David Morris, Jones, Dolfonddu,
Doctor Lewis, David Parry,
A John Evans gynt o'r Bala,
Dyna rai o'r cedyrn cynta'.
Ond, gadawaf nawr o'r neilldu
Yr enwogion mawrion hyny;
Dim ond enwi yn ddirodres,
Y rhai hyny a wrandawais.
Ble mae'r enwog John Elias,
Ble mae Moses Jones o'r Dinas,
Roberts, Amlwch, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mae Ebenezer Morris,
Duwiol, doniol, a llafurus,
Jenkin Davies-hoff yw'r enw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
David Evans, Aberaeron,
Gwr yn meddu ar hynodion,
Thomas Green, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mae'r cedyrn o Lanllyfni,
Fu mor enwog drwy holl Gymru,
John, a Dafydd, William hefyd?
Wedi cyrhaedd bryniau gwynfyd.
Pa le mae Cadwaladr Owen,
Enwog ddyn o Ddolyddelen,
Phillips, Bangor, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mae William Roberts, Clynog,
Michael Roberts, fu mor enwog
Eben Fardd, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.