Tudalen:Dagrau hiraeth - neu, alareb goffadwriaethol, lle y gwneir coffhad am dros ddau cant a deg-ar-hugain o weinidogion yr efengyl, perthynol i'r gwahanol enwadau crefyddol yn mhlith y Cymry (IA wg35-5-244).pdf/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ble mae'r ffraethbert David Davies,
A'r heddychlon Thomas Lewis,
Joseph Jones, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae Owens, Capel Ffynon,
Abel Green o Aberayron,"
Daniel Evans, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

David Thomas, Dewi-brefi.
Abram Oliver wedi hyny,
Stephen Griffiths, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

John Ffoulk Jones, o Dre Machynlleth,
Wedi ei luddias gan farwolaeth,
Ieuan Gwyllt, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Evans, Harlech, a Ffoulk Evan,
Wedi eu gosod yn y graian,
Humphrey Evans, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Hughes, Caernarvon, Owens, Gwindy,
Howell Powel, Cincinnati,
Hughes, Beaumaris, ble mae hwnw ?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Jenkin Jones a Thomas Evans,
Edward Mason, a David Morgans,
Morgan James, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Titus Jones a William Jenkin,
Thomas Rowland, Sir Gaerfyrddin,
Owen Lewis, Davies, Caio,
Williams, Myddfai, wedi huno.