Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/228

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ADRODD.

Mae'r haul a'r helwyr yn disgyn 'run pryd—
Un i wyll nos, a'r lleill wrth ryw ffos,
I aros am yfory.


Celv vreiniol yw ymorol
Am wersyll oll briodol;
Cael dw'r a phorva, tanwydd dan gamp,
A chlamp o lwyn cysgodol.

O ddewis le sydd oreu,
A dymchwel bawb ei daclau:
Rhoi'r lasso hir am vonyn pren,
A phorwch, hen gefylau.

Dechreua'r goelcerth faglu,
A'r llestri dw'r yn berwi;
Y darnau cig ar forchau pren
yn rhostio'n vendigedig.

Fwdanir am fetanau,
Palvalir i'w perveddau;
A thynir ma's bob llonaid dwrn
Ryw swrn o drugareddau.

Bydd bara 'menyn bwysi,
A siwgwr, te, a chofi,
A chaws gan rai (lled wydn ei wedd),
Ond pwynt y wledd yw'r mati.

A dyna lle bydd bwyta
O'r byrddau rhwng y coesa',
Heb sychu ceg, na hidio pwy
Wnaif vwyav, glanav, gynta'.

A'r cŵn rhag iddynt giprys,
Ga'nt bob i haner estrys;
A rhwth orweddant yn y cylch
Yn grynion dyrch cysurus.

'Rol dovi'r alw reibus,
Ymestyn yn gyforddus;
Mae pawb a'i bibell yn ei big,
Yn mygu'n ogoneddus.

Y siarad sy'n sirioli,
A chwedlau fraeth yn frydli';
Ond byrdwn pawb yw "Nghefyl I."
Neu "Nghi vi," ar ben pob stori.

O vlino ar volianu,
'E wneir cyvrwyau'n wely,
A gorwedd wneir yn union res,
A gwasgu'n nes i gysgu.