Tudalen:Diarhebion Cymru.djvu/11

Gwirwyd y dudalen hon

Ceir cymorth i feddwl yn glir ac i'r pwrpas. Bum lawer gwaith yn gwrando ar iaith aneglur rhai sy'n byw ar y papur newydd, ac mewn gormod o ffrwst i feddwl. Bum hefyd yn gwrando ar rai,—hen bobl y rhan amlaf,—yn siarud yn glir, yn dweyd meddyliau tarawiadol, hawdd eu cofio, gwerth eu cofio. A sylwais fod ol y diarhebion ar feddwl ac arddull y rhain. Weithian bydd eu hymgom yn dryfrith o ddiarhebion. Ac fel clo i ysgwrs, nis gwn am ddim gwell na dihareb darawiadol.

Ceir adnabod meddwl Cymru yn y Diarhebion. Y mae doethineb cydymdeimlad ynddynt. Y maent yn feddyliau cenedl y medrid proffwydo am dani y aberthai er mwyn y gwir a'r tlws a'r doeth. Nid chwerwder, nid dirmyg, nid diffyg ffydd geir ynddynt: ond bywyd iach, cryf, llawn ffydd yn Nuw a chariad at gymydog. Ac oddiwrth ei diarhebion yr adnabyddir cenedl oreu.

Ai gormod gofyn i'r rhai sy'n caru Cymru ddysgu'r Diarhebion i'w plant? Dysger hwy at gyfarfodydd Urdd y Delyn, ac esbonier hwy yno, fel y dysgir ac yr esbonnir diarhebion Israel yn yr Ysgol Sul. Tlysni ymadrodd, symlder iaith, trylwyredd meddwl,—dyna ddaw o'u dysgu hwy.

Nid pob un fedr roddi pedwar cant o bunnau i'w blentyn. Ond dyma bedwar cant o berlau, perlau meddwl Cymru, y gall eu rhoddi yn drysor anfarwol iddo. Agoriad i olud meddwl, drych i weled profiad, ffordd i ddoethineb,—y mae'r ddihareb yn well nag aur Gall roddi'r aur, a mwy.

OWEN M. EDWARDS.
LLANUWCHLLYN,
Awst 24ain, 1897.