Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/44

Gwirwyd y dudalen hon

Dyddiau diddan oedd y rhain,—
Dyddiau pan
Nad oedd tristwch im yn sain
Cloch y Llan;
Ond yn awr wrth ganiad hon,
Gobaith drenga dan fy mron,
Fel y trenga nerth y don,
Ar y lan.

Flwyddi'n ol, ar foreu Sul
Oer a du,
Mewn ystafell lom a chul,
Gwyliwn i
Gydag ingoedd calon friw,
Ymdrech olaf tad i fyw,
Pan ddisgynnodd ar fy nglyw
Ganiad cloch y Llan.

Ond anghofiais fy mhruddhad
Yn y fan,
Pan y gwelais fod fy nhad,
Er yn wan,
Yntau'n gwrando, dan ei chwys,
Megis pe'r ddiweddaf wys,
Ar ganiadau prudd a dwys
Cloch y Llan.

Tawodd hon, ac yna daeth
Fel o waelod
Enaid yn ymroi gan aeth
Ei hir drallod,
Un ochenaid ddofn a maith,
A lefarai yn ei hiaith,—
"Dyma, dyma'r olaf waith
Clywai gloch y Llan."