Tudalen:Hanes Brwydr Warterloo.djvu/9

Gwirwyd y dudalen hon

mlaen a dderbyniwyd ar flaenau y bidogau. Mor ofnadwy oedd y gyflafan yn y llanerch hon, fel mewn llai na haner awr yr oedd 1,500 o gyrph meirwon yn hulio y berllan yn unig. Olynol, fel tonau ewynawg yr eigion, dylifai minteioedd y gelyn yn erbyn y lle hwn; a'r Gosgorddion Saosonig, i'r rhai yr ymddiriedid ei gadwraeth, fel creigiau cedyen a wrthsafasant eu holl ymgyrch, gan daflu yn ol eu hymosodiadau brochus, yn ddrylliedig ac ar wasgar, Yr oedd pob un yn ymladd fel pe buasai yn ymddibynu ar ei ymdrechiadau personol ef et hun droi mantol y frwydr o ochr Brydain. Yr oedd y magnelau oddi ar y bryn yn tywallt eu cynwysiadau dinystriol ar y lle ar yr un pryd. Anturiai rhai o'r Ffrangcod dros y clawdd i'r berllan, lle y byddai blaenau llymion cannoedd o fidogau yn barod i'w derbyn. Yna tröent eu hymgais yn erbyn y tŷ a'r tai allan, y rhai, o'r diwedd, a gymerasant dân; ond yn nghanol y tan a'r mwg a'r cwbl, ni phallodd y Gosgorddion yn eu hymdrechiadau. Yr oeddynt yn ymladd yn nghanol y flamau, nid oedd dim ond angeu ei hun a'u hataliai. Ond och! i'r rhai hyn yr oedd cannoedd o'r clwyfedigion wedi ymlungo am gysgod, a thrwm yw adrodd iddynt drengu oll yn y fflamau! Yr oedd eu cyfeillion o'r tu allan yn rhy brysur i wrandaw ar eu hysgrechau, ac yr oedd hyd yn nod pob munudyn o gymaint pwys, fel nad allent ganiatáu amser i'w hachub! Er holl ymgais y Ffrangood ni lwyddasant. Ein milwyr dewrion, gyda mwy o wrolder nag y gall tafod draethu, a'u gorthrechasant ymhob ymgyrch, a chadwasant y lle yn eu meddiant drwy gydol y dydd.

YMWELIAD A MAES Y FRWYDR.

Rhoddwn lythyr y Parch. Mr. Rudge, yr hwn a ymwelodd â maes Waterloo ychydig ddyddiau wedi y frwydr. Efe a ddyry yr hanes canlynol o Hougoumont:— "Ond wedi y cyfan nid oedd unrhyw fan o faes yr ymladdfa a ddygodd fy sylw yn fwy na thŷ a gardd Hougoumont, lle y dechreuodd yr ymladdfa. Yn y lle hwn treuliais rai munudiau mewn synfyfyr mawr. Yn y llanerch hon y bu y frwydr yn fwyaf gwaedlyd. Yma y dangosodd y milwyr Saesonig y fath ddewrder pwyllog, a grym corphorol, nes gwneyd yn gwbl ofer holl ymosodiadau dychrynllyd y Ffrangcod. Profodd pob Prydeiniad ei hun yma yn wron. Yr oedd yr holl dai fel rhyw hen furddynod pan ymwelais i a'r lle. Nid oedd unrhyw ran yn gyfan: ond yr oedd y cwbl i edrych arnynt yn arswydus. Yn un o'r tai, nen a mur yr hwn oedd wedi dryllio yn fawr, yr oedd ystafell eang, ar yr hon yr oedd cannoedd o gyrph y meirw yn gorwedd wedi eu llosgi. Yr oedd eu lludw eto yn mygu, ac yr wyf yn sicr na ryfygwn pe dywedwn fod lludw y meirw yn y fan hon yn dair troedfedd o ddyfn. Yr oedd yr ardd ag oedd yn perthyn i'r tŷ yn lled helaeth, ac mi feddyliwn ei bod ar y cyntaf wedi ei threfnu yn hardd a dillynaidd. Yr oedd yn cael ei chylchynu â gwal gadarn, yr hon a gaed yn gysgod i'n gwŷr ni, i'r rhai yr ymddiriedwyd y lle. Ar ei chyfer yr oedd coedwig fechan, yn yr hon yr oedd y Ffrangcod; ac oddi yma tanient arnynt drwy gydol y dydd, a'n gwyr dewrion ninau a ergydient arnynt hwythau drwy fylchau a dorasent yn y wal. Yr oedd effeithiau y bwledau ar y coedydd â rhyw beth yn hynod ynddynt. Nid oedd gymaint a choeden nad oedd wedi ei thyllu yn mhob cwr. Yr oedd brigau y coedydd yn llawn dail, ac yn edrych yn goch, a'u gwyrddlesni arnynt, a'r bonau yn ysgythrog, wedi eu tyllu a'u dirisglo. Yn agos i'r tŷ anedd y mae y llanerch lle y claddwyd, neu y llosgwyd dros fil o laddedigion. Yr oedd yr arogl yn y lle hwn yn hynod o drymllyd! ac mewn rhai manau gallech weled rhyw ranau o'r cyrph. Yr oedd y pridd ag oedd yn eu cuddio wedi gostwng, gan ddwyn i'r golwg fraich mewn un cwr, gwyneb yn y cwr arall, &c. Yr oedd pob peth yn profi dychrynfeydd a galanastra rhyfel! O bob ochr, yr oedd ar led wedi eu taenu arfau a dillad y rhai trengedig; esgidiau, capiau, gwregysau, a phob ceryn milwraidd arall, wedi eu llychwino â gwaed, neu eu toi â chlai a phridd tomlyd. Yn y maesydd yd, y rhai oedd wedi cael eu mathru a'u migno gan garnau y meirch a thraed y milwyr, yr oedd nifer o lyfrau, tocynau, a llythyrau. Yr oedd amryw o honynt yn Saesoneg, ychydig o'r rhai a ddarllenais, ac yn enwedig un oddiwrth un o'r milwyr at ferch ieuangc yn y pen gogleddol i Loegr, yn yr hwn y rhoddai iddi hanes ei fod yn mrwydr yr 16eg, af fod mor ffawdus a diangc heb ei glwyfo; ei fod yn dysgwyl brwydr arall, ac yn gobeithio y cymerid Boni, y gosodid pen ar y rhyfel, ac yna y cai ddychwelyd, a bod yn ddedwydd gyda'i—am y gweddill o'i ddyddiau. Yr oedd y llythyr hwn wedi ei ddyddio y 17eg, a'i lwybreiddio, ond heb ei selio. Pan ddychwelais i Loegr, ysgrifenais at y person i'r hon yr oedd wedi ei gyfeirio, gan ei roddi y tu fewn, a hysbysu hefyd y dull a'r modd y cawawn ef." Wedi ffaelu o'r ymosodiad ar Hougoumont, deuodd yr ymdrech yn gyffredin drwy bob cwr i'r fyddin. Tröwyd ffroenau mwy na dau gan' magnel yn erbyn y Prydein-