Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HUGH JONES, MAESGLASAU.

GANWYD HUGH JONES уn 1749. ym Maesglasau, ffermdy yn un o gilfachau'r mynyddoedd sydd rhwng Dinas Mawddwy a Dolgellau. Yr oedd ei dad a'i fam yn dda allan, a chafodd y bachgen llygatddu llon addysg,—medrai Gymraeg ei fro a Saesneg gramadeg, dysgodd hefyd ychydig Roeg a Lladin. Bachgen llawen oedd, yn ganwr da.

Dwyshaodd ei feddwl. Daeth yn athraw ac yn gyfieithydd a chyhoeddwr llyfrau. Daeth yn awdwr yr emyn goreu yn yr iaith Gymraeg.

Yn 1772 yr oedd yn Llundain, ac yno y cyfansoddodd ac y cyfieithodd ei lyfr cyntaf,—"Cydymaith i'r Hwsmon." Yn 1776 daeth "Gardd y Caniadau." Yna ymroddodd am rai blynyddoedd i gyfieithu a chyhoeddi llyfrau duwiol. Yn 1797 cyhoeddodd ei waith gwreiddiol goreu, sef yr Hymnau Newyddion." Yn union wedyn torrodd tymhestloedd arno, ac aeth yn dlawd.

Ond daliodd i ysgrifennu. Yn 1819 cyhoeddodd R. Jones o Ddolgellau "Holl Waith Josephus," dros 1200 tudalen, o gyfieithiad Hugh Jones, gan dalu pedwar neu bum swllt yr wythnos i'r llenor am ei waith, Yn nechreu 1825 yr oedd yn Henllan, yn dlawd ac afiach iawn, yn cyfieithu y "Byd a Ddaw." Pan ar ganol y gwaith hwn bu farw, Ebrill 16, 1825; ac yn Henllan y claddwyd ef.