Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/8

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd ei lawysgrif gain yn ddarlun o goethder manwl ei arddull."

Dyma ddau o'i lyfrau, sy'n brinion iawn erbyn hyn. Y maent, hyd y gellais, air am air, yn cynnwys gwallau'r argraffydd a phopeth. Yn unig gadawyd y cyfeiriadau ysgrythyrol allan o'r "Cydymaith," a lleolwyd un neu ddau o'r materion yn wahanol.

Gan Tegwyn, Dinas Mawddwy, y cefais fenthyg Cydymaith"; o'i ysgrif ef, hefyd, yn Cymru 1904, y cefais lawer o'r ffeithiau hyn. Gan Penar y cefais fenthyg yr "Hymnau," ac ni welais gopi arall yn unlle.

OWEN EDWARDS.