Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/46

Gwirwyd y dudalen hon

Y GWANWYN I'R AMDDIFAD.

Y FLWYDDYN yn ei rhod,
Unwaith yn chwaneg,
Sy'n ddistaw wedi dod,
A'r gwanwyn gwiwdeg;
Ias bywyd dreiddia'n ol
I fynydd, pant, a dôl,
Ac anian trwy ei chôl,
Eang sy'n twymo.

Arllwysa meib y llwyn
Eu serch ganiadau,
A brefiad per yr wyn
Sydd hyd y bryniau;
Anadla'r briaill mwyn
Hoen bywyd ar bob twyn,
Pob cyfareddol swyn
Natur sy'n deffro.

Dyn hefyd, er ei flin
A'i aml gyni,
Sydd yntau fel yr hin,
Yn ymsirioli,
Disgleiria yn fwy llon
Dân gobaith tan ei fron,
Rhag iddo gan fynych don
Siomiant, ddiffoddi.

Ond beth yw hyn i MI?
Beth yw dychweliad
Y gwanwyn yn ei fri
I'r llanc amddifad?
Er dod o anadl Duw
A chwythu ar bopeth byw,
Ni chyrraedd hyd at wyw
Wedd fy rhieni.