Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/18

Gwirwyd y dudalen hon

Disgynna 'r gwlaw, ac eto 'r gwynt
A rua yn y llwyn,
Uwchben amddifad eneth dlawd,
Tra deil ei channwyll frwyn;
Ar ôl ei thad, ar ôl ei mham,
Ei chysur oll yn awr
Yw plygu wrth eu gwely hwy,
A darllen y Beibl mawr.

DYCHWELIAD Y CYMRO I'W WLAD EI HUN

O Hinsawdd i hinsawdd mi grwydrais yn hir,
O rewdir y Gogledd i Itali dlos:
Am danat ti Walia, ar fôr ac ar dir,
Hiraethais y dydd a breuddwydiais y nos.
Cyfeiriais fy nghamrau i'r ardal hoff hon,
Ar gopa Clawdd Offa gosodais fy nhraed;
Daeth awel y mynydd fel gwin i fy mron,
A golwg ar Gymru gynhesodd fy ngwaed,
A golwg ar Gymru gynhesodd ngwaed.

Ar dywod yr anial bu ôl fy nau droed,
Mi deithiais yn oerfel a phoethder yr hin;
O'r fro lle nas tyfodd glaswelltyn erioed,
I wledydd y mêl a gwinllannoedd y gwin;
Yng Nghymru parhaodd fy nghalon o hyd,
Anwylach a harddach oedd hen Walia wen;
Mi groesais y môr i eithafoedd y byd:
Ond croesais yr Hafren i orffwys fy mhen,
Yng nghartref fy nhadau gorffwysaf fy mhen.