Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/58

Gwirwyd y dudalen hon

Pan welaist gynlluniadau hoff dy oes,
Oedd weithian yn eu blodau, wedi gwywo;
Pan orfu it adael fyth y llannerch dlos
Lle gobeithiesit mewn tawelwch dreulio
Prydnawn dy fywyd; pan yng ngrym dy loes—
Y gwelaist hen gyfeillion yn dy ado,—
Dy ysbryd mewn dwfn alaeth a ymsuddodd,
A'th galon gan ei gofid a ymrwygodd.

Ac eto, yn dy gystudd maith a châs,
Mor ymostyngol fyddai'th wedd bob pryd,
Amynedd plentyn Duw trwy'th lygad glas
Belydrai mewn gogoniant mwy o hyd;
Ynghanol dy bangfeydd y'th nerthai gras
I dawel ddwyn dy gyfran yn y byd;
Dy boen o'th fron ddirwasgodd lawer gruddfan,
Ond nid, mewn pedwar mis, un lleied cwynfan.

Wrth wylio'th wely angeu, O fy nhad,
Gwelais mor hawdd, mor anhawdd peth yw marw;
Mor hawdd am wynfyd pur y nefol wlad
Cyfnewid drwg y byd a'i droion chwerw;
Mor anhawdd gadael gwraig a theulu mad
I syllu trwy eu dagrau mwy ar welw
Wynepryd tlodi, pan na byddai eilwaith
Dy gymorth parod di i'w droi ef ymaith.

Anhawdd iawn, iawn, oedd ymryddhau odynn
Afaelion hen gymdeithion deugain gwanwyn,—
Y meusydd hoff, y defaid ar y bryn,
Yr adar garet wrando pan yn blentyn,
Y dydd a'r nos,—harddwch y cwmwl gwyn,
Lleuad, a ser, a haul,—O gloew'r deigryn
Ymlwybrai hyd dy rudd wrth weled ola"
Belydryn haul yn gwenu ar dy boenau.