Y Gelfyddyd Gwta/Tudalen 40

Tudalen 39 Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Tudalen 41

DYN
(C.M. 23)

Yn noeth lymyn, dyn, er d' eni i'r byd,
Er bod pawb i'th hoffi,
Duw gwyn, er ein digoni,
Un dydd, noeth yw 'n diwedd ni.

—DIENW.


DYN AC ANIFAIL[1]
(C.M. 14)

Defod 'nifeiliaid yw nad yfon' ddŵr
Nac o ddim ond digon;
Defod dyn ei hun yw hon—
Yfed er yfed afon!

—DIENW.



(C.M. 14)

Fe baid 'nifeiliaid pan fôn' diofal,
Nid yfant ond digon,
Ond rhyfedd, gresynedd sôn,
Ffut[2] annoeth, na phaid dynion.

Fe ŷf Siôn o Fôn, f' enaid, mwy nag ŷch,
Mae 'n ei gaul[3] gythreuliaid;
Fe ŷf Siôn fwy na 'i lonaid,
Nid ŷf yr ŷch ond ei raid.

—SYR HUW ROBERTS.
—DIENW.


Y DDEUFYD
(C.M. 23)

O gyweth[4] difeth mewn deufyd, Duw gwyn,
Digonedd sy gennyd;
Gyda rhoi im nef hefyd,
Trefna beth tra fwy 'n y byd

—DIENW.


Nodiadau

golygu
  1. "Dyn ac Anifail ": Ceir yr englyn cyntaf tan enw Huw Llifon, clochydd Llannefydd, Sir Ddinbych, yn C.M. 24, ond bod y drydedd llinell yn amgen —" Dyna waith diffaith i don."
  2. ffut, o'r Saes. feat, efallai.
  3. mae 'n ei gaul, yn ei grombil.
  4. o gyweth, ffurf lafar ar y gair cyfoeth.