Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/63

Gwirwyd y dudalen hon

10. Cyn hir, daeth rhywun i ddadlau trostynt gerbron y Frenhines a dynion mawr y wlad. John Penry oedd hwnnw.

11. Ganwyd ef yn y Cefnbrith, gerllaw Llangamarch, Sir Frycheiniog. Cafodd addysg dda pan oedd yn llanc ac aeth i'r coleg i Gaergrawnt.

12. Yr oedd ei galon yn llawn gofid wrth weld cosbi ei gyd-genedl am siarad yr unig iaith a wyddent, a gweld nad oedd neb yn dysgu dim iddynt.

13. Ysgrifennodd lythyr at y Frenhines ac at y Senedd yn dangos sut yr oedd pethau yng Nghymru.

14. "Dymunaf arnoch anfon i Gymru rai a fedr bregethu a dysgu yn iaith Cymru," meddai.

15. Yr oedd dyn ieuanc a fentrai ysgrifennu fel hyn at Frenhines Lloegr