Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/119

Gwirwyd y dudalen hon

Mangor, un yng Nghaerdydd, ac un yn Abertawe.

23. Y mae gan blant Cymru'n awr gystal cyfle am addysg â phlant unrhyw wlad.

24. Y mae llawer ohonynt erbyn hyn yn gwneud gwaith pwysig ymhob rhan o'r byd. Ni chânt mwy eu cadw'n ôl oherwydd diffyg addysg.

25. Hefyd y mae llu o bobl ieuainc o wledydd eraill yn dyfod i golegau Cymru bob blwyddyn am yr addysg dda a geir yno.

26. Gydag amser fe geir llyfrau Cymraeg a dynn sylw'r byd.

27. Y mae dyled plant yr oes hon yn fawr i'r rhai a fu'n gweithio mor galed i roddi iddynt eu breintiau.