Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/110

Gwirwyd y dudalen hon

MAE'N OLAU YN Y NEFOEDD

OS ydyw'n dywyll yn y bedd,
Lle'n dawel huna'r marw,
Os ydyw angau ar ei sedd
Yn gwylio'r twmpath hwnnw,
Wrth ochr angau ar y bedd,
Addewid Duw sy'n gwenu,
Ac un o engyl gwlad yr hedd
A'i fys yn pwyntio i fyny.

O ddydd i ddydd, o nos i nos,
Fel hyn y dwed yr angel,
"Os ydyw'ch anwyl briod dlôs
Yn awr a'i phen yn isel,
Ei llwch a neidia fyny'n fyw
Ar fore'r adgyfodiad,
Y blwch a'i deil yw llw fy Nuw,
A chanddo Ef mae'r 'goriad.

"Os tywyll ydyw brig yr yw
Sy'n gwylio uwch y beddrod,
Os diffodd wnaeth y golau byw
Oedd yng ngweniadau'ch priod,
Os tywyll yw eich profiad chwi
Ynghanol du dymhestloedd,
Edrychwch rhwng y cymyl fry—
Mae'n olau yn y nefoedd.

"Feallai pan y byddwch chwi
Yn tywallt heilltion ddagrau,
Bydd hithau'n gwenu oddi fry
Dros un o'r aur ganllawiau,
Gan ddweyd—Pob peth yn dda yn awr,
Daeth Haf ar ol tymhestloedd,
F'anwylyd, peidiwch edrych lawr—
Mae'n olau yn y Nefoedd.'"