gynhyrfodd bobl Llanrhaiadr—ei blwyfolion ei hun—yn erbyn y ficer dysgedig, i daenu celwyddau am dano, a chyhoeddi nad oedd yn alluog i wneyd y cyfieithiad. Nid yn unig anfonwyd hyn at ei esgob, ond hefyd at Archesgob Caergaint er mwyn gosod rhwystrau ar ei ffordd i fyned yn mlaen. Gorfu iddo ymddangos o flaen yr archesgob, yn bryderus iawn, mewn canlyniad. Ond, fel y bydd yn dygwydd yn fynych, trodd gelyniaeth ei wrthwynebwyr yn fantais o'r mwyaf iddo. Wrth ei holi gwelodd yr Archesgob Whitgift yn fuan ei fod yn ysgolor o radd uchel, ac yn feistrolgar yn yr Hebraeg a'r Groeg, a gwelodd yr un mor amlwg ddichellion drygionus ei gyhuddwyr. Gofynodd yr archesgob iddo, "A fedrwch chwi y Gymraeg yn gystal a'r Hebraeg?" Atebodd y ficer yn ostyngedig, "Gobeithio, fy arglwydd, y goddefwch chwi i mi eich sicrhau y medraf iaith fy mam yn well nag un iaith arall." Wedi hyn cafodd bob cefnogaeth a chynorthwy oddi ar law yr Archesgob.
Gwelwn nad oedd amgylchiadau y ficer Morgan yn gyfryw ag y gallasai fyned dan draul argraphu y Bibl oni bai iddo dderbyn cymhorth oddiar ddwylaw eraill. Cyfaddefa