Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/96

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto



ENGLYNION
I Syr R. W. Fychan, Bart., Nannau, 1824 .

Y Beirddion doethion hyd arch , -- ymreswch
I 'mryson cyd gyfarch ;
Syr Robert sy wr hybarch ,

Teilyngydd beunydd o barch.

Mynwesawl gymwynasydd,-hoff anwyl
A phenaeth Meirionydd ;
Taener ar led y gwledydd,
Ei glod ef fel goleu dydd.

Gwladgarwr gloyw -deg eirioes - a difalch
Bendefig mwyneidd -foes,
Blaenor tirion ferth -lon foes
Tirionaidd, trwy ei einioes.

Am weithydd pawb ymwthiant, -i Nannau
Yn union y rhedant;
Croesaw maith a gwaith a gant

Yn fwynaidd pan ofynant.
Yn Nannau , prif fan enwog , -ugeiniau
O genhedl y marchog
Fo'n tario tra cano côg,

Fel duwiau yn flodeuog .
Asgre lan Fychan a fo - yn barchus
Iawn berchen ar hono ;

Cawr seddawg hir oes iddo,
Yn Nannau fraisg nen y fro .