Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ennu mor hynod ag ef, fe fyddai raid ichwi wrth yr iau a'r gïau a'r cylla oedd ganddo. I ffurfio arddull neilltuol y mae'n rhaid ichwi ffurfio cymeriad neilltuol, ac y mae hynny'n waith poenus a maith. Fe anwyd rhai yn wahanol i'r cyffredin, ac am hynny y mae'n weddol hawdd iddynt hwy sgrifennu a llefaru'n wahanol i'r cyffredin. Gwybydder hagen nad oes gan bob ysgrifennwr hynod ddim arddull; canys y mae llawer un yn ysgrifennu'n hynod am ei fod yn amharchu anian ac yn troseddu deddfau cyffredin yr iaith y byddo'n ysgrifennu ynddi. Cofier bod i iaith hefyd ei harddull, ac y dylai arddull y dyn ymaddasu i arddull yr iaith. Er cynifer o ffurfiau newyddion ar eiriau ac ar ymadroddion a ddygodd Carlyle i'r Saesneg, yr oedd o'n ufuddhau i hen ddeddfau'r iaith honno mor fanwl â neb. Pascal a Paul-Louis Courier, yn ôl G. P. Marsh, ydyw'r ddau awdur perffeithiaf eu harddull a ymddangosodd yn yr oesoedd diwethaf hyn; ond wrth gymell y Ffrangeg i ymostwng i'w harddull hwy, yr oeddynt hwythau yn ymostwng i'w deddfau hithau; ac os oeddynt hwythau'n gallu sgrifennu'n hynodol mewn iaith mor gaeth ei gramadeg â'r Ffrangeg, pa faint haws y gall eraill ysgrifennu felly, a bod yn ramadegol hefyd, mewn ieithoedd mor ystwyth â'r