Gwirwyd y dudalen hon
EDWARD RICHARD
BUGEILGERDD Y GYNTAF.
GRUFFYDD.
PWY ydyw'r dyn truan, fel hyn wrtho'i hunan,
Rwy'n ganfod yn cwynfan, fel baban dan berth,
A'r dŵr dros ei ddeurudd, yn gostwng dan gystudd?
Myneged i Ruffydd ei drafferth.
MEURIG.
Di weli d' anwylyd, hen gyfaill, mewn gofid,
Corff egwan dan adfyd, o'i blegyd a blyg:
Bid imi drugaredd, fe ddarfu pob rhinwedd,
Anrhydedd, a mawredd ym Meurig.
GRUFFYDD.
A laddodd y bleiddiaid yn ddifwyn dy ddefaid?
Neu a giliodd dy goelaid, lloer gannaid, o'i lle ?
O'r ŵyn aeth i Frwyno, 'does un nad oes yno,
Pob un a grwydro, a geir adre'.
MEURIG.
Ymwasgu â gwag gysgod, a charu'r byd ormod,
Ar ddarn o ddiwyrnod i drallod a dry;
Ni chefais fawr golled, am dda nac am ddefaid,
Mae'r ddôr yn agored i garu.