ond y wyneb-ddalen wedi ei hadysgrifennu yn anghywir. Ni wna Ashton un cyfeiriad ato. Yr awdwr oedd y Parch. William Smith, M.A., y cyfieithydd, Parch. David Ellis, Derwen, a'r cyhoeddydd, Dafydd Jones. A theg disgwyl, rhwng y tri, lyfr o werth