Tudalen:Hanes Brwydr Warterloo.djvu/11

Gwirwyd y dudalen hon

nechreu y frwydr, iddo lefain wrtho ei hun, "Yn awr, fy anwyl osgorddion, curwch hwy yn ol." Dro arall pan ddygwyddodd iddo fod yn gyfagos i'r 95 gatrawd, a chanfod fod mintai arswydus o wyr meirch yn ymbarotoi i ruthro arni, efe a farchogodd i fyny at y gatrawd, gan waeddi, "Sefwch yn sad, 95, ni wiw i ni gael ein curo, beth a ddywedant hwy yn Mhrydain?"—Yr oedd Buonaparte o'i ochr yntau, wrth weled y frwydr yn fwy aflwyddianuns nag y dysgwyliodd, yn dyfod yn amhwyllus a phigog. Deuodd cenad ato, i hysbysu iddo fod pethau yn ymddangos yn lled wgus, efe a drôdd ei gefn ar y genad, ac ni fynai ei wrandaw. Nid oedd dim yn awr ond hyrddio ei wyr yn mlaen, mintai ar ol mintai, rhuthr ar ol rhuthr; ac fel yr oedd y rhai hyn yn aflwyddo, yr oedd ei ddigllonedd yn cynyddu. Ei ateb i bob newydd anghysurus oedd, "Rhagoch, rhagoch." Yr oedd ei ymddygiad yn llenwi y milwyr a'u blaenoriaid â hollol ddibrisdod, ac yn peri iddynt anturio eu bywydau yn ddirfawr a diarswyd. A llefaru yn ddynol, ni fuasai un fyddin arall dan haul yn gallu gwrthsefyll y fath ymosodiadau; ac y mae y fuddugoliaeth i'w phriodoli gymaint i bwyll ac amynedd y milwyr ag i'w dewrder.

YR YMOSODIAD AR GANOLBWYNT EIN BYDDIN,

Nid allai dim fod yn fwy ofnadwy na dull ymosodiad y Ffrangcod, o dan Iarll D'Erlon, ar ganol ein byddin. Fe'u harweiniwyd yn mlaen gan fagnelau, y rhai oeddynt yn bwrw cawodydd o beleni; ac yn y pen blaen yr oedd y Cuirassiers, mewn gwisgoedd haiarn, ar y rhai y clywid y peleni yn seinio, ac yn neidio ymaith heb niweidio y gwisgydd.

Cyfarfyddodd y Saeson yr ymosodiad yma yn ddiarswyd. Darfu i Syr Thomas Picton, heb aros yr ymosodiad, ffurfio el ddosparth i ysgwariau, cynwysedig o dri chatrawd, a chyda mintai Syr Denis Pack, cynwysedig o dri chatrawd, aethant yn mlaen i'r ymosodiad. Y Ffrangcod, ar ol dyoddef colled ddirfawr, a yrwyd i'r gwastadedd. Ymosododd marchfilwyr y Cadfridog Ponsonby ar asgell o'r fyddin Frangcaidd, pan y taflasant ymaith eu harfau, ac a ddiangasant bob ffordd. Cymerwyd eryr a dwy fil o garcharorion. Ond dylynodd y marchfilwyr Saesonig hwynt yn rhy bell; taniwyd arnynt gan golofn arall; a thrwy i fintai o farchfilwyr Ffrengig ymosod arnynt, gyrwyd hwynt yn ol gyda chryn golled. Yr oedd mintai Ponsonby yn gynwysedig o'r Royal Dragoons, Scotch Greys, a'r Enniskillens—byddinoedd Saesonig, Ysgotaidd, a Gwyddelig. Gwnaed yr ymosodiad yn dra doeth, canys nid cynt y gwelodd ef y milwyr Ffrengig mewn ymladdfa boeth, nag yr arweiniodd ei fintai i fyny ar hyd y llechwedd, ac yr aeth rhwng yr ysgwariau Prydeinaidd. Llym a gwyllt y seiniai y bibell o'r rhengau Yagotaidd, yn gymysgedig a'r bloeddiadau, "Scotland for ever!" Pan welodd milwyr y catrawd Yagotaidd eu cydwladwyr eon, y Scotch Greys, yn dyfod i'w cynorthwyo, atebasant yn llawen gyda'r cyffelyb fanllefau rhyfelgar, a rhuthrodd yr oll o'r fintai eon ar unwaith ar y gelyn. Nis gallai y Ffrangood sefyll yn erbyn y fath ymosodiad, diangasant ar unwaith—ac fel y nodwyd darfu i'r Prydeiniaid, yn eu penboethni, eu dylyn yn rhy bell. Yn yr erlyniad eon ond anghall yma y collodd Syr William Ponsonby ei fywyd. Gwelodd eofndra dibris ei filwyr gyda fath bryder, fel yn ei ofn am eu dyogelwch y collodd pob gofal am dano ei hun. Gan yspardynu ei geffyl, carlamodd ar eu holau, heb ond un swyddwr gydag ef. Yn fuan daeth i gae lle yr oedd y ddaear mor feddal fel y suddodd ei geffyl, creadur ieuangc, odditano ef. Pan yn ymdrechu dyfod allan, gwelodd fintai o'r Lancers Ffrangig yn dynesu, a chan weled nad oedd ganddo un gobaith i ddiangc, tynodd allan gyda phob brys awror a darlun, a phan yn y weithred o'u rhoddi i'r swyddwr, i'w rhoddi i'w wraig, daeth y lancers i fyny, a lladdwyd y ddau yn y fan. Cafwyd hyd i gorph Syr William Ponsonby ar ol y frwydr, yn gorwedd wrth ymyl ei geffyl, gyda saith o archollion oddiwrth y picellau. Ond ni chwympodd yn ddiddial; cyn diwedd y dydd cafodd y lancers eu tori i lawr bron i gyd gan y fintai ddewr a arweiniesid mor eon yn eu herbyn gan y swyddwr hwnw, cyn ei farwolaeth. Yn ol cofiant Syr Thomas Picton,—"Yr oedd y colofnau Ffrengig yn cerdded wrth ochr y gwrych, aeth y Saeson yn mlaen i'w cyfarfod hwynt, ac yr oedd ffroenau eu drylliau bron yn cydgyffwrdd. Gorchymynodd Picton i fintai Syr James Kempt fyned yn mlaen; llamasant dros y gwrych, a derbyniwyd hwynt gan gyflegriad arswydus. Yna cymerodd ymdrech ofnadwy le; rhuthrodd y Saeson gyda ffyrnigrwydd ar eu gwrthwynebwyr, heb aros i lenwi eu drylliau, ond ymddibynu yn gwbl ar eu bidogau. Yr oedd taniad y Ffrangcod, modd bynag, wedi lleihau eu nifer yn erchyll, ac yr oeddynt yn ymladd o leiaf chwech i un. Gorchymynodd Picton, gan hyny, i fintai y Cadfridog Pack fyned yn mlaen. A chan floeddio, "Ymosodwch!