Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Haul euraidd—awel araf—
Llwyni heirdd o feillion haf—
Ac adar, yn y goedwig,
Eilient eu cerdd trwy'r werdd wig—
Llun gerddi, 'n llenau gwyrddwawr,
Orchuddiai y Fenai fawr—
Gorheulog awyr wiwlon.
A welid hyd waelod hon.

Mewn un man fe amrywir yr olygfa gan ymddanghosiad a ymlochesa mewn dirgelfan neilltuedig, sef yw hwnnw Rhaeadr yr Aber. Tynn yr angel ambell olygfa gain i bellter enciliedig er mwyn i'r llednais ei deimlad ei hir fwynhau yno arno'i hun heb ymyraeth arall. Pentref bychan digynnwrf Aber yw'r agoriad i'r fan. Fe gychwynnir mewn math ar hûn ysgafn, ac eir drwy'r glyn isel, heibio'r Mŵd ar y dechre, sef tomen a godwyd gan ddyn yw honno, a lle y dywedir y bu Owain Glyndwr yn cyfarch y bobl ymhlaid rhyddid, ac yna eir ar hyd glan yr afon am ryw ddwy filltir feallai o ffordd. Yma'r estyn Hud ei ddylanwad ar y meddwl yn araf araf fel yr eir ymlaen. Ar y ffordd, yma ac acw, fe dery'r ffrwd ei dyfroedd yn erbyn y cerrig yng ngwely'r afon â rhuthr, nes chwistrellu'r dafnau gwynias yn yr heulwen, rhyw argoel o'r rhuthr mwy gerllaw. Fel y dynesir at hwnnw, dyna'r chwarddiad ysgafn gogleisiol gerllaw yn rhyw ddarfod, a'r dwfn-chwarddiad cyfareddol yn y pwll berwedig yn dod yn fwy clywadwy. Ac yna, dyna'r rhu dwfn yn ymnewid yn arafdeg deg yn rhyw uchel sisial cryf cryfach. Wedi bod o'r dwfr fel hyn yn hir ddwdwr ar hyd y ffordd, dyma fe bellach ar unwaith braidd yn un rhyferthwy grôch! Ni ddadlennir mo rym y rhyferthwy i'r golwg hyd nes bod yn ei ymyl: â throad annisgwyliadwy y daw'r ymdywalltiad ger gŵydd wyneb dyn. Nid yw ond cymhariaethol fawr ynddo'i hun, ac ni fedd amrywiaeth rhamantus. Yn y tawelwch dieithr y ged ei argraff briodol o fawreddusrwydd syml, fel yr ymdyrr ac yr ymdywallt yn ewynllaes wynias dros y dibyn cau a thywyll. A rhaid ei weled yn y gaeaf, neu ynte ar ol llifogydd gwanwyn, er peri'r cyffro dyladwy ar y meddwl. Y pryd hwnnw fel ymgyfyd oddiwrth y rhaeadr len ysgafn o wawnwe arianaidd, gan ymledu o amgylch, a chan ddal y gwlith arni, ac a dywynna'n eirian yn yr heulwen fel rhyw rwydwaith bendith eu mamau, gan ffurfio cyferbyniad disglair â'r graig ddu a chau o'r tucefn ac â brigau'r ynn a'u dail tyner gwyrddaidd ar y naill ochr a'r