Tudalen:Dagrau hiraeth - neu, alareb goffadwriaethol, lle y gwneir coffhad am dros ddau cant a deg-ar-hugain o weinidogion yr efengyl, perthynol i'r gwahanol enwadau crefyddol yn mhlith y Cymry (IA wg35-5-244).pdf/2

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DAGRAU HIRAETH.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

DAETH i'm meddwl ryw ddiwrnod
Edrych dros fy oes, fel cyfnod—
Lawn o freintiau, roddwyd imi,
Gan fy anwyl Briod Iesu.

Cofiais lawer o'r Cenadon
A fu'n galw arnai'n ffyddlon;
Erbyn heddyw wedi huno,
Yn eu beddau yn noswylio.

Cofus genyf imi wrando
'R oll a enwaf wrthych heno,
O fewn tri'gain o flynyddau,
Rhai o honynt amryw weithiau.

Er eich mwyn y plant sy'n codi―
Dyna pa'm yr wyf yn eu henwi,
Fel y gwypoch am y cewri
Fu'u llafurio gynt yn Nghymru.

Gwir fod rhai o'r cedyrn cynta'
Wedi bod yn gweithio yma,
Rai blynyddau cyn fy ngeni,
Gwyr a wnaeth i'r ddaear grynu.

Cly wais sôn am Howell Harris,
Daniel Rowland, Howell Davies,
Robert Roberts, Jones, Llangana,
Peter Williams, Charles o'r Bala.

William Williams, Pantycelyn,
David Charles o Sir Gaerfyrddin,
Griffith Jones, a'r Ficar Prichard,
Oe'nt ganwyllau'n llosgi'n danbaid.