Tudalen:Dagrau hiraeth - neu, alareb goffadwriaethol, lle y gwneir coffhad am dros ddau cant a deg-ar-hugain o weinidogion yr efengyl, perthynol i'r gwahanol enwadau crefyddol yn mhlith y Cymry (IA wg35-5-244).pdf/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ble mae Jones o Aberystwyth,
A Hugh Jones o Llanerchymedd,
Ble John Williams, Sir Gaernarfon,
Gŵron grymus gydai glêdd?
Edward Hughes yn llawn o ddyddiau,
Ymadawodd do mewn hedd,
William Griffiths aeth yn gynar,
I briddellau oer y bedd.

Ble mae Azariah Shadrach,
Ble mae Rees, Llanbadarn-fawr
Ble mae Saunders, Aberystwyth?
Yn eu beddau oll yn awr.
Vicar Hughes y gwr llafurus,
A llwyddianus yn ei ddydd,
A'r dysgedig Ddoctor Thirwall,
Heddyw sy'n eu gwely pridd.

Ble mac Jones o Madagascar,
Johns, a Bevan, dda eu gair,
Thomas Jones o fryniau Cassia,
A John Roberts, Llanbrynmair,
Richard Williams o Llynlleifiad,
I. D. Ffraid y gwron gwiw,
Wedi gadael gwlad y ddaear,
I breswylio gyda Duw.

Moses Parry, gynt o Dinbych,
David Meyler, Abergwaun,
Ac Elias o Llangamarch,
A rhyw luoedd gyda rhai'n,
Hughes, Pontrobert, gwron grymus,
Wedi myn'd i blith y llu,
Sydd yn awr yn gorfoleddu,
Yn nhrigfanau'r nefoedd fry.



Nawr mi enwais bob rhyw enwad,
Fel rwy'n cofio o'r dechreuad,
Ac rwy'n caru am holl galon,
Bawb o'r cywir bererinion.