y Bibl, yn nhŷ Dr. Goodman, Deon Westminster, y gwnelai ei arosiad.
O'r diwedd cafwyd y Bibl yn gyflawn yn argraphedig yn yr iaith Gymraeg; ond yr oedd y cyflenwad o hono yn brin, mor brin fel nad oedd mwy nag un Bibl yn mhob plwyf, a hwnw mewn man nad oedd y bobl yn prisio fawr am fyned ato. Yr oedd y ddeddf a basiwyd agos ddeng mlynedd ar ugain cyn hyn, yn gofyn am Fibl i bob eglwys. Ond fel y methwyd cadw y gyfraith mewn dwyn allan Fibl Cymraeg o gwbl, mae'n bosibl ddigon iddynt fethu mewn nifer digonol, pan ddaeth allan, ar gyfer yr eglwysi. Dywed Walker fod nifer yr eglwysi y pryd hwnw tuag wyth cant; ac os ychwanegir at hyny yr eglwysi cadeiriol, a'r capeli esmwythid (chapels of ease), nis gallant fod yn llai nag o naw cant i fil. Nid oedd yr agraphiadau o lyfrau yr amser hwnw yn cynwys ond nifer bychan wrth eu cydmaru ag argraphiadau presenol. Ystyriai argraphydd y Bibl Saesneg argraphiad o bumtheg cant yn rhif mawr, ar gyfer holl Loegr. Buasai, felly, haner y nifer hwnw yn rhif mawr iawn ar gyfer Cymru. Yn wir buasai pum neu chwech chant i Gymru yn ymddangos yn argraphiad mawr. Ond ni