Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/43

Gwirwyd y dudalen hon

II.-CLOCH Y LLAN.


CLOCH Y LLAN.

HOFFED gennyf ydyw sain
Cloch y Llan!
Drymed imi ydyw sain.
Cloch y Llan!
Llengoedd o adgofion sydd
Yn tramwyo'm calon brudd
Pan y clywaf gyda'r dydd
Gloch y Llan.

Ganwaith pan yn blentyn gynt
Y'm hataliodd ar fy hynt
Cloch y Llan;
Elai chwareu'n llwyr o'm co,
Tra y gwyliwn lawer tro
Fel y siglai uwch y to,—
Cloch y Llan.