Cesglais y gwlân, yn ddu a gwyn, Rhwng drain a drysi ciliau gwlad, A dysgais y patrymau hyn Wrth dân o fawn ym mwth fy nhad; A difyr dasg fu troi i'r gwŷdd I'w gweu yn hamdden hwyr y dydd.