Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/45

Gwirwyd y dudalen hon

Dal gwg o draw ar blant athrylith wir
A wnai yr Esgyb Eingl, rhwysfawr eu gwedd
Yng Nghymru gynt, a throi ar grwydr o'i thir
Yn ddall i'w ddoniau, Ieuan Brydydd Hir.
Heddiw y crwydriad yn ei fro a fedd
Glod a diwyro barch, a daear bedd.

THOMAS STEPHENS
(O Ferthyr)

GADAWODD eraill graith ar lawer twyn
A chlwyf agored ar y llechwedd llwm;
Troesant yn hagrwch geinder dôl a chwm
Wrth durio mynwes gwlad am ddiflan fwyn,
Gan sbeilio brodir o'i chysefin swyn.
Ond chwiliaist ti am filwaith gwell na swm
Y cyfoeth du a ddeil y gwrêng yng nghrwm,
A'i staen yn is na'r glesni ar eu crwyn.

Treuliaist dy nerth i gloddio trysor cudd
Dan lwch yr oesoedd, henaur llên a chân;
Golud anniflan pobl i olau dydd
A ddygaist, nid er bydol elw a budd.
Erys ysblander dy athrylith lân
Pan ddarffo goddaith y ffwrneisi tân.