iaith ein hunain, ac escobion a fedront yscrifenu, pregethu, a darllen Cymraeg. Amen."
Yn y flwyddyn 1770 y cyhoeddodd y Parch. Peter Williams, o Sir Gaerfyrddin "Y Beibl Sanctaidd; sef yr Hên Destament a'r Newydd, gyda Nodau a Sylwadau ar bob Pennod. Caerfyrddin argraphwyd dros y Parch. Peter Williams. 1770." Dyma 'r waith gyntaf i'r Bibl gael ei argraphu yn Nghymru, ac y mae hyn yn glod nid bychan i hen dref Myrddin. Dyma y Bibl mwyaf adnabyddus yn Nghymru, a mwyaf hoff gan y genedl o ddydd ei ymddangosiad hyd y dydd hwn. Mae "Bibl Peter Williams" yn air teuluaidd trwy holl Gymru, ac yn cael ei ystyried yn un o ddodrefn hanfodol pob teulu bellach am fwy na chan' mlynedd. Argraphwyd wyth mil o honynt, a gwerthid hwynt am bunt yr un, wedi eu rhwymo. Yr oedd Richard Morris wedi rhoddi dau fap i'w harddu, fel y gwnaethai William Jones (tad Syr W. Jones) a Biblau y blynyddau 1746 a 1752. Dyma yr esponiad Cymraeg cyntaf hefyd ar y Bibl. Mae yn wir fod un John Evans, athraw yn y celfyddydau, wedi cyhoeddi "Cysondeb y Pedair Efengyl" bum mlynedd o flaen Bibl Peter Williams, ac yr oedd hwnw yn cynwys nodiadau byrion ar adnodau. Ond