Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/64

Gwirwyd y dudalen hon

yr amser hwnnw yn ddyn ieuanc dewr iawn.

16. Daliwyd ef a'i roddi yn y carchar. Ond nid oedd tewi arno. Ar ôl dyfod allan, ysgrifennodd eto at yr un rhai, i alw eu sylw at Gymru.

17. Ysgrifennodd hefyd at ei gyd-genedl yn erfyn arnynt gasglu arian yn eu plith eu hunain i dalu rhywrail am bregethu iddynt yn Gymraeg.

18. Cafodd ei roddi yn y carchar eto. Er mwyn cael llonydd ganddo am byth, cafodd ei grogi.

19. Ar y nawfed ar hugain o Fai, 1593 y bu hyn. Nid oedd ond pedair ar ddeg ar hugain oed.

20. Costiodd ei gariad at Gymru'n ddrud i John Penry. Ond ni bu ei waith yn ofer, ac nid â ei enw byth yn angof.