Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Beth sydd Gennyf
← Bwrw Eira | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Tair Gwydd |
CLXIII. BETH SYDD GENNYF.
MAE gen i iar, mae gen i geiliog,
Mae gen i gywen felen gopog;
Mae gen i fuwch yn rhoi i mi lefrith,
Mae gen i gyrnen fawr o wenith.