eglwysig; ac er eu bod yn amrywiol ddosbarthiadau, er hynny nid ydynt ond un eglwys. Ac nid yw yr eglwys hono chwaith yn ddim mwy anymddibynol na'r eglwysi yn Nghymru; ond yn hollol dan olygiad a threfniad Cymdeithasiad y Corff yno, yn yr un modd ag y mae holl eglwysi y Trefnyddion Calfinaidd trwy Ogledd a Deheudir Cymru. Ac nid yw Cappelau y Trefnyddion Calfinaidd Cymreig yn Llynlleifiad yn feddiant priodol i'r eglwys yno: ac y maent wedi eu diogelu hefyd fel nad ydynt mewn perygl o gael eu meddiannu gan neb o'r Ymddiriedwyr, y rhai y mae eu henwau yn y gweithredoedd, na chan neb o'u hetifeddion: o blegid y maent wedi eu sicrhau yn y gweithredoedd i fod yn eiddo i Gorff y Trefnyddion Calfinaidd, megis y mae y Cappelau sydd yn Nghymru yn eiddo iddynt."
Yn lled fuan ar ôl colli gwasanaeth Daniel Jones, dioddefodd yr eglwys ddwy golled fawr arall, trwy farwolaeth y ddau ŵr amlycaf yn eu plith. Ym mis Mai, 1825, bu farw Thomas Edwards, y pregethwr; ac yn niwedd y flwyddyn 1828 bu farw Thomas Hughes, y gweinidog. Buasai'r ddau yn cydlafurio yn ffyddlon, ac yn yr ysbryd mwyaf brawdol a charuaidd, am yr ysbaid maith o un mlynedd ar bymtheg ar hugain. Yr oedd galar yr eglwys yn fawr; teimlent yn dra amddifad, ac nid oedd bellach weinidog ordeiniedig yn eu plith. Anfonodd John Elias a James Hughes, Llundain, ac eraill, lythyrau yn amlygu "y cydymdeimlad mwyaf brawdol a thirion" â'r eglwys yn ei galar, y rhai a ddarllenwyd yn y cyfarfodydd eglwysig, gan" gyffroi y teimladau mwyaf galarus, a pheri i lawer o ddagrau gael eu tywallt." Bellach gadawn hanes yr eglwys fel y cyfryw, i gymryd cip-drem ar nodweddion ei bywyd, a'i threfniadau mewnol yn y cyfnod bore hwn, cyn belled ag y caniata y defnyddiau prin sydd gennym inni wneuthur hynny; ac adrodd hefyd yn helaethach am rai o'r gwŷr a fu yn arwain yr eglwys yn y blynyddoedd yma, ynghyda rhai o'r aelodau amlycaf a hynotaf a berthynai iddi.