Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ninnau. A pha beth bynnag a feddyliwn ni am las-ganu pregeth, y mae'n ddiddadl y rhaid wrth fwy o gelfyddyd y prydydd a'r cerddor i wneuthur pregeth ganadwy na phregeth waeddadwy. Paham yr oedd y diweddar Richard Owen gymaint mwy effeithiol na phregethwyr eraill? Am hyn, yn un peth, sef bod miwsig yr hen bregethwyr yn ei lais ac yn ei iaith hefyd. Yr oedd o'n cofio bod gan agos pob Cymro dair clust, ac yn credu mai trwy agoryd y feinaf o'r tair y gallai'n orau fwrw eiriau i'r galon oedd islaw iddi.

Hyd yn oed pe bai amser, nid oes achos imi draethu am YSTWYTHDER, EGLURDER a MANYLDER, bob un ar ei ben ei hun, am fod ystwythder ac eglurder yn y Gymraeg yn gorffwys yn gyffredin ar fanylder. Dywedwch rywbeth yn fanwl, a chwi a'i dywedwch yn eglur ac yn ystwyth hefyd. Fe ellir gwrthdroi mwy ar frawddeg Gymraeg nag ar frawddeg Ellmyneg, ac y mae pob newidiad a wneir ar drefn geiriau mewn brawddeg Gymraeg yn arwyddo newidiad ar ystyr y frawddeg; peth na ellir ei ddywedyd am frawddeg Ellmyneg. Er mwyn arbwys ac amrywiaeth y symudir gair i ddechrau brawddeg yn yr Ellmyneg, ond yn y Gymraeg fe wneir hynny er mwyn cyferbyniaeth hefyd. Y mae'r gair a symudir o'i le arferol i