Tudalen:Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil).pdf/129

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A buan iawn y daw y dydd
I minnau'u dilyn hwy,
Pan, er fy ngheisio wrth y llyn,
Na cheir mo honof mwy;
Ac os daw rhywun ar ei dro,
I rodio'r glennydd hyn,
A meddwl am eu bardd, a dweyd,
Mewn prudd ymholiad syn,—
"Mae Llyn Geirionydd eto'r un;
Ond Ieuan! P'le mae ef?"
Yr eco a'i hatebai'n chwai—
"Ond Ieuan! Ple mae ef?"