525[1] Pechadur a'r Iesu
76. 76. D.
1 O'TH flaen, O! Dduw, 'r wy'n dyfod,
Gan sefyll o hir-bell;
Pechadur yw fy enw—
Ni feddaf enw gwell;
Trugaredd wy'n ei cheisio,
A'i cheisio eto wnaf,
Trugaredd imi dyro,
'R wy'n marw onis caf.
2 Pechadur wyf, mi welaf,
O! Dduw, na allaf ddim;
'R wy'n dlawd, 'r wy'n frwnt, 'r wy'n euog,
O! bydd drugarog im ;
'R wy'n addef nad oes gennyf,
Trwy 'mywyd hyd fy medd,
O hyd ond gweiddi—" Pechais!
Nid wyf yn haeddu hedd."
3 Mi glywais gynt fod Iesu,
A'i fod Ef felly'n awr,
Yn derbyn publicanod
A phechaduriaid mawr ;
O derbyn, Arglwydd, derbyn
Fi hefyd gyda hwy,
A maddau'r holl anwiredd,
Heb gofio'r camwedd mwy.
- Thomas Williams, Bethesda'r Fro
526[2] Dedwydd Fuddugoliaeth.
76. 76. D.
76. 76. D.
526
1 OS gwelir fi, bechadur,
Ryw ddydd ar ben fy nhaith,
Rhyfeddol fydd y canu,
A newydd fydd yr iaith,
Yn seinio "Buddugoliaeth,"
Am iechydwriaeth lawn,
Heb ofni colli'r frwydyr,
Na bore na phrynhawn.
O Gasgliad Hari Shôn, Pont-y-pŵl