Beirdd y Berwyn 1700-1750 (testun cyfansawdd)

Beirdd y Berwyn 1700-1750 (testun cyfansawdd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I'w darllen cerdd wrth gerdd gwele Beirdd y Berwyn 1700-1750
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cyfres y Fil
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Y Berwyn
ar Wicipedia
Pistyll Rhaeadr

Beirdd
y Berwyn.


1700-1750.



Llanuwchllyn: Ab Owen.

ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN R E. JONES A'I FRODYR,
Conwy.

Rhagymadrodd.

LLENORION Cymru nid oes odid gyfnod mor dywyll a hanner cyntaf y ganrif cyn y ddiweddaf. Pa feirdd oedd yn canu rhwng Huw Morus a Goronwy Owen? Beth genid rhwng carol olaf Huw Morus, tua 1700, ac emynnau cyntaf Williams Pant y Celyn, tua 1750? Nid ydys i ddisgwyl dim arwrol iawn mewn barddoniaeth, oherwydd cyfnod o orffwys rhwng dau chwyldroad ar fywyd oedd. Yr oedd llanw'r chwyldroad Puritanaidd wedi treio, yr oedd llanw'r Diwygiad Methodistaidd heb ddechreu dod i mewn. Adeg dawel ddigynnwrf oedd, adeg distyll y don. Eto, pan oedd ton awen fel pe'n farw ar y traeth, heb wybod pa un ai ymlaen ai yn ol yr ai, y mae adlais yn y distawrwydd ei hun,—adlais hiraethlawn am y bywyd a fu; adlais proffwydol am llanw oedd i ddod.

Meddyliais mai derbyniol fyddai cyfrolau i ddangos am beth y cenid yng ngwahanol rannau Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Daw cyfrol o waith beirdd Arfon, beirdd Mon, beirdd Hiraethog, beirdd Ceredigion, beirdd Dyffryn Tywi, beirdd Dyfed, beirdd Morgannwg, ac eraill. I ddechreu wele waith beirdd y Berwyn, beirdd y wlad o fynyddoedd meithion unig rhwng Dyfrdwy a Hafren, y rhai y saif y Bala, Llanfyllin, Llanrhaiadr, Rhiwabon, Llangollen a Chorwen ar eu hymylon. Ceir yn y beirdd hyn lawer adlais of Huw Morus, ac ambell linell i'n hadgofio mai yr un mynyddoedd oedd i adseinio cân Ann Griffiths, Huw Derfel, a Cheiriog.

Feallai nad wyf yn feirniad digon anibynnol ar y caneuon hyn. Clywais eu canu, gan hen Gymry glân sydd erbyn hyn ym mro distawrwydd, gyda'r pethau cyntaf wyf yn gofio. Y maent yn diflannu o gof y genhedlaeth hon, y mae'r ysgrifau yn melynu'n llwch yn anghof hen gist mewn aml gartref,—ond wele lais iddynt unwaith eto.

O leiaf, danghosant am beth yr oedd Cymru,—neu odrau'r Berwyn beth bynnag,—yn meddwl yn ystod hanner canrif o orffwys ac o barotoad. Y carol Nadolig, y gân serch, y gân hela, cân yr ofer a'r edifeiriol, cân am auaf caled a haf hoff,—dywedant wrthym am gartrefi gynt, ac nid wyf yn sicr na chymer llawer meddwl gwylaidd hwy'n gymdeithion pur a thirion eto. Y mae'r wlad lle y cenid hwy gynt wedi newid llawer ers tair cenhedlaeth neu bedair. Byddaf yn crwydro dros fryniau unig y Berwyn, ac y maent yn dod yn fwy unig o yd, y fawnog yn segur ar yr ochr, y pabwyr yn cael heddwch yn y gors, noddfa'r bugail yn ddiddefnydd, yr hafoty'n adfeilio yng nghysgod ynn ac ysgaw. Y mae'r bobl wedi symud i'r gweithydd prysur, ac wedi troi cefn ar yr aradr, y rhaw fawn, y bladur, a'r ffust. Ond meiddiaf anfon y caneuon hyn, fu'n diddanu yr hen gartrefi gwledig, ar ol y crwydriaid, gan ddisgwyl y cânt hwy a'u plant yn eu hodlau rywfaint o swyn yr hen amseroedd tawel pell.

Mae'r caneuon oll ond dwy wedi eu codi o lawysgrif hŷn na 1750. Gwelir fod llafar gwlad a gramadeg yn ymryson â'u gilydd ynddynt.

Dymunaf ddiolch yn gynnes am gynhorthwy i Myrddin Fardd, Chwilog; J. Gwenogfryn Evans, M.A., D. Lit., Rhydychen; Miss Davies, Pant, Llan ym Mawddwy; William Jones, y Tanhouse, Llanfyllin; R. H. Evans Arosfa, Llanrhaiadr ym Mochnant; William Davies, Aber Rhiwlech, Llan ym Mawddwy; Prif Lyfrgellydd Llyfrgell Rydd Abertawe; a Glan Cymerig, y Bala.

OWEN M. EDWARDS.

Llanuwchllyn, Rhagfyr 25, 1902.

"Pan fo rhyfel yn y byd,
Godrau Berwyn gwyn eu byd."
HEN DDYWEDIAD.

Y Darluniau.

Pistyll Rhaiadr O wawl-arlun yn yr Oriel Gymreig
gan John Thomas.
"Merch y Berwyn" S. MAURICE JONES
"Ar y Berwyn" "Dy gofio di ai gwiw,
I ddyn sy a' friw'n i fron?"
MORRIS AB ROBERT
ARTHUR E. ELIAS.
"Ar Gwrr y Ffair" Ymwisgwn yn geindli
Ag ymddygiad lled neis,
Ymgario'n bur gobl,
A hyn mewn dyfeis.
ARTHUR E. ELIAS.
Llanfyllin O wawlarlun yn yr Oriel Gymreig
gan John Thomas.
"Dysgu Canu Carol" "Cadwn wyliau 'n ol defodau
Ac esiamplau 'n didwyll dadau
Fu orau'u gwrthiau i gyd."
EDWARD SAMUEL.
ARTHUR E. ELIAS.
Llanrhaiadr ym Mochnant O wawlarlun yn yr Oriel Gymreig
gan John Thomas.

Cynhwysiad.

Tonau


Anodd Ymadel (Loth to Depart)
Anthin Lyfli
Breuddwyd y Frenhines
Cymsymsiwn (Swllt am Garu)
Diniweidrwydd
Ffarwel Ned Puw
Ffarwel y Brenin
Gadel Tir (Leave Land)
Gwel yr Adeilad
Gwledd Angharad (Charity Mistress)
Hun Gwenllian
Hyd y Frwynen
Iechyd o Gylch (King's Round)
Llafar Haf
Marwnad yr Heliwr
Mel Wefus (Hope to Have)
Mwynen Mai
Neithiwr ac Echnos
Wng Cytirawg (Greece and Troy)
Y Fedle Fawr
Y Foes
Y Galon Drom



BEIRDD Y BERWYN.

YMBIL SERCHOG.

Tôn—"CONSYMSIWN."

WAWR hoew-wedd loew-wedd liw,
Hoff reiol deg i ffriw,
Dy gofio di ai gwiw
I ddyn sy a'i friw'n i fron?
"Fy nghofio i a gewch chwi'n rhad,
Os hynny wnai leshad,
Pa beth yw 'ch briw a'ch brad,
I gael gwellhad yn llon?"
Tydi a'm bwriodd i, dyna'r braw,
Ganwyll gwyredd, luniedd law,
Fun dda drwsiad oddi draw,
'Rwy'n druan iawn fy ngwedd.
Gyrru mab a geirie'n awr
Yn glafa un i glwy fo fawr!
Nid eill fy ngwedd, na dull fy ngwawr,
Mo'ch bwrw i lawr i'ch bedd."

Ti a'm bwri i ffwrdd o'r byd,
Lliw eira brafia o bryd,
Fy ngwaith i'n celu cy'd
Fy mhennyd aeth a'm hoes.
"Er clywed mwy na rhi
Och trwm achwynion chwi,
Difater ydwyf fi
Y byddwch lysdi o'ch loes."

Hawdd i'r iach gynghori'r cla,
Er maint i boen, i ddiodde'n dda,
A dweyd, er blined fo i bla,
Mai mendio a wna'n y man.
"Pe'd faech chwi'n gla, caech gen i gwyn,

Mi a'ch gwela'n sionca a dewra ar dwyn,
A'ch corff yn iachus foddus fwyn
I rodio llwyn a llan."

'Rwy'n 'mddangos felly'n d'wydd,
Fy mod i'n llon mewn llwydd,
Rhag son o rai di-swydd
A marcio'n rhwydd ar hyn.
"Chwi gawsoch esgus dda,
Eich coelio'n wir ni wna,
Mae'ch gair mor oer a'r ia,
Ne gaenen o eira gwyn."
Ti goeli, meinir, yn y man,
Fy mod i 'n diodde cur, lliw'r can,
A phan ddelo cry a gwan
I'm rhoi 'n y llan yn llu.
"Prudd yw gweled priddo gŵr
Ifanc mwyn a sytha yn siwr,
Mi wylaf finne ddagre o ddwr
Ar ol y carwr cu."

Fy llygaid i sy'n llawn,
Llwyr goelia hyn, lliw'r gwawn,
Diystyrwch sydd dost iawn,
O Dduw, na bawn o'r byd.
"Diystyr nid wyf fi,
Na choeglyd, wrthych chwi,
Rhoi ymadel ffarwel ffri
I chwi mewn bri mae'n bryd."
Ni chanai ffarwel iti, clyw,
Mwyna meinwen, yn fy myw,

Nychu 'r wy, bun wych o ryw,
Angyles yw fy nghwyn.
"Ymrowch i ddiodde hyd eitha'r nod,
Dan eich clwy, fel dyna'ch clod,
Ac oni fendiwch cyn troi'r rhod,
Mi brifia i fod yn fwyn."

Ych mwynder, llawnder lles,
I flysio'n wir a wnes,
Er hyn nid ydw i nes
Na chawn a geres gynt.
Cymerwch galon gre,
A threiwch lan a thre,
Mae dynes dan y ne
I chwithe 'n rhywle ar hynt."
Nid oes yr un eill help i mi,
Netia dynes, ond tydi,
Ti ellesit help i 'nghalon i
Cyn iddi dorri ar dir.
"Cyn torri ffyddlon galon gu,
Mae'n rhaid bod cur a dolur du,
A phoen ar rywun, a phwy na ymry
Pan welo hynny'n hir?"

Ffarwel, nid ydw i ond un,
Gwawr hoew-wedd loew-wedd lun,
Oes dim am einioes dyn
Os daw ymofyn mwy?
"Ni ddichon, moddion maith,
Y lana, yr hoewa 'i hiaith,
Fyrhau mo'ch dyddie a'ch taith,
Na'i hestyn chwaith yn hwy."
Dweyd fy nghwynion heb fod nes,
Hoew gennad, hynny a ges,
Yn llwyr i ti, lliw eira a'r tes,
Bun gynnes deg i gwên;

I mi yn y man mewn llan mae lle,
Yn rhwydd iawn gri rho 'ngweddi gre
Yn daer yn wir ar un Duw'r ne,
I ti rwy'n madde.Amen.

MORUS ROBERTS[1] a'i cant.



GWRANDEWCH FY MRYD.

Tôn—"GWEL YR ADEILAD."

GWRANDEWCH fy mryd, fy mrodyr,
Gwyn deilwng ar ol dolur,
A chur di-chware;
Mi ymroiswn, mi fum ry-swrth,
Nes cael y nharo yng-ngwrth
Ym mron ange.
Mi ges yn ysig imi a wnes,
Fy nodi â'r wialen
Gan Dduw fy mherchen,
Am fyw mor llawen, llwyr angen felly yr es;
A'n rhoi yn ol drachefen
Er 'lusen a mawr les.
O'r blaen ni choelien mwy na Chain
Fod Duw yn canfod
Pob dirgel bechod,
Er sen cydwybod ni rown er ddiwrnod ddraen,
Fy nghalon aeth yn gwbwl a'i meddwl fel y maen.

Yrwan Duw sy'n trefnu
Modd eilweth i'w meddalu
Rhag mwy o ddialedd;
Mawr foliant iddo'n wastad,
Pwy welodd fyrdra i gariad
O'i fawr drugaredd?
Fy rhoi yn drist heb allu ymdroi,
Ymron fy symud
I'r farn ddychrynllyd
Fy nharo i hefyd un ffunud heb le i ffoi;
I edrych beth i wneuthyd,
Oedd yn y mryd i ymroi;
A m'fi yn llesg, a'm dagrau'n lli,
Yn brudd atebes,
"Fi a beches,"

Llai nag a heuddes o soriant gefes i,
Mawr Feddyg, O mor feddal wrth roddi tâl wyt ti.

Yrwan Duw sy' i hunan
Gan faint y ngwaedd a'm cwynfan,
Ac ynte i'm canfod,
A m'fi yn halogedig,,
Amhur, a mawr y mherig,
Yn rhy amharod,
Fo roes i law i esmwytho y loes,
Fo a'm ysbariodd,
Yn rhydd fo'm rhoddodd,
Fo'm medigaethodd, fo 'stynnodd fisoedd f'oes;
Ar ol fy ngwialenodio i'm treio, 'n ol fe'm troes.
Bydd drud a braw i mi ryw bryd,
Os byw heb grefydd
Wna i'n anufudd,
Ar ol cael rhybudd a diodde cystudd cyd,
Mi gaf fy ngalw i gyfri am bob direidi drud.

Am hyn, yr ifinc nwyfus,
Tra bon yn owchion iachus,
Heb ddim i'n nychu,
Meddylied hyn yn gynta,
Cyn dwad o'n clwy ola,
A'n cla' wely;
Fo ddaw awr farwol freuol fraw
I droi yn adlad
Ar fyr ddyheuad,
A phallu o'r llygad, a rhwystro llusgiad llaw,
A'r tafod wedi methu, a'r dyn ar drengu draw.
Ple bydd y doethder yn y dydd,
A'n balch ymddygiad,
A'n gwychion ddillad,
A'n coeg chwerthiniad, a'n bwriad rediad rhydd?
Y cwbwl oll a'n gedy, ni phery dim ond ffydd.


Gwag galon a gâr goledd
Llifeiriant holl oferedd,
A lle i'w fario;
Cyn dwad hyn o ddychryn,
A'n dal mewn rhwyde rhy-dyn,
Yn dynn am dano,
Fo wna ryfygus glwyfus gla
Ddeyd llwyr y gwaue
Am dorri Sulie
A charu a chware nosweithie a dyddie da,
Mi dreulies fy holl amser yn ofer. Beth a wna?
Rhoi 'mryd, tra bythw 'i byw'n y byd,
Am fyw'n Gristnogol,
Gufodd grefyddol,
A throi chwant cnawdol, ffordd hudol, i ffwrdd o hyd,
Rhag gorfod gwneuthur cyfri am bob direidi drud.

Am hyn, rhag ofon gofid,
A dialedd Duw yn ddulid,
Diame y dylwn
Am ras i fyw'n fucheddol,
Da, addfwyn, doeth, a deddfol,
Llwyr oll lle'r clwn,
Am roi iawn dreial yn ddiymdroi,
A'm bryd heb gellwer
Er prynnu f' amser,
A byw trwy burder, was gwiwber, heb osgoi,
I gael yn amser adfyd at Dduw drwy ffydd draw droi;
Pob hen cariadus, weddus wên,
A phob ifienctid,
Sy'n hyfion hefyd,
Wellhau mewn iechyd, dda lownfryd a ddylen,
Dan ddyfal bur weddio am ras i ymendio. Amen.

MORUS ROBERTS a'i cant.


Y DDWY FFORDD HYNOD.
Tôn—Y GALON DROM."

POB cowir un sy'n caru i enaid,
Yr hyn sydd orchwyl llwyr angenrhaid,
Arhoed i wrando ar diriondeb,
Bur iaith union, heb wrthwyneb;
Y rhai diwyd a wrandawant,
Mor 'wyllysgar, heini, glaiar, hyn a glowant;
Ond nef ac uffern, barn ac ange,
Nid yw er hynny yn meddalu mo'n meddylie.

Mae y rhain bedwar peth rhyfeddol
O byncie'r grefydd Gristionogol,
Pethe di-newidiol ydynt,
A Gair Duw yn gwirio am danynt;
I dri o'r rhain drwy wewyr hynod,
Yr a bydol a'r dirasol du ar isod,
Iddi hefyd yn dra hyfion.
Drwy wir heddwch yr a, cofiwch, y rhai cyfion.

Ange a barn sy i'r aniwolion,
Hefyd hyn a gaiff y cyfion,
Ond i'r nef nid a'r anufudd,
A'r da i gwestiwn na'r di-gystudd;
Y dyn drwg i'r tân tragwyddol,
A'r da i grefydd a ledia'n ufudd i wlad nefol;
Ac am y ddau fath hyn yn bendant
Deuda i'r moddion, medd y doethion, yr ymdeithiant.

Taith pechodau sydd ychydig,
Yn fer gas, yn frau ac ysig,
Munud awr o bleser cnawdol,
A chwedi hynny yfory 'n farwol;
Duw, mor yngwrth y daw'r ange,
Brenin ydi, yn dechre nodi dychryniade;

Y dyn a'i gwelo heb dynnu i golyn,
Ni bydd i hwnnw obeth darfod na byth derfyn.

Cynta peth a wneiff yr ange,
Fo dry'r afradlon draw i'r frawdle,
I dderbyn barn yn ol i weithred.
Ac och i lawer, gwae fi i chlywed,—
"Dos oddiwrthyf i, aniwiol,
I'r tân fflamie draw, a godde yn dragwyddol."
Y rhain yw geirie Crist, mae'n eglur,
Gwae i'r dyn hwnnw pan glywo'i fwrw, garw yw'r gwewyr.

Uffern fydd i le fo'n drydydd,
Gerwin ofid, gwae'r anufudd,
Yr hwn sydd lyn o dân a brwmstan,
A da henwodd Duw fo'i hunan;
Crist a'i geilw fel hynyma,
Geirie gerwin, nod hyll a chethin, "t'wyllwch eitha";
Ac eto i'w alw 'n henw hynod,
Llyn o dân dyfnfaith, medd Duw eilwaith, a diwaelod.

Nid ydi rhain ond rhai o'r henwe,
I ddeall pen ne ddull y poene;
Gan i ddyfned, gwae nid ofniff,
A gwae Ddeifas a'i goddefiff;
Chwi welwch ddiwedd y dyn ofer,
A'r damnedig, a'i fâr blysig am fyr bleser;
Eto deuwn at y diwiol,
Ar fyr eirie i ystyrio'r grisie grasol.

Mae Duw yn addo estyn dyddie
Y dyn a gadwo i ddiddan ddeddfe,
Ac eilweth mae Sant Pol yn galw
I farwolaeth yn fawr elw;

Ni bydd ange i hwn yn ddychryn,
Ond llawen gennad o'i ddisgwyliad a'i ddwys golyn.
Duw a'i gyrrodd e'n deg ara
I nol anwylyd i'r newyddfyd o wir noddfa.

Pan ddêl i wyneb pur i ympirio,
Crist fel hyn a ddywed wrtho,—
"Fendigedig blentyn graslon,
Dosi dario i'r deyrnas dirion."
Ni chlybu clust, ni welodd llyged,
Nid aeth i'r galon, dda naws dirion, ddyn i'w ystyried,
Y fath hyfrydwch heb dranc arno,
Sydd yn y deyrnas, wir aur addas, a roir iddo.

Dyna gyfle bur, i'w aros,
Ond gair Duw yw'r gore 'n dangos
Am ddwy ffordd, dau fath ar bobol,
A'i diweddiad yn dueddol;
Os wyt ti ddyn, gan hynny ystyria
Y ddwy ffordd hynod sydd dros amod Duw â'r oes yma;
Einioes ger dy fron, ac ange,
Yn wahanol, da was dethol, dewis dithe.

Na ato Dduw i ti na minne
Yn ddwys yngwrth ddewis ange,
Dewis uffern yn lle'r nefoedd,
Nid eill a'i gwnelo obeithio bythoedd;
Dyma'r geirie, mae'n debygol,
Ar oer galon sy ar warth dynion anghrediniol,—
Cynhygiwyd inni y nefoedd uchod,
Gwae ni am hynny, i diystyrru, i gwerthu, a'i gwrthod."

Gwerthu y nefoedd fendigedig,
A phwy a'i gwnae, fel Esau flysig?

A phwy ni ymry i drechu i drachwant
Er cael nefol fuddiol feddiant?
A phwy ond ynfyd na ddewise
Wasneuthu'n fynych i ddewr lanwych Dduw ar linie?
A phwy adawe i'r byd i hudo,
Na'r cnawd aflan gida Satan i'w dywys eto?

Duw a'n gwnelo ni 'n synhwyrol,
Gida Mair i gyd-ymorol
Am ran na ddygir byth oddiarnom,
Mawr yw hyn er marw ohonom;
Arglwydd, tywallt i'n calonne,
Bob un beunydd, fwyfwy dedwydd fyfyrdode;
A Duw frenin y brenhinoedd,
Dwg ni i fyny i fynwes Iesu i fyw'n oes oesoedd.

—MORUS ROBERTS a'i cant.



DYDD Y FARN.[2]

GWYDDOCH oll, gwaeddwch allan
Ar Dduw yn awr, mawr a mân;
Ymprydiwch, wylwch alar,
Llid a fydd, llaw Duw a'i fâr;
Ein Duw'n ddwys diau na ddaw
Heb waedd dost, ni bydd distaw;
Disgwyliodd Duw os gwelwn
Arbed hir wŷr y byd hwn;
Daw Duw mawr rhyw awr mewn rhoch,
A thebyg pryd na thybioch;
Hyn ni wyr neb hanner nos,
Dychrynnwn, ai dechreunos;
Garw sain ai plygain-ddydd
Awr bur ddig ai 'r bore ddydd;
Hyll dân dig fel mellden draw
O'r dwyrain yn garw daraw;
A llawn floedd a'i lliw yn flin,
Ai ger llaw i'r gorllewin;
Y ddaear faith a'i gwaith gwir,
Gwŷn hirfaith, a gynhyrfir,

Crynfa a fydd drwy'r crwnfyd,
Holl fryniau a banciau byd;
Y creigiau oll a holltir,
Pery hyll dân trwy holl dir;
Trefi ar fron, trwy oer friw,
Uchelfraint, ant yn chwilfriw;
Plasau a'r tyrau tirion,
Pob gwal i'r growndwal a'n gron;
Eu caer fawr yn curo fydd,
I'w gweled yn eu gilydd;
A'r môr, sydd annedwydd nad,
Yn rhuo fel swn rhaiad;
A'r ffurfafen, len lana,
Drwy allu nerth dryllio wna;
Y ser o'r uchder yr ant,
Yn swrth i lawr y syrthiant;
Llwyr ddeuant oll i'r ddaear,
Och daer gwymp, o'r uchder gwâr;
Dau oleuad da lewyrch,
Diffygion cyfion a'u cyrch;
Rhyw lawn ddig, yr haul a'n ddu,
Liw erchyll heb lewyrchu;
Lloer yn waed llwyr newidiol,
Draw o'i nerth, heb droi yn ol;
Corn du dig, utcorn Duw Dad,
A ddyd swn o ddadseiniad;
Y ddaear fyddar neu for
Gauadwisg a gyd esgor;
Meirwon oll, mawr iawn allu,
Sy'n y llwch, a sai 'n llu;
A'r môr a ddyry'r meirwon
I fynu bawb, fan y b'on;
Y byw a'i gwel, bywiog wir,
Ofnadwy fe'n newidir;
Yno gwelant i'w golwg,
Fab y dyn, dychryn a'i dwg;

Pan welant, poen y wylia,
Allu'r Oen, yn llew yr a;
Dychrynna, crynna, pob cry,
Eu praw tân y pryd hynny;
Och i le uchel o wyr
Er eu moliant a'r milwyr;
Y rhai'n heb edifarhau,
Crog waedd a ront i'r creigiau;
Ar fryniau nadau a wnant,
Am eu lladd amwyll waeddant;
Er crefu, crynnu, er cri,
Goddef dychryn a gwaeddi,
Ni wel yr annuwiolion,
Gwewyr a braw ger eu bron,
Le o wydd Duw, lywydd daear,
I'w cuddio byth rhag gwaedd bâr;
Daw i'w galw Duw a'i gwelodd,—
"Dowch i'r fan," mewn duchwerw fodd;
"At orsedd Crist," trist yw'r tro,
"Cyn damniad i'ch condemnio,"
Yno'r grudd yn brudd ger bron,
Holi tost a hel tystion;
Cydwybod gwiwnod gynnil,
Yn llym iawn fydd yn lle mil;
Er serio hon er's hwyrach
Ryw ennyd yn y byd bach,
Tost yno fel tyst union,
Garw a hynt fydd geiriau hon;
Gwae'r dyn, er cael geiriau da,
Di amorth o'r byd yma;
A'i galon front o'r golwg
Yn gennad traws yn gwneud drwg;
Er cuddio drwg rhag gwaedd drom,
Neu 'sgapio fel nas gwypom,

Er puteinio mewn tro trwch
O'r golwg mewn dirgelwch,
Er celu balchder calon,
Fe gyfyd ryw bryd ger bron.
Gochel ddyn, ag na chel ddig
Uffernol bechod ffyrnig;
O celi fâr, coelia fi,
Clyw ddwetwyf, cwilydd iti,
Daw y dydd a Duw a'i dwg,
Llwyr gwilydd oll i'r golwg.
A gwyn fyd, hoewfyd ufudd,
Y dyn oedd wr da 'n ei ddydd;
Er ei boeni, oer benyd,
Gan rwystrau a bachau'r byd;
Er mynd o'r byd ynfyd wall,
Heibio ddoe, heb ei ddeall;
A'i daeru 'n ffals â darn ffydd
Ben dene, heb un deunydd,
Byrdwn oer heb eirda'n ol,
Nag unmath yn ei ganmol,
Gwyn ei fyd, ddi-ynfyd ddyn,
Da hyder Duw a'i hedwyn;
Gan ei roi heb wyr droi draw,
Dduw hael ar ei ddeheulaw;
Yno bydd o rydd iawn rad
Gu heddwch y gwahoddiad,—
"Dowch trwy hedd, etifeddion,
I'r lân deyrnas hoew-ras hon;
Cewch feddiant er moliant mael,
O'r nefoedd, gwir iawn afael.'
Annuwiolion sy'n wylaw
Ias lem ar ei aswy law,—
"Ewch o amorth, chwi, ymaith
I ffwrn fawr hen uffern faith."
Yno bydd yn y dydd du
Didoliad rhwng dau deulu.

—MORYS ROBERTS o'r Bala a'i cant.


HIL ABEL.
Tôn—"GADEL TIR" (y ffordd hwyaf).

POB calon ddifales, rhowch gennad wych gynnes,
Mi draetha i chwi hanes, wir gyffes, ar gân;
Rhyw stori, 'rwy'n 'styrio, a gair Duw'n i gwirio,
Ond chwilio cewch yno hi 'ch hunan.

Yn llyfr cynta Mosus, hwn ydi Genesus,
Bedwaredd lith hysbys, wybodus, heb wad,
Hon sydd yn rhoi cyfri am blant yn rhieni,
Ac fel y bu rhaini y bu rhaniad.

Cain ydoedd yr hwsmon, ac Abel wâr wirion
Oedd fugel da gwylltion, wr cyfion air cu,
A'n tade byw'n canfod oedd dan y cyfamod
Yn barod heb wrthod aberthu.

Ond Abel offrymodd, a Duw a'i derbyniodd,
Ar Gain nid edrychodd pen welodd o'n waeth,
Ac ynte mor surllyd fe syrthie i wynepryd,
A'i ysbryd a lannwyd o elynieth.

Fo osode mor greulon ymhen i frawd gwirion,
I'w fwrdro heb achosion, wr creulon air croes;
A miloedd sydd eto o'r Cainied, 'rwy'n cwyno,
Y rhain y fu'n tario yn y teiroes.

Gwyr Sodom uffernol yn llethu Lot ddiwiol,
Ac Esau anrasol fwriadol i'w frawd;
Ac felly bu Simon a'i frodyr mor greulon,
Gwerthason un rhadlon yn rhy-dlawd.

Ac felly y bu'r Aifftied, cannoedd fel Cainied,
Yn difa gwiriondeb Hebreaid heb rol;
A Chora'n ymchwerchwi a'i frodyr, plant Lefi,
Gan fyw mewn drygioni'n drigiannol.


Fe 'gore Duw'r ddaiar, a'i safn yn ofyngar,
I lyncu'r maleisgar a'i losgi fo'n boeth,
Ac eto nid rhyfedd pe llynce hi i'w pherfedd
Wrthnebwyr gwirionedd gair annoeth.

'Roedd Iesebel ddi-ras yn erlid Eleias,
'Roedd Haman a'i fwrdas i Fordecai'n ddwys,
Bu Daniel rhwng llewod, a'r tri llanc mewn trallod,
A Dafydd yn gorfod ffoi'n gyfrwys.

Yn nyddie'n Iachawdwr cadd Ioan Fedyddiwr
Gan Herod ddihirwr ei fwrdwr a'i fur,
A Thwysog Tangnefedd a gafodd i ddiwedd,
Chwi glowsoch, i ddialedd, a'i ddolur.

Yr holl apostolion fu feirw'n ferthyron,
Ond Ion, medd y doethion, rai dethol i modd;
A'r Cainied, hyn gwelwch, cry lunwyr creulonwch,
Dyhirwch, rhai mowr-drwch, a'i mwrdrodd.

Mwrdrasant heb orffwys yn nyddie'r brif eglwys,
Lle gwelid un gwiwlwys da gymwys di-gas,
Y Cainied mewn cynnen i waed a dywallten
I lawr i'r ddaiaren mor ddiras.

Y Cainied lusgason y santedd ferthyron,
I'w llosgi'n bentwynion; ond gwirion i gwaith?
Gan ddangos gwrthwyneb cry lownder creulondeb
I bob rhyw ddiwioldeb di-waeldaith.

Ac hefyd mi wela ryw swm o'r oes yma
O'r Cainied mileinia, fi wranta, fu 'rioed;
A'u bwriad mor ddygyn a chreulon lew, 'sgymun,
A'i ddeuad i oresgyn y drysgoed.


I ennyn fflam wynias gwnaent ryfel mewn teyrnas,
Gan wahawdd dyn diras heb wiwsias yn ben,
Hwy ddygen ar fyrder y tandew Byrtender
I Loegr heb gellwer pe gallen.

Duw frenin uchelne, gwradwydda 'i bwriade,
A thâl i holl ddryge a'i beie bob un;
A chadw d'eneiniog dewisol dywysog,
Pob swyddog rad enwog sy danyn.

Mi glowes, rwy'n tystio, y Cainied yn cwyno,
Am ddydd i arteithio a mwrdro rhai mân,"
Heb un o'r Abelied yn cynnyg i'r Cainied
Fwy ddrwg nag i'w ened i hunan.

Mae'r Cainied heb ystyr a'u bryd ar i brodyr,
Yn gwaitio am achlysur, mae'n eglur i ni,
A thybien, fath Abel, ffarwel fai i'w hoedel,
Ped faid yn i gadel i godi.

Fy mrodyr diniwed, os cynnyg y Cainied
Eich gwneyd fel Abelied, er gwared y gwaith
A'r Arglwydd ymbiliwch, na lân ddigalonnwch,
Cyhoeddwch nad ofnwch y dyfnwaith.

Rhown glod yn gysurus i'r Arglwydd daionus,
Am frenin daionus a grymus i gred,
Tan Grist yn Gwaredwr, gwell hwn i chwi'n swcwr
A chry-dŵr rhag cynnwr y Cainied.

Duw, cadw drueinied rhag cynnwr y Cainied.
Sy'n difa fel bleiddied y defed mewn dig;
Mae syched rhyfeddol am waed pob dyn diwiol
Ar bobol uffernol yn ffyrnig.

—MORUS ROBERTS a'i cant.


HIL CAIN.[3]
ateb i'r Gerdd wnaeth Morus Roberts.
Tôn—GADEL TIR."

Fy mrawd a'm cydymeth, ti wnaethost gerdd berffeth,
A haedde ganmolieth, bur odieth, mewn braint;
Ti ddwedest o'r gwira pa beth a wnaetha
Rhwng plant Adda ac Efa ddigofaint.

Cain a'i frawd gwirion oedd hyna o blant dynion,
Ag iddynt achosion, o cheisiant wellhad,
Trwy wir ostyngeiddrwydd roi offrwm i'r Arglwydd
Fel gweis-da ag arwydd o gariad.

Abel offryme drwy gariad y gore
Ac felly mae'r geirie yn gwirio'n yn plith,
Am iddo drwy burder roi i Dduw cyfiawnder,
F' enillodd drwy fwynder i fendith.

A Chain, oedd ffals galon, a roes o'i faes ffyddlon
I Dduw ond gwehilion, oedd surion yn siwr,
Ac felly'n i awydd fo speitiodd yr Arglwydd,
A hynny a ddug aflwydd i'w gyflwr.

Duw'r Tad nid edryche ar waith ffeilsion galonne,
A Chain a frawyche o'r achos ar dir,
A dyna'r ymrafel wnai iddo ladd Abel,
Dechreuad pob rhyfel fe'i profir.

'Roedd Cain y ffordd honno yn euog, rwy'n tystio,
O ladd ac ysbeilio drwy gyffro a gwae,

A'r Arglwydd, pen welodd, mewn dig a'i melldithiodd,
A gormod a labrodd i lwybrau.

A thithe gyfflybest y Protestant gonest
I Gain oedd mewn gorchest i ymgyrchu at bob drwg,
A chwithe'r gwyr ffeilsion i Abel fwyn wirion,
Oedd berffeth o galon a golwg.

'Rwy'n tybio i ti hefyd am hyn gamgymeryd,
Nid oes neb o'r hollfyd a'i fywyd heb fai,
Er bod rhai a fynnen, i'w cyfiawnhau i hunen
Bob math dan 'r un wialen a welai.

Dy blaid di dy hunan, rwy'n deall yrwan,
Yw Cainied gwyllt aflan a ddweydan yn dda;
Er teced ych geirie, prun ohonochi 'n unlle
Pan ddwedo fo'r gore, y gywira?

Rych chwi, rydw i'n tybied, ar ddull Phariseed,
Yn cyfiawnhau'ch gweithred er gwaetha y gwaith,
Mae mwynder ych tafod yn rhwystro'ch adnabod,
Er bod ar y gwaelod ddrwg eilweth.

Pwy sydd heb i feie? 'Rwy fi yn cyfadde
Fod pawb ohonom ninne a'í fryche'n i frest,
Wrth waith y mae barnu pwy sy amla'n troseddu,
Na byddwch chwi wrth hynny'n rhy onest.

Os Cora a'i wyr cecrus a droe'n erbyn Mosus,
Mewn rhyfel maleisus drwy farus daer fodd,
Rhyw rai o'ch gwyr chwithe, pan gowsoch chwi'r cyfle,
Yn ffals ych calonne a'i cyflawnodd.[4]


Gwyr ffeilsion yn ddirgel dan Esecs a Chrwmwel
A gododd wrthryfel, rhy uchel fu rhain;
Gan hel pob oferwyr i'w cwmni fel bradwyr,
Nes gwneuthur oer frwydyr i Frydain.

Hwy godent yn ddichlin yn erbyn y brenin,
Llu o wyr gerwin, garw fu'r modd,
Y nhw oedd faleisus, a'r wlad oedd yn ofnus,
A Charles, oedd deg 'wyllus, a gollodd.

Y brenin da i foliant ddihangodd i Scotland,
Tan dybied, ond cael meddiant da urddiant i dad,
Lle'r ydoedd i bobol a'i wlad enedigol,
Y cae mewn dull gwrol well cariad.

Yr Ysgotied anraslon mewn cas a'i gwerthason
I Crwmel a'i weision, rhy greulon oedd groes,
Fel Simion y werthe i frawd Joseph ynte,
Er maint y ddymune am i einioes.

Doe'r brenin ar fyrder yngharchar i Loeger,
Tan ddwylo gwyr eger, mae prudd-der o'r pryd,
A'r gnafedd ddibrisia yn lle barnwyr penna
A eisteddodd yn fwya ar i fywyd.

Wrth feibion gwyr chwannog i dyngu am i cyflog,
Yn erbyn 'r eneiniog gwych enwog mewn chwant,
I farw hwn bwrient, a'i waed a dywalltent,
A'i blant y ddifuddient o'i feddiant.

Y plant orfu ddianc i Ffrainc am i bywyd,
A nhwythe'r gwyr gwaedlyd i'w herlid o'u hol,
A Chrwmel a'i fyddin, yn lle aer y brenin,
Oedd Arglwydd Ymdiffyn i'w ddeffol.


Pan gawsoch chwi'r onor, fel Nebuchodnosor,
Hwy ordren y trysor, er trwsiad oer frig,
Holl jewels y goron i'w gwerthu'n llwyr ddigon,
Yr un modd ag eidion brasedig.

Ni welen nhw ddigon ddwyn bywyd gwr ffyddlon
A gyrru i blant gwirion, wyr ffeilsion, ar ffo;
Nhw fynnen heb arbed ddwyn da'r Protestanied,
A danfon pob cnafied i'w cneifio.

Dwyn rhenti esgobion, dwyn tiroedd y gwirion,
Dwyn eiddo'r gwyr llwydion à lladrad, bob dydd,
Dwyn gwartheg o'r dryse, dwyn meirch o'r ystable,
Liw dydd amlwg gole, heb ddim c'wilydd.

Dwyn'r yd, a dwyn'r enllyn, a ninne'n dwyn newyn,
Heb allael o undyn warafun lle i nen,
A dwyn defed breision i'w bwthyn rhwng lladron,
Dim rhan i'w perch'nogion ni ch'nygien.

Chychwi, erbyn chwilio, sy ar ffordd Cain yn rhodio,
Am ladd ac ysbeilio ac am dwyllo bob dydd,
Fel Iesebel aflan a roe i Naboth druan
Am i winllan i hunan ddihenydd.

Ac nid peth dieuog, medd Duw Hollalluog,
Yw hwthio ar eneiniog yn llidiog mewn llu,
'Roedd Dafydd gin bured na fynne 'neyd niwed
I Sôl er i weled ar wely.

A fynnwch chwi'n fwynion ych galw'n Gristnogion,
Am ladd brenin cyfion, mae cofio am y gwaith,

Ym mhob rhyw deyrnasoedd ag sydd dan y nefoedd
Heblaw rhoddi i filoedd farwolaeth?

Nis gwydde'r Iddewon fod Crist yn wr cyfion,
Er bod i ddisgyblion yn dystion bob dydd;
Pe base nhw'n coelio mai Mab Duw oedd yno,
Hwy fasen yn cilio rhag c'wilydd.

Chwi wyddoch yn union mai Charles ych cymdogion
Oedd gwir aer y goron, er cweryl na chas;
Er hyn fo laddasoch, a'i blant ymlidiasoch,
Heb ofon Duw arnoch na'i deyrnas.

Duw, cadw ar ffordd gyfion yr eglwys fel Seion,
A George, frenin graslon, yn ffyddlon i'n ffydd;
I wneuthur bodlondeb am bob anghytundeb
Drwy burdeb da rwydeb di-w'radwydd.

Ond am y Pretender, mae'n ddierth i lawer
Beth yw i gyfiawnder ar lawnder i lwydd,
Yn ol hauddedigeth pob dyn a'i fiwolieth
Y mae i daledigaeth yn digwydd.

—ELLIS CADWALADER a'i cant.


GOGONIANT FYTH.
Tôn—FFARWEL NED PUW."

GOGONIANT fyth i'r Tad o'r Ne,
Sy'n rhannu i ddonie i ddynion;
Er dechre'r byd nid yw ddim llai
Na'i roddiad na'i arwyddion;
Yn cadarn dŵr, rheolwr hedd,
Sy'n trefnu i'w santedd seintie
Gael byw 'n i olwg nos a dydd
A'r gwir lawenydd gore;
Am hynny gwasnaethwn y Tad, ac na flinwn,
Os ynddo fo credwn nad allo un temtasiwn
Mo'n twyso i grwydro a'i ollwng dros go,
I wneyd byth yn erbyn i santedd orchymyn;
Ond inni bur ofyn gras Duw a'i amddiffyn,
Ni yrrwn bob gelyn i gilio.

Pwy a geisie help gan ddyn
A Duw i hun yn addo
Rhoi inni i gyd yn bur ddisiom
Bob peth a geisiom ganddo?
A phwy yn sicir dan y ne
O'i fodd addole ddelw,
Na llun dim sy ar ddaear gron
I focio i union enw?
Y Tad bendigedig, a'r cyntafanedig,
Gwir frawd a gwir feddyg i bob gostyngedig
A'r Ysbryd iawn diddig santeiddiol yn dŵr;
Mawl byth am i gariad i'r Tri diderfyniad
A weithiodd yn bryniad trwy 'wyllys yr hael-Dad
Roi inni 'n warcheidwad Iachawdwr.

—ELLIS CADWALADER a'i cant.



MERCH Y BERWYN.

COLLI CARIAD
Tôn—Y GALON DROM."

HOFFES lodes gynnes geinwedd,
O feinir ifanc fwyn arafedd;
Dyges nychdod, gwastad gystudd,
Fel dyn gwirion dan i gerydd;
Yr oedd fy meddwl i ar i meddu,
Na chowse drwstan farieth llydan fy ngholledu;
Mae'n rhaid diodde pob diweddiad
Heb drugaredd yn y diwedd, na 'madawiad.

Nid oedd nemor chwaith yn ame,
Na bydde meinir bur i minne;
Serch ac wyllys cofus cyfan
Alle hon a'i llaw i hunan,
Ond bod i cheraint yn i gyrru
I le amgen, y rhain a goethen i bregethu ;
Am fy seren irwen eurwawr
Och i goweth a'i hudolieth fyth hyd elawr.

Fe aeth y geniog fechan weithie
Gin lawer un i gant o bunne;
A rhai erill, er bod mowrdda,
Yn mynd o gampunt i gardota;
Ffynnu ychydig, methu llawer,
Ffol anianol a mawr hudol rhoi mo'r hyder
Ar dda byd, na dim sydd ynddo,
Gofid anial, fe ddug ofal efo gefo.

Nid y fun oedd yn f'ysglysu,
Ond i chynghorwyr am fy ngharu,
Am nad oedd gen i, 'r fun deg enw,
Ond ychydig fodd i'w chadw;
O eisie mod i'n berchen golud,
A mawr goweth, y mae'r barieth ansyberwyd;

Y sawl a gredo yn i galon
I'r Goruchel yn ddiogel y geiff ddigon.

Nid gwiw imi ddisgwyl bellach.
Gael o'm hwyllys fynd ymhellach;
Am y gefes o'i chwmpeini,
Nid melus oedd, ond gwenwyn imi,
Trwm uchenaid wrth ymadel
Am fys ren, gain hoff irwen, ganu ffarwel;
Dyddie'n pwyso, diwedd pasio,
Cwlwm hireth, oer oes ymdeth, aros amdo.

Nid ar fy mun yr ydw i'n beio,
Ond bod i cheraint i phryciwrio
I ddewis golud mwy nag alle,
Calon union oedd gen inne;
Ag rwan hi a aeth yn blygen,
Yn boenydiol anghysurol am fy seren;
Gwae foddion, rwy'n cyfadde
Yr ydw i'n gweled nad un dynged imi ond ange.

—ELLIS CADWALADER a'i cant.


CAROL HAF.
1724
Tôn—MWYNEN MAL."

DEFFROED pob dyn sy'n huno,
I offrwm mawl yn effro,
I Dduw sydd yn bendithio
Yn heiddo in' i'w mwynhau;
Nid all y mwya 'i goweth,
Mo'r byw yn esmwyth nosweth,
Heb ffrwyth y ddaear berffeth
Yn llunieth i'w wellhau.

Mae egin gaua ffrwythlon,
Ac egin gwanwyn ddigon,
At ymborth i Gristnogion,
Modd tirion, wrth i tai;
Pob llysie adnewyddan,
Pob adar mân a ganan,
A meddyg da i bob oedran,
Os mynnan, yw mis Mai.

Byrdwn.
Duw bendithia ni ymhob man,
A dyro ras i gry a gwan,
I geisio o'th deyrnas nefol ran
Drwy reol d' amcan di;
A chadw d' eglwys rhag pob brad,
A Sior, os sei fo gyda 'n gwlad,
A chynnal bawb yn ol i stad,
Wrth riwliad Un a Thri.

Fo wnaeth yr ha diwaetha
I bawb drwy'r gwledydd yma
Gydnabod mai'r Gorucha
Pia altro rhedfa 'r hin;
Nid all doeth wyr na llyfre,
Mo gyswallt y plaenede,

Mwy oedd i scil nhw gartre.
Am drin i gweithie a'i gwin.

Ni welodd neb sy'n troedio'n awr
Erioed mo'r ffasiwn sychdwr mawr,
Na phrinnach glaw i lychu'r llawr;
Ond dirfawr gariad Duw
A roe bob ffrwyth o'r iacha,
Er prinned gwair a phorfa
Fo gadwodd ha a gaua
Y da, y rhan fwya, 'n fyw.

Ni bu ychwaith, 'rwy'n tybied,
Un gaua erioed cyn deced,
A phrinnach bwyd 'nifeilied
Ar caue ar led mor llwm;
A'r defed aeth yn weinied,
Er amled yw'r bugeilied
Dau amlach yw'r pedleried
Yn cerdded llawr y cwm.

Y tiroedd aeth yn uchel,
A lleied pris sy ar gatel,
Lle caffo'r gwan ryw gornel
Ar drafel at i drin;
Os gall y cry fod hebddo,
Fo a'i gyrr í ddau a dalo,
Ni wiw i'r tlawd mo'r cwyno,
Er cael i flingo'n flin.

Y gweision a'r morwynion
Sy'n cael cyfloge mowrion,
A lle i ysbario digon
Yn burion, oni bai
For gormod iwsio gwychder;
Fe sberid yn 'r hen amser
Pen oedd, cyn codi o'r balchder,
Gyfloge llawer llai.


O ran i wyr y goron
Roi llawer ar i llyfon,
Duw wnel nad oedd anudon
Yn gysgod ffyddlon ffydd;
Ond gwaith heb raid oedd ceisio
Gan neb y weithred honno,
Mae geirie Duw yn gwirio
Mai a fynno fo y fydd.

Mis Mai, medd rhai, y gwelwch
Yr haul dan glips o dwllwch,
A drogan mawr sy'n dristwch
Os yr elwch ar i ol;
Os gwir yw hyn o eirie,
Cewch weled rhyfeddode;
Os celwydd, pwy na thafle
I ffwrdd y llyfre ffol?

Er bod yr ha diwaetha
Brinder dŵr a phorfa,
A'r catel ar gynwysdra
Drwy'r gaua, bod yg un,
Geill Duw o'i wir fawrhydi
Roi blwyddyn well yleni,
Mae fo'n rhoi weithie dlodi
Er daioni i lawer dyn.

'Rydym ni yma ar bob pryd,
Yn llawn o gamwedd oll i gvd.
Ymwnawn a Duw cyn mynd o'r byd
Mewn llownfyd fo'n gwellha;
Y fo'n ceisio gras a hedd
Ar ol yn galw a'n bwrw i'r bedd,
Cyn oeri o'n gwaed na churio'n gwedd
Mae gofyn diwedd da.
—ELLIS CADWALAD a'i cant.


SUSAN EVAN.
Tôn—IECHYD O GYLCH."

HYD atoch, da i rhyw,
Sy gain S ag U,
Gore benyw, a gara i beunydd,
S ag A ag N,
Gynnes walches wen,
Hardd wenithen haelwen hylwydd,
E ag U drachefen
Yw henw'r fanwl feinwen,
A ag N, winwydden weddol,
Derbyniwch hyn, lloer burlan,
I'ch cofio, fwyngu feingan,
Cywir degan caredigol.

Mae'ch hardd lendid chwi
Yn awr o'm blaen i,
Fel goleuni 'r haul olwynog;
Ne ail i'r Fenws wen
Yn ddrych uwch y mhen,
Hoew-wen dwysen, ar hin desog;
A'ch peredd lais caredig
Fel nefol foesol fiwsig
Ne gloch ystig yn y nghlustie;
Fel diddan organ eurgerdd,
O lusgiad mwyn melodedd,
Ne ryw bencerdd cywrain byncie.

Mae'ch glân wisgiad hardd
Fel gwyn flode gardd,
Y fun ddianardd, fwyn ddaioni,
A'ch dau lygad líon
A wna friw i'r fron
A fo yn awchus ffyddlon ichwi;

A minne'n 'nynnu o gariad
Wrth weld ych glân bortreiad
Fwyn olygiad, fenyw liwgar,
'Rwy'n meddwl ffordd y rhodies
Na weles mo'ch cydmares,
Waredd ddiwies, ar y ddaear.

Y dydd y cefes i
Weld ych gwawr chwi
Yn gu landeg bwysi glendid,
Fe ddaeth cariad pur
Fel saeth o ddur
Yn chwerw i'm plagio à chur o'ch plegid;
A chwedi cael drwy burder
Wrando peth o'ch mwynder,
'Roedd ych geirie per yn peri
I'm fagu cur anesmwyth,
O'ch herwydd, dwysen lawnffrwyth,
Uchel adwyth, a chaledi.

Ych glendid chwi a wnaeth.
Mewn merthyr cur caeth
A mwya aleth imi oedd weled
Ych pryd, main i hael,
Heb fod, bun ddi-wael,
Mo'r gobeth imi ych cael, wych gowled;
Nid all y doeth bysygwr,
Er daed yw i synwyr,
I mendio nolur wneyd un eli;
Dydi ydi'r meddyg gore,
Dydi ydi'r seren ole,
Hwyr a bore sy yn peri.

Chwiliwch chwi 'ch bron,
Y phisig sydd yn hon,
I esmwytho ar boene 'nwyfron beunydd;

Ffrwyth cariad clau
All fy esmwythau
Gyda dagre o garedigrwydd ;
A gochel dithe wrando
Rhai ffeilsion sydd i'th rwystro
I gywiro ffyddlon gariad,
Rhai sydd a meddwl diffeth,
Ni ron i neb ganmolieth,
Mewn hyll farieth mae'i holl fwriad.

Dydi all, drwy hedd,
Fy rhwystro i'm bedd,
Er gwaetha i ffoledd o wagedd eger;
Os byddi di yn glau,
A Duw yn caniatau
Ni allwn fynd yn dau drwy fwynder;
Ymglymu drwy ffyddlondeb
I fyw mewn mwyn diriondeb,
Dan wyneb da lawenydd;
Ac yno cawn ni'n ffyddlon
Drwy 'wyllys Duw a'i foddion
Fyw 'n un galon efo 'n gilydd.
—ELLIS CADWALADER.


CERDD I OFYN HUGAN
Gan Edwart Robert, o Goed y Bedo, dros Robert Jones, y basgedwr, o Langwm.
Tôn—Y GALON DROM."

GWR cyfion, gore cyfell,
Mewn da'wyllys
Mewn da wyllys yn mynd well-well,
Parch a gowsoch am ddaioni,
A pharch a gewch ymhob cwmpeini,
A pharch ynillwch chwi wrth ych synwyr,
Fel gŵr graslon, da achosion, gyda chysur,
Edward Robert lân haelionus,
Pawb a'ch barna yn ŵr diddan anrhydeddus.

I chwi trefnodd Duw i hunan,
Drwy wir gariad, dir ag arian;
A chwithe a chalon fwyn ddiragrith,
Mor bur i'ch trin a'r gwin ne'r gwenith;
Cowsoch feddiant da i'ch comfforddio
Ar dreftadeth cudeb odieth Coed y Bedo,
Ni feistrola chwant cybydd-dod
Mo'ch credinieth, cauad obeth, na'ch cydwybod.

Chychwi sy'n medru casglu power,
Teg yw'r fendith trwy gyfiawnder,
Ynnill aer a'i gadw hefyd
Sydd ddwy rinwedd o ddewr wynfyd;
Am un ynnill wrth drin Saeson,
Cant sy'n methu, ne'n gwaethygu, o wyr cywaethogion;
A chwithe sydd fel Joseph ddedwydd,
A Duw yn llwyddo da i'ch dwylo ac yd i'ch dolydd.


Nid un rhinwedd sy i chwi'n unig,
Wr cariadus, aer caredig,
Talu yn onest, delio yn union,
Ymgleddu 'r gwan, dilladu'r noethion,
Dai medrasoch at fawr gysur
Ddethol gwreigdda fel Susanna, foesol synwyr,
Hon sydd fwyn am bob 'luseni,
A glân galon i dylodion diwiol ydi.

Trwy na ddigioch, dda i naturieth,
Ni las cennad, clowsoch ganweth,
Yr wy yn cyfarch, wrdda diddan,
Tros ryw froliwr trystiwr trwstan;
Robert Sion y gelwer hwnnw,
Llyma lled-traws arth anhynaws wrth i henw;
Rhai a eilw'r cwman deublyg
Yn fasgedwr, ofer hwyliwr arfer helyg.

Rhai gyfflybe i wyneb gwenci
I fuwch yn nofio ar gefen cenlli,
A honno a dynn bob brigyn ati,
I fynd i'r lan o nerth y rheini;
Ni chais ynte ddim o'r bone,
I gasglu i goweth fo wnaeth bregeth am y brige,
Nid oes boncyff lle mae'n rhodio
Na bu'r clwpa efo i dwca yn un o'i docio.

Mae'r gŵr un lun a chist ne hopran,
A'i gefn crwmach fel y cryman;
A'i ben mawr, os da rwy'n deallt,
Fel hen faril newydd dywallt,
A'i ddwy glun, medd pawb a'i 'dwaeno,
Fel dwy gamog yn anlluniog wedi'i llunio;
A'i ddwy goes un lun a mynci,
A'i droed budur fel darn pybyr o bren pobi.


Wrth hel mieri i wneyd bwlane,
Gwaela waith, a gwiel weithie,
Fo wnaeth i goese 'n fil o gwyse,
A'i wyneb budur yn gripiade;


A gwaeth na dim, nid oes o'i ddillad
Un dilledyn, nag un regyn, heb gan rhwygiad,
Mae'r cam bren ar rynu o'r anwyd,
A'r gwynt tene 'n oeri i 'senne fo ers ennyd.

Chwchwi, medd pawb, sydd wr trugarog
I'r anghenus a'r anghenog,
A newch ych part, da Edward odieth,
Hael am fael i'w hulio fo eilweth?
Rhowch i guddio'i groen anhowddgar,
Llyma lluman, rhyw hen hugan, rhag hin hagar,
Gwaith elusen yw i safio
Rhag i'r blerwm, ry-noeth ddragwn, rynu a

Os hen y fydd, mae honno o'r gore,
Pe cae fo un newydd, fe'i cymere,
Fwyfwy'r fendith i chwi am honno,
Ac fwy-fwy 'ch clod py'r ore fytho;
Gore gwaith ar les yr ened, thrigo.
I'r sawl allo, heb hir gwyno, helpu'r gweinied;
Chwi gewch fendithion y basgedwr,
Trwy ymostwng mewn dawn teilwng, a Duw'n dalwr.
—ELLIS CADWALADER a'i cant.


MARGARED ANWYL.
Tôn—"Y FOES."

HOLL brydyddion Meirion mowredd,
Sy'n trin canghenni trefn cynghanedd,
A ddylen ganu i heulwen Gwynedd,
Yn groewedd fwynedd fawl;
Yr ydw'i 'n coelio am gario'r gore,
Pe doe'r dewisol deg ddiwiese,
Mai hon a heudde'r hawl.
Y hi ydi'r glân flodyn damasg,
Luniedd-wasg, fein-wasg, fwyn,
Drych i Fenws, wych o fonedd,
A'r deca i gwedd ar dwyn.
Nis gwn i pwy, o fil ne fwy,
A'i comparie yn nyddie nwy,
Am eirie mel, lle'r el, lliw'r wy;
Tra fythwy, fwyfwy a fydd
Fy serch i'w chyrredd, fwynedd fun,
O flaen yr un a roed,
Ac rydwi 'n tybied, blode'r dyrfa,
Na bu er Efa erioed
Un ail i'w phryd, gangen glyd,
A'i golwg llon ger bron i'm bryd,
Pur loew drefn, fel perle drud,
Seren yr hollfyd sydd.

Mi a fynna addysg hyddysg heddyw
I fynd at Bygmalion, union enw,
I dynnu pictiwr y fwyn fenyw
Sydd ore am elw i mi;
Ac af a delw'r loew leuad,
Hyd at Firgil gynnil ganiad,
I gael rhoi moliant hardd ymweliad,
Yn ol i haeddiant hi;

Hwn a feder draethu i haeddiant,
Yn i hurddiant hardd,
A dangos fod i grisial ddwyrudd
Fel blode gwynwydd gardd;
Ond gweld i graen hi'n deg o'i flaen,
Purlwys bwnc fel perl Ysbaen,
Ac yno mynne pawb pe's caen,
Y glodfaen sylfaen serch;
Pe ffaelie hwnnw gofio 'i donie,
A'i gwych rinwedde i gyd,
Ni awn at Horas, addas foddion,
Ben prydyddion byd;
I ddysgu bod mewn urddol nod,
I gael canu a chlymu i chlod,
A thanu i rhinwedd dan y rhod,
Barod fawrglod ferch.

Mynne eilweth afieth ufudd
Gyrchu Orpheus drwy gywir-ffydd
A'i delyn eured, wiwlan arwydd,
I'r manwydd er i mwyn;
A galw'n foesol am naw Miwsus
Ger bron hon i ganu'n hoenus,
O fawl i'm seren geinwen gynnwys,
Sydd ddownus yn ymddwyn;
Pan ddarffo i rheini seinio i thegwch..
A'i harddwch clydwch clau,
Fo ddaw Iwpiter a Fenws
A Phebus i'w choffhau;
Gan dystio'n glir o flaen pob sir,
Yn hyn o oes nad oes ar dir,
Un ail i'r wen winwydden ir,
Hardd feinir ddifri ddoeth;
Ac yno bydd yn llawen genni
Glowed moli 'y mun,

Gweled hardded pryd f' angyles
Yng ngolwg pob rhyw ddyn;
Wrth hyn heb wad y cai fawrhad,
O'i hachos hi, goleuni gwlad,
Ymendio 'r galon, llon wellhad,
A'r cariad fel aur coeth.

M ac A o'r pura i ympirio
Sydd i'w galw am henw honno,
Ac R atyn a geir eto,
Ac G i'w gofio ar gân;
A ac R, bun rowiog eirie,
E a gawn mewn dawn a donie,
A D eilweth, eneth ole,
Blode gleinie glân;
A ac N, howddgara gwenfron,
Radlon, ffyddlon, ffel,
Dwbwl U i'w roi drachefen,
I'w gorffen Y ac L;
I hoffi a wnes, a'i chwmni a ges,
Y perl lluosog wridog wres,
Er mwyn mawrhad, gwellhad, a lles,
Hardd walches, baunes parch;
I geirie pur, fun dyner donnen,
Wenithen lawen lwys,
A fagodd i roi cur anesmwyth,
Na dderfydd byth mo'i bwys;
Fo all lliw'r don fy ngwneyd i'n llon,
Ac onide mae briwie i'm bron,
Ni ddichon neb ar ddaiar gron
Mo'm rhwystro am hon i'm harch.
—ELLIS CADWALADER a'i cant.


MAWL GORUCHEL.
Tôn—"DINIWEIDRWYDD."

MAWL Goruchel i Dduw Daniel,
Geidwad Israel, bugel byd;
Y mae'r Iesu yn i garu
Fyn heb ballu ymgleddu'n glyd;
Tad angylion, ceidwad dynion,
A'i holl weision a wellha;
Heb i rinwedd a'i drugaredd,
Pwy all gyrredd diwedd da?
Gwir Greawdwr ac Iachawdwr,
Pen rheolwr, ymhob rhith
Mae gwyrthie'r Iesu i'w gweld o'n deutu
Wedi i plannu yn ein plith.

Duw nerthol, diderfynol,
Sy'n dragwyddol Dri ac Un,
Tri i'n cadw, ac Un i'n galw,
Pawb sydd ar i ddelw o ddyn;
Duw sydd gysur i'w wasnaethwyr
A'i cofio'n bur mewn purion bwyll,
Duw sy'n ddigllon i'r anghyfion
Ac i'r taerion ar ryw dwyll;
Gwae rhai fytho'n anobeithio
I'r peth addawo'r cyfion Dduw,
A gwae lawer sy'n rhoi hyder
Yn i balchder tra bon byw.

Duw bendigaid, tad pob enaid,
Sy'n rhoi iawn gyfraid i ni i gyd,
Y sawl a'i caro y mae'n i helpo,
Nid dyn lwyddo dan i lid;
Mae'r cyfoethog Hollalluog
Yn drugarog ar du'r gwan,

Oni bai Dduw godi ymhlaid tylodi,
Ni chai rheini byth mo'u rhan;
Moliant santedd i Dduw'r mowredd,
Y pia rhannu pob mawrhad,
Amen eto, moliant iddo.
A fo'n goleuo ymhob gwlad.
—ELLIS CADWALAD.


YMWARED Y CYMRO.
Tôn—NEITHIWR AC ECHINOS."


BRENIN nef a daear hefyd,
Pur i allu, y pia'r hollfyd,
Sy'n rheoli pob creadur
Mewn doethineb wrth i natur;
Creawdwr, byd ni wnaed hebddo,
Ac nid oes dim yn ddiarth iddo;
Iawn eto iddo ordeinio i rai anwyl
Yn angylion a dynion drwy ordeiniad.
Dŵr, a thir, a haul, a lleuad,
Wrth drefniad i archiad a'i orchwyl.

A ninne yden bechaduried.
Rhywyr y gwelwn, rhy war-galed;
O eisie gwneuthur i orchmynion,
A chyd-gofio i archiad cyfion,
Fo roes arnom gosbedigeth
Fel tad yn cosbi i blant anhoweth;
Mae lle inni o dystiolaeth dost wylo
Yn bod tan law rheolwr creulon,
Ac yn bleser i'n gelynion,
Mae y rhwyme blin tostion yn tystio.

Fo ddarfu i Israel ddigio'r Arglwydd,
A hynny a'u taflodd nhw i bwynt aflwydd,


AR GWRR Y FFAIR.
Ac yno bydd llancie 'n yn gweld ni o bell." Tud. 52.

Yn rhwym dan ddwylo'r Babilonied,
Nes cael gan 'r Arglwydd ail ymwared;
Ac felly ninne dan ddwylo 'r Saeson,
Ac er bod mewn tristwch creulon
Pen fynno 'r Tad cyfion fe'n cofia,
Y fo a'n gwnaiff ni eto 'n rhyddion,
Y fo iacheiff y cleisie trymion,
Er cael dan law estron drahaustra.

Nid oes inni, er maint yw'n gwradwydd,
Ond rhoi'n hyder ar yr Arglwydd ;
Er bod rhydit dyn gwenwynig,
Traws a chadarn, tros ychydig,
Crist a ddichon drefnu eto
Inni frenin gwych o Gymro
I 'smwytho ar yn heiddo mewn heddwch;
Amen, amen, bid gwir y geirie,
Ni wyr neb ond Crist a'i wyrthie,
Pa bryd y daw dyddie dedwyddwch.
—ELLIS CADWALADR.


GOGONIANT I'N PRYNNWR.

GOGONIANT i'n prynnwr, a'n cryfdwr, a'n Crist,
A'n tynnodd ni o'r prudd-der a'r trymder oer trist
Y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân,
Sy'n haeddu moliant fawr a mân,
Rhown i'w ddonie â'n gene gân,
Yn gyfan dan gofio
Mai fo sydd frenin ar bob gwlad,
Y fo esmwythodd yn i stad,
A than gysgod i wellhad
Ni gawn, drwy rad, rydid.


Hwy fu henafied, mewn lludded yn llawn,
Mewn tristwch ar gyhoedd, blynyddoedd blin iawn,
Nes y gwelodd Crist yn dda
Esmwytho clefyd pob gwas da,
A rhoi gosteg ar bob cna,
Er gwaetha drwg weithred,
Yn Criawdwr, rhannwr hedd,
Fo ddichon daflu y balch i'r bedd,
A chodi y gwan mewn cadarn wedd,
A mowredd o ymwared.

Ni fuom ni, 'r Cymry, yn weinied i gyd,
A'r Saeson i'n rhiwlio a'n llywio 'n i llid,
A ninne oedd fel Israelied gwael
O ran yn ffoledd mewn trwm ffael
Heb fod gobeth inni gael
;:Gwir fael na gorfoledd;
A nhwythe megis Pharo a'i wyr,
Yn gwneuthur arnom ni olwg sur,
Er hynny i gyd hwy gaed mewn cur
;:A dolur a dialedd.

Gwedi i'r Gorucha, sy benna ymhob oes,
Droi atom ni i wyneb, drwy undeb fo droes
Y crio tost yn fiwsig gwych,
A nhwythe heb ffrwyth mewn adwyth nych,
Pen ddoeth yr oen i goncro'r ych;
;:Rwy'n mynych ddymuno
Rhown foliant fyth i'r nefol Dad,
Wrth yn gweld mewn briwie a brad,
A roes eli drwy leshad
Mewn cariad i'n ciwrio.

"Mae cledde'n iawn feddiant mewn llwyddiant i'm llaw,
Hwy basiodd y trymder oedd brudd-der a braw,

Myfi ollynga'r Cymry'n rhydd,
O bob caethiwed nos a dydd,
Nhwy gân' berchnogi, bawb, drwy ffydd,
Braint ddedwydd i teidie."
Amen, amen, bid gwir y gair,
Sy reolwr cryfdwr crair,
A moliant fyth i un-mab Mair
Yn un-air rhown inne.
—ELLIS CADWALADER a'i cant.


RHWNG DWY.
Ton—"ANTHIN LYFLI."[5]

Y GYNTAF.


PEN elom i rodio ac i osio am gael gwyr,
Mewn ffair ac mewn marchnad, a'n bwriad yn bur,
Ymwisgwn yn geindli, ag ymddygiad lled neis,
Ymgario'n bur gobi, a hyn mewn dyfeis,
Ac yno bydd llancie 'n yn gweled ni o bell,
Ac amal i'n dewis, rai diwael, o'n gwell;
A ninne mewn afieth, net odieth, yn dwy,
Awn i'r gwylmabsant, cawn gynnyg gin gant,
Trwy fwyniant, ne fwy."

YR AIL.


"Rwy'n foddlon i ddwad, er siarad yn siwr,
Rwy'n ddigon naturiol i ymorol am wr,
Os na chawn landdyn di-siwrddlun dewr sionc.
Yn briod i mi,
A ffraeth lencyn ffri,
Mae'n berli mwyn bwnc."


TAIR PIBELL.

AIR pibell y gân—aurfedrus
Ar fodrwy liw arian,
Tynnu mae y tannau mân,
Tlws eurgerdd, at lais organ.
—ELIS CADWALADR.


CERDD Y BAIS.
Tôn—"ANODD YMADEL."

TAILWRIED y fordor, rhowch gyngor i gyd,
Gwrandewch ar y nghyffes a'r hanes o hyd,
Mi a i weithio gwaith newydd yn gelfydd, mi a'i gwn,
Pe cawn i'r iawn ffasiwn mi a'i rhoddwn ar hwn.

Nid oeddwn i ond paitsiwr ne glytiwr di-glod,
Yrwan rwy'n dailiwr yn dilyn y nod,
Gan Grey o liw'r wylan, mor ledwan i llais,
Cyflychais er neithiwr i wneuthur i phais.

"Arhoswch ddau ddiwrnod, gwawr hynod, yn rhodd,
Ni feddai mo'r ceriach i'w cario wrth fy modd,—
Gwniadur, na haiarn, na nodwydd ddur faith,
Na llathen, na gwelle, nag ewyllys i'r gwaith."

Mi af at Robert William o'r Geulan, y go,
Gwneuthurwr gwelleifie difeie ydi fo;
Dwy ddolen fawr lyden, a'i ddeufin o ddur,
A hwnnw gwna i fusnes y baenes yn bur.

Cadwalad, saer gweithgar digymar yw'r gwr,
Ertolwg na omeddwch, na siomwch fi 'n siwr;
Rwy'n myned yn dailiwr rhwng dwylo pob math,
Mae'n anodd mesuro na llunio heb ffon llath.

Caf gan 'r eurych mwynedd o berfedd y barth
Sy'n gynnes i loches yn Llechwedd y Garth,
Pan draethwi 'r 'madroddion mawr rhwyddion yn rhes,
Gwneiff imi wniadur yn brysur o bres.

Mi brynna folt nodwydd a'i deunydd o'r dur,
Mi gaf gan f'ewyrth Ólfyr ei gwneuthur hi 'n bur,
Ac iddi grai llydan, a llawn digon llym,
I wnio ac i ysditsio ac i dronio'n iawn drum.


Mae genni bob offer ar gyfer y gwaith,
Ond cael haiarn presio ni phrisiwn i'r daith,
I ystwytho gwniade difeie ydi fo,
Ca i hwn o gain ddyfais gan Ddafydd y go.

Rhisgl helyg neu barsment i fesur bun gain,
Rhoi sialc ne glai purwyn yn llinyn pob llain,
Twll bwtcin ne garre i gyrredd pob un
Datodiad a cheidwad ar rodiad y fun.

Bellach mi a'i llunia, mi a'i paria mewn pwyll,
Mi a'i gwnia hi beunydd mewn deunydd di-dwyll;
Os bydd i'th foddloni, rwy'n deyd yn ddi-nam
Mi gwranta hi 'n hollol wrth 'wyllys dy fam.

Deg llath o ddail rhosys mor drefnus heb drai,
'Rwyn tybio wrth i llaester nad a llawer yn llai;
Ac ede o niwl barrug, a'i berwi hi 'n ddwys,
Rwy'n tybied wrth f' amcan mai bychan oedd bwys.

Dail masarn yn fordor sydd bropor i'm bryd,
Mi a'u gwela nhw'n lletach na haiach o hyd,
A lasie hardd odiaeth o edyn y paen,
A'i gwnio cyn sadied a sidan y waen.

Mi addewes wrth wenfron cyn gorffen y nhasg,
Roi pletied pur gampus o gwmpas ei gwasg;
A phoced o dafol, o'm dyfais fy hun,
I gadw'r arwyddion a rodder i'r fun.

Na farned gwyr seliad ar osodiad ei seis,
Wel dyna, 'n deg antur, y gynta ar a wneis;
Pan ddelo 'r gwaith nywddedd mor lluniedd i'r llan,
Bydd part o gwsmeried mor rhwydded i'm rhan.
—ROBERT LLWYD o'r Pale a'i cant.


CAROL NADOLIG.
Tôn—FFARWEL NED PUW."

DOWCH, holl brydyddion croewon cred,
Drwy lân adduned ddoniol,
Ag ymadroddus hwylus hawl
I gweirio mawl rhagorol;
Cans dyma'r dydd y daeth y Gair
I'w eni o Fair y Forwyn,
Yn Dduw, yn ddyn i ddiodde'n ddwys,
Fel oen gwareíddfwys addfwyn;
Gwyl hefyd arbennig, a elwir Nadolig
Y Duw-ddyn di-eiddig i'w chadw 'n barchedig
I'n Duw bendigedig, ein meddyg, a'n mawl;
Hy seiniwn hosanna ne glau haleliwia
I'r nefol Iehofa, fo sy yn Feseia,
A brynnodd had Adda'n ddedwyddawl.

Dowch, y nefolion clydion clau
Ar gywir odlau rhadlon,
O ran ein Hiesu ar hyn o dro
I fwyn gyduno â dynion,
Fel yr angylion gwychion gynt
A fu mewn helynt hoewlon
Yn glân foliannu Duw 'n un blaid.
Ger bron bugeiliaid gwaelion;
Gogoniant yn gynnar ar gyfer yr amser
Ac odle melusber i hael-Dad uchelder
A brenin cyfiawnder yn uchder y ne;
Tangnefedd heddychlon ymhlith daearolion
Ac 'wyllus dda tirion ddaionus i ddynion
O eigion y galon y gwylie.


Duw oedd cyn seilio daear gron,
Na llenwi eigion dyfnder,
Yn un a'i Dad. o anian da,
Er eitha tragwyddolder;
Cyn llunio lloer na haul na ser,
Cyn dechre nifer dyddie,
Teyrnasu 'r oedd, trwy ras a hedd,
Ar nefol orsedd—feincie;
Er hynny disgynnodd, ein hosgedd a wisgodd,
A'n cnawd a gymerodd, ac ufudd ddioddefodd,
I farw fe 'mroddodd lle haeddodd wellhad;
Ac yno adgyfodi, a mynd i eirioli
Am annedd well inni mewn glynnau goleuni,—
Oedd fodd i ragori ar i gariad?

Hyn oll a wnaeth ein llawen Ior,
I egor côr trugaredd,
Ac arwain dynion at i Dduw,
O ddistryw diluw dialedd;
Pan oedd y byd i gyd a gaid
Yn bechaduriaid marwol,
Yr Iesu Dduw o'i ras a ddaeth
Ag iechadwrieth durol;
Dyhudd ddicllonder y nefol gyfiawnder,
Am bechod a balchder a rhyfyg rhy ofer
Gwnaeth gwbwl foddlonder i doster i Dad;
Er maint a fu'r trachwant ceiff pawb a'i gwasnaethant,
Trwy ffydd yn ddiffuant os gwir edifarant
Dragwyddol faddeuant yn ddiwad.

Rhown ninnau anrhegion purion per
Oblegid Ner y plygain,
Fel doethion hardd, i'w cofio'n hir,
A ddaeth o dir y Dwyrain;


LLANFYLLIN.

Ac yn lle'r aur toddedig dwys,
Aberthwn lwys elusen,
Am thus a myrr rhown weddi glau
A phur foliadau llawen;
A rhown ein myfyrdod a'n serch yn ddiymod
Ar bethau sydd uchod mewn sail-fawr breswylfod
A drefnodd y Drindod dan amod i ni;
Lle mae ein gwir Geidwad yn fawr i gymeriad,
Rhown arni yn deisyfiad yn beraidd a'n bwriad,
Cawn ar ein diweddiad fynd iddi.

A gredo'n rhwydd i'r Arglwydd Ner,
Heb wyrni, a'i hyder arno,
Er maint o ddrygau sydd ar led
Ni ddigwydd niwed iddo;
Er cynhyrfu, er crynnu cred,
Drwy frwydrau caled creulon,
Er mwyn i wir Imaniwel
Fe fydd ddiogel ddigon;
Pe todde'r mynyddoedd, pe syche'r dyfnderoedd,
Pe adfaelie rhyfeloedd 'r hyd lwybrau yn lluoedd
Teyrnasoedd a nerthoedd y bydoedd di-bwyll,
Mae noddfa ac amddiffyn uwch arfod awch ertyn,
Lle dirfawr diderfyn na chyrredd un chwerwyn,
I dderbyn credadyn cry didwyll.

Pan ddelo dydd y dial tost,
Er maint yw ymffrost bagad,
Dedwydda í gyflwr yno a fydd
Y gore i ffydd a'i gariad ;
Nid pur aur glån nag arian gŵr
Ger bron y Barnwr union,
Nid chwaith yr hwya a gloewa 'i gledd
A gyrredd gwyredd goron;

Credinieth ddiysgog a chalon ddihalog,
O naws ddianwesog tra gwraidd trugarog,
A ddwg ei pherchennog yn oediog i'r ne;
Pan fyddo cybyddion twyllodrus, a lladron,
Gorthrechwyr a beilchion, mewn eirias anhirion,
Yn ddianrhydeddion yn diodde.

Duw, plan dangnefedd yn ein plith,
A dyro fendith arnom
Am nad oes wr ond Iesu gu
I lwyr ofalu drosom;
A chadw'n heglwys, weddlwys war,
Tra botho dae'r howddgarlon,
Rhag y Pabyddion, blinion blaid,
A'r Presbyteriaid taerion[6]
Diwreiddia anghredinieth a phob anwybodeth,
A hwylia yn heleth â'th rowiog athrawieth
I drefnu'n bywioleth amherffeth;
Mewn hawl gostwng yn brydlon bob llid a greason,
A phawb o'n caseion a ymroisant i 'mryson
Yn erbyn yr union wirionedd.

Un mil ym mlaen dau bymtheng mlwydd
A pheder hylwydd hwylus,
Yw oed ein Harglwydd, a saith gant,
Rhown iddo foliant felus;
Wrth foli Duw'n y fuchedd hon,
O eitha bron ddifethiant,
Yn gwneir yn gymwys lwys ddi-lyth
I ganu fyth ogoniant,

Gogoniant plygeiniol i'r Tad a'r Mab rhadol
A'r Ysbryd santeiddiol, a fyddo 'n ufuddol
Drwy foddion rhyfeddol dymunol, Amen;
Ac felly yn gaerydd y gwelwn yn gilydd
Mewn didwn gor dedwydd ag awen dragywydd
Yn moli Duw'n llywydd yn llawen.
—EDWARD SAMIWEL[7] a'i cant.


POB CRISTNOGION.
Tôn—Y FEDLE FAWR."

POB Cristnogion manwl mwynion,
A gewch yn unfron fel nefolion,
I'w graslon dirion Dad
Eilio moliant yn ddiffuant,
A chywir-sain gain ogoniant,
Cyd-ddeuent yn ddi-wad;
I ymgysylltu a nyni 'n awr,
Ar ganiad gwawr blygeiniol,
I foli 'r Iesu lwys-gu lain,
A chydsain gywrain garol,
Ar ddiwrnod hen hynod mae'n ddifai ddefod dda,
Ei chadw'n ei chydwedd, mewn llawnedd a'n gwellha.

Pe caem ddefode'r nefol seintie,
A'r angylion gwiwlon gole,
A'u glân feddylie glwys;
A chael gwybodeth o'i raglunieth,
Ei garedigrwydd hylwydd heleth,
A'i greadigeth dwys;
Er hyn nid allem tra bai chwyth,
Fynegi byth ei fawredd,
Nac eitha llwydd ein llywydd llawn,
Na'i gwyredd lawn drugaredd,
Anfeidrol, rhyfeddol, ac un anrhaethol yw,
Rhown fawrglod i'r Duwdod tra bo na bod na byw.

Bu'r byd yn hir trwy anwybodeth,
Mewn gelynieth heb athrawieth
Am iechadwrieth dyn,
Rhai'n Sabeaid traws eu beiau,
Yn addoli mudion ddelwau,
Heb riniau yn yr un;

Rhai'n moli tân a haul a gwres
Fel Zoroastres ydoedd,
Heb faint o barch tra buant fyw
I'w llywydd, Duw y lluoedd ;
Gresyndod oedd ganfod rhai hynod ar i hynt
Mewn mwrllwch dwyllwch a gwyllt anialwch gynt.

Felly 'r oedd y byd cenhedlig,
Er gado rhai yn wyr dysgedig,
Nodedig yn eu dydd,
Plato, Solon, a Lycurgus,
Theophrastus, Marcus Tyliws,
O eisiau teilwng ffydd;
Ni fedrai rhain yn gywrain gall
Trwy ore y dealltwrieth,
Ddirnad achos drygnaws dyn,
A'r dygyn lygredigeth,
Na gwybod y cymod dan amod i ni a wnaed,
I'n hedfryd o adfyd i'r gwynfyd mawr a gaed.

Pan ddaeth disgleirder haul cyfiawnder
Yn ei amser o uchelder,
Eglurder oedd ei glod;
Caed goleuni glân olynol
O wir ddinam oruw ddynol
Yn rhadol dan y rhod;
Yn Iudea, llowna lle,
Bu ddechre gole gwiw-lwys,
A Chaersalem ore 'i sail,
Buredig ail Baradwys,
Oddiyno i Antiochia, yn Syria, melus oedd
Gael galw yn Gristnogion ei weision cyfion coedd.
Gwedi hynny gras yr Iesu
Fu'n ymledu ac yn chwalu
'R fagddu fu'n dallu'r byd;

Gwych oedd ganfod ei gychwynfa
'R hyd teyrnasoedd tirion Asia,
Europea gyfa i gyd;
Ac Affrica, lle twynna tes,
Ac ewybr wres, y gaua;
Yno i'r dyn a'r wyneb du,
A'i lewyrch fo oleua;
Yn yr India a'r Ethiopia a'r Lybia sycha sydd,
Y gwelsant ogoniant y wir ddiffuant ffydd.

Cadwn wyliau 'n ol defodau
Ac esiamplau'n didwyll dadau,
Fu orau 'u gw'rthiau i gyd;
Nid fel Arius a Solinus,
Ond fel ethol Athanathius,
Hynawsedd oedd ei fryd;
Gan gydnabod dyndod Crist,
A'i dduwdod ddidrist ddedwydd,
Y Messeia a mab rhad
Ac un a'r Tad yn Arglwydd;
Achubwr, cyfryngwr, a dyddiwr ydyw ef
Sy yr awrhon yn eiriol yn ethol yn y nef.

Gwr diymod Gair diamur,
Hawddgar ethol yr Ysgrythyr
Ddysg inni gysur gwiw,
Fod i ddynion sad feddiannau
Gyda'r seintiau mawr i breintiau
Yn uchelderau Duw;
A bod Iesu, Celi coeth,,
Trwy ddiodde'n wirddoeth weddus,
Wedi prynnu'r nef i'w blant
Rhown iddo foliant felus;
Cawn yma cyn nemor glodfori 'n Por a'n Pen,
Ag awen dragywydd, mewn mawrllwydd byth, Amen.


Gwnawn weddiau â glân galonnau,
Ac â dibaid gydwybodau,
Am drugareddau a gras;
Gan ddeisyfu ar oesawl Iesu
Am rad in i ymwaredu
Rhag pechu a chablu a chas;
Rhown elusen ymhob man
Lle gwelir gwan ac unig,
A Duw a dâl yn ardal ne,
A'i ddonie bendigedig;
Wrth rannu er mwyn Iesu y gallwn brynnu braint
Yn nhrigfan arbennig y dewisedig saint.

Mil, saith ganmlwydd, a dau wythmlwydd,
A dau ar ddeg a ddigwydd,
Yw oed ein Harglwydd ni;
Rhown ogoniant rhywiog union,
Mewn modd cofus i Dduw cyfion,
Am roddion mawr di-ri;
Mawr glod i Dduw yn nefoedd fawr,
Ar ddaear lawr tangnefedd,
I ddynion ew'llus da di-ludd,
A bendith fydd heb ddiwedd;
Dwg unwaith ni i ganol dy freiniol nefol nyth,
I'th garu a'th foliannu mewn byd a bery byth.
—EDWARD SAMIWEL a'i cant.


O WLAD BELL.[8]
Cywydd a anfonwyd gan Huw Gruffydd (gynt o Lwyn y Brain) o America i Gymru, i annerch ei berthynasau ac i ddangos ansawdd y wlad (gwedi ei ddiwygio o amryw feiau).

EICH annerch, draserch drwsiad,
Dewr ynglyn i dir y ngwlad,
Gwlad Gamber haelber yw hon,
A da onest ei dynion;
Llyma'r wlad lle, a mawr lwydd,
Mae hiraeth i'm o'i herwydd,
Ac am ddynion mwynion mau,
A llesol gyfeillesau,
A cheraint fwynwvch araith,
Caredig enwedig waith;
A gorchmynion wiwlon wedd,
Dewr gennad, i dir Gwynedd,
Fy nghyfarch nid anghofia
Fy anwyl fam ddinam dda,
A'i hwyr bychan mwynlan mau,
Gwan iawn, fy machgen innau;
Dymunais a hoffais hyn
Allu weled Llywelyn,
Am ei weled addfed wyf,
Naws galar, nes y gwelwyf,
Amynedd rwy'n dymuno,
Dewised, cadwed mewn co
Drwy burdeb undeb iawn-dasg
Ofni Duw o fewn ei dasg;
A'm brawd Dafydd celfydd call,
A'i wraig dda rywiog ddeall,

I'w blant boed llwydd dedwydd da,
Er cariad o'r cywira;
Llawer gwaith, a llwyr y gwn,
A da eilwaith y dylwn,
Y cofies eich lies a'ch llwydd,
A dagrau o garedigrwydd.
Er symud enbyd iawn-bell
O fyd gwael i fywyd gwell,
Pe bae gwell deugwell digwyn
Lle disgynnes fynwes fwyn,
Rhown barch loew-barch ar led
Am gynnyrch lle ym ganed,—
Cymru hen, ca ei mawrhau
Yn deilwng, gwn y dylai;
Mae fy nghalon union i,
Wych achos, gyda chwychwi;
Ac felly bydd, ufudd oes,
Rhad fanwl, ar hyd f'einioes.
Addewais roi yn ddiwad,
Hynaws lwydd, hanes y wlad.
Ac felly gwna, mwyndra maith,
Heb wadu fy ngwybodaeth.
Trigolion y tir gwiwlwys,
O amryw barth loewbarth lwys,
Ac yn eu plith, dryfrith dro,
Amryw iaith yn ymrithio;
Er hyn o gywir hanes,
Diamau'r llwydd, dyma'r lles,—
Brawdgarwch bwriad gwrawl
Sydd yn eu mysg, hyddysg hawl;
Swyddogion dyfnion a doeth
I rannu, nid gwyr annoeth;
Cyfiawn farn uniawn a wnant,
O naws gorwag nis gwyrant;

Da y gwyliant deg olwg,
Rhoi barn drom yn erbyn drwg;
Rhoddi yn rhwydd, a llwydd llon,
I wyr gonest a'r gweinion;
Gwlad i bawb, golud a budd,
Cywir wiw-faes er crefydd;
A chael llonydd, ddedwydd ddawn,
Hawdd achles, a heddychlawn;
Gwlad anfelus gofus gur
I'r rhai swga rhy segur,
Gwlad ethol glyd i weithiwr
A chyflog serchog yn siwr ;
Gwlad hedd ac amledd o goed,
Da er esgyn dyrysgoed,
Ni feddianna chwitha chwant,
Heb arloesi, fawr lesiant;
Ac wedi hyn fe geid hawl,
Rhywiog arwydd rhagorawl;
Gwlad bendith y gwenith gwâr,
Llawn dw yn llenwi daear;
A phob grawn yd, hyfryd hawl,
Gain addas yn gynyddawl;
A ffrwythydd coedydd cydwiw,
Perion a llawnion eu lliw,
Gerddi hawddgar a gwyrddiawn,
Yn dwyn ffrwyth a'u llwyth yn llawn;
Anifeiliaid, defaid da,
Ac ychen y rhai gwycha;
Meirch nerthol, gwrol eu gwaith,
Grymus i gario ymaith;
Pasgedig, pysg, ac adar,
Hyddod llon gwylltion a gwâr;
Gwyllt bryfed yn haid hoewdeg,
Breision yn ddanteithion teg;

Am amlder brasder ein bro,
Llaweroedd all ei wirio.
Y sawl sydd er cyngor cu
Buredig yn bwriadu
Ymsymud ennyd union
I olud teg y wlad hon,
Cymered, pwysed heb ball,
Drwy ofn Duw, drefn a deall,
Ystyriaeth hwyrfaith hirfor,
Erwined meithed y môr;
Cefais i hyn, cofus hwyl,
Mwy o dasgwaith na'm disgwyl;
Er gorfod, hirfod yrfa,
O Wynedd mewn diwedd da,
Llawer gwas glân gwiw-glan glod,
O'r golwg aeth i'r gwaelod,
Yn mru Ilaid y môr llydan;
Cyn cael tir, geirwir yw'r gân;
Nid oes dianc grafanc gre,
Loew-ing, o law Ange.
Er y dreuthes ar draethod
Ynghylch y tir, glân eurwir glod,
Nid yw hynt yr helynt hon.
Er denu un o'r dynion
O dir eu gwlad wastad wych,
Yn chwannog, oni chwennych.
Weithian ac yn ddiwaethaf,
Gyd pharch eich cyfarch caf,
Ac felly terfynu fydd
Dan gauad hyn o gywydd.
HUGH GRUFFYDD a'i cant,
Yn nechre y ddeunawfed ganrif.


FFARWEL I'R BALA.
Wrth ymadael i Bennsylvania, Amerig.
Tôn—HYD Y FRWYNEN."

FARWEL Fryden, geinwen gynnyrch,
Hardd yn edrych, llewyrch llon;
Gwlad yr urddas, ffeind i chwmpas,
Gaerog ddinas, deyrnas gron.
A'i thrigolion manwl mwynion,
Amal ddynion, mawl i Dduw,
Gwlad gyfannedd, rhifiad rhyfedd
O ben bonedd sy ynddi 'n byw;
A gwerin ddigon o wyr cryfion
Dan y goron, dyna'r gwir,
A'r ynys brafia o fewn Europa,
A'r lle cadarna, dewra ar dir.

Y fi sy'n tybied y ceir gweled
Fod 'y nhynied yn 'y nhaith
I fynd yn brysur, Duw fo'n gysur,
I rodio llwybyr mesur maith,
O'r wlad yma i Ben Sylfaena,
Hir yw'r yrfa, drochfa draw,
Ond bod gwarant Duw'r gogoniant
A mawr lwyddiant ar i law;
A rotho i obeth, ffydd credinieth,
Yn ddiwenieth ar Dduw ne,
Er rhodio gwledydd mars a mynydd
Bydd yn Llywydd ymhob lle.

Y fi sy a'm bwriad, deuda'n ddiwad,
'Roi 'madawiad, profiad prudd,
A mynd oddiyma i gymryd gyrfa,
Duw ydi'r cryfa a'r siwra sydd;
Mae yn ddiogel ymhob trafel
Rhoi fy hoedel ar i law,

Pwy 'mhob modde 'n well yn unlle
A'm gwarchadwe yma a thraw?
Mentro 'r cefnfor maith i goror,
Ymado a'r fordor yma ar fyr,
At ffryns imi sydd ym Meri,
Dyna 'leni 'nghyni a nghur.

Ffarwel buredd Gymry mwynedd,
A gwyr Gwynedd bod yg un,
Meibion, merched mwyn diniwed,
O hil Brutanied yn gytun;
Ffarwel eto, 'rwy'n ymado
A phawb sy'n tario ar lawr y tir,
Ac yn cymryd taith dros ennyd
Ar for hefyd, yrfa hir;
Ffarwel ganweth, yn ddiwenieth,
I bob cydymeth brafieth bryd,
Cofia rheini yn ddi-wegi
Tra bwy heb oedi yn y byd.

I Sir Feirionnydd, mars a mynydd,
Cwynion efrydd, cana'i 'n iach,
Llanfor wyddfa, hon a henwa,
Byth ni anghofia'r Bala bach;
Ffarwel edrych Tir y Mynech,
Na chael llewyrch ar y lle,
Na chael rhodio dim ohono,
Na llawen droedio llawr y dre;
Ffarwel addas gaere 'r Rhiwlas,
A'i pherthynas, addas waith,
'Rwy ar gyhoedd, dan Dduw'r nefoedd,
I fentro dyfroedd moroedd maith.

Ffrwel iwch, mynydd maith a bronnydd,
A'r gorelltydd hylwydd ha,
Ff'rwel bob glanddyn trwy wlad Penllyn,
Canfod monyn' mwy ní cha;

Ffarwel frodyr oll, a chwiorydd,
A'm cefndyr hylwydd, ddedwydd ddawn,
A'm cyfnitheroedd, neiaint, nithoedd
Sydd yn lluoedd yma'n llawn;
Ffarwel bellach, fy nghyfathrach,
Heb gyfrinach eiriach hun
Cofia i donie hwyr a bore,
Tra bo yn fy ngene ffun.

Y sawl sy ag 'wllus, moddus meddwl,
Yn ddidrwbwl, manwl, mwyn,
Rhydd i weddi ar Dduw'n ddi-wegi,
Am bob daioni imi, a chwyn;
A'r lleill nid allan, gan waith aflan,
Ond rhoi gogan cyfan certh,
A chnoi yn wastad ryw athrodiad,
Yn lle cariad, siarad serth;
Ffarwel eto, trwm yw mado,
Crist a'n llwyddo ni ymhob lle,
Duw ro ffyddlon g'farfod rhyngthon
Yng ngwlad Seion union ne.
—DAFYDD MORUS a'i cant.


CAROL HAF.
1724.
Tôn—"LLAFAR HAF."

TEULU llafar claiar clowch,
Mewn bwriad da ymbarotowch,
I foli Duw yn filoedd dowch,
Deffrowch a rhowch y rhad;
Ni ddylem roi heb ffoi drwy ffydd
Fawl i'n Prynnwr, rhoddwr rhydd,
Sydd i'n cynnal nos a dydd,
Dragwyddol ddedwydd Dad.

Chwi welwch fod yr adar
Yn llefen foli 'n llafar
Greawdwr nef a daear
Mor hawddgar o bob rhyw;
Awn ninne a glân galonne
Yn beredd, hwyr a bore,
I ddiolch mewn gweddie,
Am wyrthie a donie Duw.

Chwi a welwch goed y meusydd,
Dyffrynie, a brynie, a bronnydd,
Yn dangos gwyrthie'r Arglwydd,
Da gynnydd, bod yg un,
Rhagorol ydi'r gweirie,
Moliannwn bawb ar linie
Wir frenin yr uchelne
Am reidie a donie dyn.

Mae'r egin da'u rhywogeth,
A phob planhigion perffeth,
Yn dwyn ar go farwoleth
Gudd eilweth, odieth yw;

Er bod yr ha'n blodeuo,
Daw rhew ac eira i'w gwyfo,
A'n dyddie ninne'n pasio,
Nid posib inni fyw.

Cadd llawer o denantied,
Mi a goelia, flwyddyn galed,
Am fod bwyd 'nifeilied
Mor brinned yn ein bro;
Gall Duw roi 'leni ddigon,
Os medrwn fod yn fodlon,
A diolch am ei roddion,
Da foddion, iddo fo.

Ni ddylen bawb tra bo ni byw
Yn ddiwyd iawn weddio Duw,
Fel da weision rhadlon ryw,
Dedwyddol yw, a da;
Er inni hau a phlannu,
Nid allwn mo'u cynyddu
Heb dwysog un Duw Iesu
I'w ffrwytho er hynny yr ha.

Mae Duw yn rhoi i bob dynion
Fwy heddyw nag a heuddon,
Gynhalieth doreth dirion,
Arwyddion digon da;
A ninne, i ben creduried,
Yn waeth na'r anifeilied,
Heb ddiolch i'r Gogoned
Am weled hardded ha.

Creawdwr tir a moroedd,
A brenin y brenhinoedd,
A'n dyco i deyrnas nefoedd,
Yn ifainc ac yn hen;


DYSGU CANU CAROL.
"Hy seiniwn hosanna neu glau haleliwia." Tud. 55.

Os cariwn fuchedd santedd,
A meddwl am yn diwedd,
Cawn goron i drugaredd,
Drwy amynedd bawb. Amen.

Duw Ion a'th rad, Duw un a thri,
Y cadarn dŵr, Duw cadw di,
A'th law rhagorol ffrwythol ffri
I foli yn 'glwysi 'n gwlad;
Rhag i'n gelynion greulon gri
Yn Lloegr hon i llygru hi,
I fyny dal d' efengyl di,
I'n llenwi a phob gwellhad.
—JOHN CADWALADER[9] a'i gwnaeth.


CLYW FEINIR.
Tôn—GWLEDD ANGHARAD."

CLYW, feinir eirwir arab,
Fwyna'n fyw, a'r lana o liw;
Howddgara erioed a geres
Wyt gynnes ddynes Dduw ;
Dy howddgar bempryd tirion,
Lliw hinon ha, a'm gwnaeth i'n gla
O'th gariad, leuad loweth,
Wen eneth, beth a wna?
Mae serch a chariad ffyddlon
Dan fy nwyfron union i,
Aeth ffansi gre yn llwyr o'i lle,
Ers dyddie, di wyddost di;

Er maint sy o athrodion rhyngom,
A'u geirie gwirion creulon croes,
Dy lewyrch di, bun brafia'i bri,
Sy'n llwyr ddifyrru f' oes.

Ystyria, ddynes dirion,
Lliw hinon ha, a thrugarha,
A thyn fi o'm pennyd poenus,
Bun fedrus ddownus dda;
Di ellit ped fai d' wyllus,
Hardd foddus fun, a'r lana o lun,
A geirie d' ene downus,
Daionus, safio dyn;
Di wyddost beth sydd ore
Ar les 'y mriwie i lesau mron,
Dy drwyad dro, bun brafia 'n bro,
Eill heno 'y ngwneyd i'n llon;
Ag oni ddoi, lliw'r eira,
Mi wn na ymendia, ond mynd yn waeth,
A'm bron yn brudd, bob nos a dydd,
Dan gystudd cerydd caeth.

A choelia, mwyn i chalon,
Lliw meillion Mai, dda fun ddi fai,
O athrodion diffeth rediad
A siarad rhuad rhai,
Er maint sy'n llwyr 'wyllysio
Yn rhwystro ynghyd yn dda 'n y byd,
Ni thycia gweníeth
Tra heleth ond rhyw hyd;
Fo bery cariad perffeth,
Gannaid eneth, gida ffun,
Ni ddichon bro, er treio tro,
Mo'n rhwystro er allo yr un;

Am hynny, Gwen lliw'r manod,
Gwna'n ol cydwybod wiwnod wedd,
Fe eill dy wawr fy safio 'n awr
Ne 'y mwrw i lawr 'y medd.

JOHN CADWALADER a'i cant


CERDD DODREFN TY.
Tôn—"HUN GWENLLIAN."

DOWCH уn nes i wrando arna,
I chwi'n ufudd y mynega,
Llawer peth y ddylech geisio,
Er na wyddoch ddim oddiwrtho;
Oni bydd morwyn sad synhwyrol,
A dyn glew gwaredd da naturiol,
Gwell yw iddyn i gwasaneth
Nag ymrwymo yn ddi—goweth,
Oni bydd y stoc i ddechre
Ganddo fo ne ganddi hithe;
Os priodi 'n ddiariangar,

Cyn pen hir y bydd edifar.
Dyle pob gŵr gwedi ymrwmo
Wneyd y fydde gweddol iddo,
Cymryd gofal yn wastadol
Am y pethe sy angenrheidiol;
Ni all dyn na dynes heini
Fyw ar gariad a chusanu,
Rhaid cael bwyd, a diod hefyd,
Ac yn rhwydd arian i'w cyrhaeddyd,
Rhaid cael buwch i ddechre swieth,
A cheffyl iti os mynni ysmoneth,
I gario tanwydd wrth ych eisie,
Gore towydd i fynd adre.

Gwag yw tŷ heb iar a cheliog,
A phorchellyn wrth y rhiniog,
Fo biga 'r iar lle syrth y briwsion,
Fe bortha'r porchell ar y golchion;
Padell fawr a phadell fechan,
Crochan pres ne efydd cadarn,
Piser, budde, hidil, curnen,
Rhaid i'w cael cyn byw'n ddiangen;
Rhaid cael twned i dylino,
A stwnt i roddi 'r ddiod ynddo,
Rhaid cael sach i fynd i'r felin,
A gogor blawd i ddal yr eisin.

Llech, a grafell, a phren pobi,
Mit llaeth sur, a gordd i gorddi,
Noe i gweirio yr ymenyn,
A photie pridd i ddal yr enwyn;
Desgil, sowser, a chanwyllbren,
Ledel, phiol, a chrwth halen,
Trybedd, gefel, bache crochon,
Saltar, a thynswrie ddigon;
Bwrdd a meincie i eistedd wrtho,
Ac ystolion i orffwyso,
Silff i roddi y pethe arni,
Cowsellt, carcaws, a chryd llestri.

Bu agos imi a gado yn ango,
Gwely y nos i gysgu ynddo,
Cwrlid, gwrthban, a chynfase,
A gobennydd i roi'n penne;
Ac ond odid bydd raid ceisio
Cryd i roddi 'r babi ynddo;
Padell uwd a pheillied, mopren,
Picie bach a rhwymyn gwlanen;

Rhac a batog, caib a gwddi,
Car, ystrodur, mynwr, mynci,
Picwarch, cribin, ffust i ddyrnu,
Gogor nithio gyda hynny.

Bwyall, nedde, ac ebillion,
Lli a rhasgal, gordd a chynion,
Pladur, cryman i gynhafa
Gwair ac yd mewn pryd cynhaua,
Morter, pestel, padell haiarn,
Padell ffrio, grat, a llwydan,
Siswrn, nodwydd, a gwniadur,
Troell a gardie a chliniadur,
Cyllell, gwerthyd, bêr, gwybede,
Crib mân a bras i gribo penne,
Pabwyr, gwêr, i wneyd canhwylle.

Wedi cael y rheini i'r unlle
Gwelir eisie cant o bethe,
Gwledd a bedydd a fydd gostus,
A mamaethod sydd drafferthus;
Bydd rhaid talu ardreth hefyd,
A rhoi treth er lleied golud.
Ystyried pawb cyn gwneyd y fargen,
A ellir cadw ty 'n ddiangen,
Haws yw gorwedd heb gywely
Na byw mewn eisie'r pethau hynny.
Cyn priodi dysgwch wybod
Nad oes mo'r dewis wedi darfod.
—C. D. a'i cant.


I OFYN FALENDEIN.[10]

HYD atoch, hafedd ganwyll Gwynedd,
Gore i fonedd o Gaer i Fôn,
L E diledieth, W I diwenieth,
Ac S eilweth mewn sylwedd son;
I O di amhur, N E dan awyr,
Ac S dda i gysur mewn synwyr sydd,
Yn flode meibion, dwyrudd dirion,
Ail i Solomon ffyddlon ffydd;
Be cawn i newis yn yr ynys
I wneyd y foddus liwus lein,
Y chwi er hynny rwy i'w chwenychu,
O fil i'w dynnu'n falendein.


OCH O'R NEWYDD.
Marwnad Richard Morus o'r Cae Du.
Ton—"Y FEDLE FAWR."

OCH o'r newydd oera arwydd
Gwympo ffrwythydd llawn llawenydd,
A gadd trwy'n gwledydd glod;
Claddu noddfa'r llais melusa,
Gore seiniwr gair hosanna,
Hyd ddiwedd rhedfa y rhod;
Richard Morus o'r Cae Du,
Llawenydd llwyr gwyr llawen,
I'w gynnar daith, gwae ni o'r dydd,
Roi 'ddwyrudd i'r ddaiaren ;
Dydd twyllwch, dydd tristwch, dydd aflonyddwch coedd,
Rhoi 'r eos mewn ceuffos ddechreunos, dychryn oedd.


Gŵr di ymrafel o hyd i hoedel,
A meddwl isel, gair diogel,
Fel angel tawel teg;
Enaid cyfion ymysg dynion,
Fe rodd Duw cvfion burdeb calon,
I'w ffyddlon fron ddi-freg.
Da oedd i gyngor, diddig oen,
A mawr i boen fu beunydd,
I foddio Duw ar feddwl da,
Cywira, cryfa crefydd;
Gŵr parchus, gofalus, madroddus, moddus mwyn,
Cariadus, llwyddiannus, gwên-ddownus, gwae ni o'i ddwyn.

Ni chlywodd clustie i well yn unlle,
Fel gwin ydoedd i ganiade,
Mesure pyncie per;
Gore i garol, cân blygeiniol,
A phob cerdd felus ddewis ddiwiol,
Dawn siriol dan y ser;
Clod a mawl i'r Arglwydd ner,
Mewn salme tiwnie tyner,
Ac yn y deml dawel deg
Fe wnae gyfandeg fwynder,
Llais santedd, llais peredd, a llais gorfoledd fawl,
Mae llawenydd tragywydd, oen hylwydd, yn i hawl.

Gobeithio i'w enaid fynd yn ddibaid
At ffyddlonied arwydd euraid,
Yn llys bendigaid Duw;
Er darfod rhoddi 'r corff i bydru
Fe ddaw yr Iesu i'w ail gysylltu
A'i gyrchu i fyny'n fyw;

Cyfarfod da mewn cryfa cred,
Fo i'w gyfneseified suful,
Yn ufudd lu i nefoedd lon,
Garedigion union anwyl;
Er trymed fu y golled pen y rhodded yn y rhych,
Duw fytho i'w cysuro, ac a'u llawenycho'n wych.

I wraig gariadus, oedran parchus,
I'w synwyr eitha sy'n hiraethus,
Am bur ddaionus ddyn;
A'i fab da 'i natur mewn trwm gysur,
Morus enwog, mawr i synwyr,
Mwy pur ni enir un;
Fe gafodd John i'w fron oer friw,
Mae hireth i'w gyrhaeddyd,
A phrudd yw Dafydd, lonydd lanc,
Fe gadd yn ifanc ofid;
Mawr golled sy i'w ferched pen gaued llyged lles,
Duw fyddo i'w cysuro wrth gofio i briddo heb wres.

Anne fwyn wridog, llais lluosog,
A'i gŵr da, anwyl gariad enwog
A gadd afrywiog fraw;
Elsbeth dirion, Dorthy ffyddlon,
O ddwyfron Siwsan, anian dirion,
Ochneidion dwysion daw;
I'w beder chwaer mae byd rhy chwith,
Mewn aruth ddilyth alar,
Sian a Mari ac Elsbeth fwyn,
A Chatrin fawr-gwyn dringar;
Trist newydd tros wledydd i'w ewyrth Dafydd daeth,
Pob cefnder, cyfnither, dros brudd-der eger aeth.


Neiant parchus, nithoedd gweddus,
Am Richard Morus sy'n alarus,
Oedd drefnus ar i droed,
O ache gwreiddyn Bleddyn Cynfyn
Twysog wynedd peredd purwyn,
Gwir ruddyn gore erioed;
O Fadog Mredydd, llywydd llais,
Pentre Cae'r Sais, Croes Oswallt,
Henafied, bwrdeisied, da i nodde dan y ne,
Gwaed inion bur goron yn llownion ymhob lle.

Llwydied Moelfre, uchel ache,
Arglwydd Drewen, lawen liwie,
A Sarffle, breintie bras,
Bodlith, Lloran, Moel Urch lydan,
Plas Ysgwenan, Trefor ddiddan,
Pwynt gwiwlan, a'r Pant Glas;
Fo dyfe hwn mewn difai hedd,
O fonedd iredd euraid,
Gwnaiff ofni Duw a helpu'r tlawd
Mwy lles i'r cnawd a'r enaid;
Roedd ynte heb fawr feie wrth fel 'r adwaene dyn,
Yn wir aelod preswylfod da hynod Duw i hun.

Ffarwel, serchog bur gymydog,
Ffarwel galon union enwog,
Ffarwel drugarog ŵr;
Ffarwel bencar, ffarwel gymar,
Lludw Llangar, gwely galar,
Sydd iddo 'n siambar siwr;
Yn ddeuddeng mlwydd a deugen oed,
Yn dirion rhoed o i orwedd,
Mil saith gant deugen a dwy,
Oed Brenin rhad anrhydedd;

Mis Chwefror oer dymor rhoed ar i elor wael.
Gwlad seintie y fo i ninne yn gartre gore i'w [gael.
—ARTHUR JONES O LANGADWALADR[11] a'i cant.


MARWNAD ANTARLIWT.
Tôn—FFARWEL Y BRENIN."

DOWCH gymdeithion haelion heleth.
Mewn clwy dygyn i'r cla'digeth,
Ni fedra i eto mo'r bodloni
Wrth glawdd y mynydd gladdu moni.
Fe ddaeth ati friw marwoleth,
Fel y daeth i'w holl genhedleth,
Drwy hynod hedd torrwn fedd yn haeledd i'w hulio,
Yn y graian rhown hi 'n gryno,
Ar ben ymdaith heb un amdo,
Ni wnaeth y chweryddiaeth ond l'esmeirio,
Mi wn y cyfyd hi atom ni eto;
I ganlyn hon rydw i'n llon a chalon wych heleth,

Mi fynnwn i chiwrio mewn goruchafieth,
I gael llawenydd dedwydd odieth.

Mi gowson ddigon o lawenydd
Wrth golli amser, eger ogwydd,
Ffeind oedd chware caru a rhodio,
Ni ddaliwn ati flwyddyn eto;
Ni gowson aniddigrwydd gartre,
A blinder ffoledd i'n cyffyle;
A dysgu'n glir yfed bir yn brysur heb ruso:
Hyn o ynfydrwydd, rhag inni foedro
O ran oferedd, rwy'n i fario;
Ni gowson gywir barch a chariad
Drwy beder sir mewn difyr dyfiad;
A merched glân, fawr a mân, yn trotian i'n tretio,
Clyche'n seinio, canu a dawnsio,
Yr hyn yn lwcus yr wy'n i leicio.

Poen a cholled, dig a byr-oes,
A wnaiff hynny yn ein heinioes,
Llawenydd sydd yn cadw'r galon
Rhag ofn rhyw ddiles syn feddylion.
Gwyliwn ganlyn gwagedd gormod
Rhag ofn digio'r Arglwydd uchod;
Yn ifanc wedd hoew hedd i ymgyrredd am gariad,
Dyma yr amser, medd darlleniad,
Tra mawr odieth am warediad;
"Mi fydda lawen yn fy ienctid,
Pen elw i 'n hen mi fydda ddiwyd,
Mi drof yn ol, agwedd ffol, mi a'n ddiwiol, mi a'n ddownus,
Pen ddelo 'r dyddie anrhydeddus
Mi fydda farw'n edifarus."

Mae rhai, wrth ddisgwyl mynd yn henedd,
Yn syrthio 'n feirw mewn oferedd;

Dyma'r gair a'm rhodd i synnu,
Ai gwir ydoedd alla i gredu;
Di elli goelio gair cyfiawnder,
Ar yr hoedel na rown hyder;
Heddyw'n llon, ger ein bron, gymdeithion odiaethol,
Y rhai sy'n downsio ar ol y feiol
Cyn yfory all fod yn farwol.
Duw fo'n madde i bawb i beie,
Mi fynna gladdu hyn o chware;
Mewn amdo brith a daear nyth, ni ddaw hi byth i fyny,
Dydd Calan Gaua yn lana y leni
Ffair wael addas, ffarwel iddi.

Ni roddwn ddiolch pur gariadol
I bawb lle cowson groeso grasol,
Ni fuon wyth o bur gymdeithion
Efo'n gilydd yn un galon;
Deuddeng ngwaith ar hugien heleth
Y darfu dangos hyn o chw'ryddieth;
Yn bur gytun bod yg un yn ddygyn heb ddigio,
Yn nheyrnas nef v bo ni 'n tario
Mewn da amynedd, rwy'n dymuno;
Nis gwyr neb ond Duw perffeithlan
A ddown ni ond hynny byth i'r unman,
Cymerwn ffydd, nos a dydd, yn hylwydd a hoewlan,
Yr Arglwydd Iesu i'w henwi i hunan
Am deg 'wllus a'n dug allan.
—ARTHUR JONES a'i cant.


HELA YSGYFARNOG.
A chwn Mr. Owen Salisbury.
Tôn— "MARWNAD YR HELIWR,"

POB heliwr glân tirion sy'n tario 'n Edeyrnion,
Ewyllysgar i galon, mewn moddion di-flin,
Doed mewn afieth yn ufudd gydymeth
I ganlyn helwrieth, mae'n berffeth yr hin;
Os tywydd claiar y fydd hi,
Purion prau i godí pry,
Wrth i ffroen nhw ân yn ffri
Ati hi heb atal;
Os caiff hi orffwys mae hi'n ffol,
I goethi i ffwrdd fel na ddaw'n ol,
Yn ol i rhyw nhw ân mewn rhol,
Ac ar i hol i 'n ddyfal.

Pen geffir nhw i'r unlle, eu cau mewn cyplyse,
A chywiro pwyntmane, ar fore sy raid,
A'u gillwn yn ufudd, i dreio ar i drywydd,
Yn fwynedd dan fanwydd i daro'n i plaid,
Amal ddolen a rydd hi,
Brwyn a dôl a branar du,
Gwiw yw goel, os gwel hi gi
Hi gymer hi ragor,
Rhaid yw canlyn arni'n glos,
Myn fy ffydd, glawdd a ffos,
Pant a rhiw, a gwern a rhos,
Mewn achos, rhown gyngor.

Daw Snobol a Bwtler a Juler a Pheiper,
Dwtses a Cholier yn dyner a Thon,
Chwidlib a Miri, mor liwdeg, a Ledi,
A Deido sy i'w henwi, go henedd yw hon;

Fo ddaw Com a Lili fwyn,
Tincer, Dryncer, pawb i'r llwyn,
Sownder, Ostres, heb ddim cwyn,
A'i gyrr ar dwyn i flino;
Philpot, Pompi, Biwti bach,
Bowler, Deiner, Fenws fach,
Gwafr a Damsel, pawb yn iach,
Daw Tapster bach i'w gofio.

Fo ddaw Meistar Salsbri ar lasdir yn lysti,
Efo'i gwmpeini, sy'n llonni pob lle,
Pan glowo fo'r miwsig, gŵr ydi caredig,
Canlyn yn ystig heb ryfig efe;
Fo farchogiff bob pen awr,
A'i fynediad tua'r llawr,
Ni cheiff hi roi mo'i thor ar lawr,
I orffwys yr un gronyn;
Mae nhw'n hysbys ar i gwaith,
Pyncio wnan hyd lwybre maith,
Nid oes un miwsig yn un iaith,
Hyd alaeth, ond telyn.

Pen geffir ail godiad bydd arni 'n ddiffygiad,
Daw ati lesmeiriad ar droiad y rhiw,
Hi fydd yn clustfeinio, gan sadrwydd gynsidro,
Nid eill hi fawr rodio tra botho hi byw;
Edward Wyn a Richard fydd
Yn mynd yn rhwydd fel ceirw rhydd
Ar hon mewn braw a'i bron yn brudd,
Fel ufudd helyddion;
Callwyr cywir, helwyr hael,
Bydae yno fil nhw haedden fael,
Myn fy ffydd yn ddiffael,
Heb geulo hael galon.

Daw Mistar i hunan ar gefn y lwyd fechan,
Fel mellten cyn taran, i daro 'n i plaid,
Bydd Dafydd mewn gofal yn canlyn yn ddyfal,
Mi ddeuda'n ddiddadal, yn amal i naid;
Pen ddêl mwrdrwr cynnwr certh
Ar bryfes bach yng nghysgod perth,
Nid gwiw i swyddwr fod yn serth,
Mae'n anferth iddo
Oni cheiff o ddarn o groen ne glust,
Ni wiw iddo fod yn dyst
Os metha i safio.

Os cân nhw hyd helffon, nhw a'i gwnan yn chwarterion,
Gwaith ofer i helsmon roi esgusion am hon,
Rhaid myned yn ddibris heb osgo nag esgus,
Ati 'n galonnus, fel lliwus ŵr llon;
Fo ddywed Dafydd pyrhnawn ddydd,—
"Dyma'r prau, na byddwn brudd,
Mi geis ddialedd hyd y dydd
Yn ceisio hel-bry; "
Dirwyn ar i hol hi 'n glos
A wnen nhw 'n rhes hyd wern a rhos,
Iddi hi yn ddi os
Rhoed achos i'w nychu.

Hwy ddarfu i marwoleth, trodd pawb i fynd ymeth,
Yn ufudd gydymeth, mewn afieth a nwy,
Pob dyn sychedig yn yfed yn ddiddig
Helth gwr bynheddig nodedig o'i blwy;
Mwyn heliwr, chwythwr corn,
Pan glywer llef hwy ddaw yn llon,
Yn ddi brudd hwy a ddon ger bron
I wrando 'r don yma;"

Pan ddel ar fore oddiwrth i lys,
Fo red pawb yn fawr i chwys,
Fel yr oen yn ddirus,
Yn hwylus i hela.
DAFYDD PUW ROWLANT a'i cant.


HELA LLWYNOG.
Tôn—"MARWNAD YR HELIWR."

DYDD da fo i'r hen fadyn, mi'th wela di'n dordyn,
Nid oes ar dy dduryn fawr newyn yn wir.
Dydd da iti 'r Cymro, gad lonydd i'th basio,
Nid allai ymgomio na thario waith hir."
Pam yr wyt mewn cimint braw
Ai spio drwg y buost draw,—
Cyfri 'r gwydde o ddeg i naw
Gael ciniaw cynnes?
"Ni fum i 'n wir yng nghyfyl tŷ,
Ond ffoi rhag brain, ac oddifry
Cyn canol dydd mi a i'r cenel du
Gael llechu yn fy lloches."

'Rwy'n ofni cael colled o'ch duryn awch diried,
Nid oes mo'r ymddiried, er llaesed yw'ch llyw.
"Ni ro inne'r ffordd yma fawr ran i'r gwiriona,
Ar gastie a chyfrwystra yn benna rwy'n byw;
"Ai tydi bia'r gwydde glân,
Y ceiliog coch a'r llafar gân,
Yr ieir a'r holl gywenod mân
Sy'n cocian tuag acw?"
Y fi pia nhw, ag oni cha'i gam,
Ag os y dygi nhw am i ham,
Cyn'r eloch di i dŷ dy fam,
Y tennyn fo am d' wddw.


LLANRIAIADR YM MOCHNANT.
A godre'r Berwyn.

"Ni phrisia inne ronyn, er rhegu'n rhy ddygyn,
Cais edrych yn sydyn i'r fadyn am fwyd."
Ni edrycha'i mor pethe, mi guddies y gwydde,
Mi fynna roi barie ne gloie ar y glwyd.
"Nid a i 'n wag fy llaw i'r llwyn,
Ynghylch dy dai am rai o'r wyn,
Ni byddai dro 'n dwyn dau ar dwyn,
Gwna dithe dy gwyn gwedi."
Os wyt ti ar feder chware cna,
Gwn ar amcan beth a wna,
Mynnaf arnat gyfreth dda,"
Mi dynga na ddiengi.

Yr hen fadyn tinwyn, os rhaid i mi achwyn,
Cyn hanner y gwanwyn gwnai wenwyn y gwaith;
Gwahodda 'n wych haeddus wyr helwyr iach hwylus,
I ddwad mewn 'w'llys, wyr dawnus, i'r daíth;
Daw Meistar Ffelwar, gwycha gŵr.
O Nant Clwyd, le fawr i lwydd,
Mi a hwnnw 'i hela'n rhwydd,
Mi a 'n un swydd i'w geisio ;
A Meister Parry pur
O'r Llwyn a llawen wyr,
Hwy ddaw y rhein drwy'r maen a'r mur,
Yn brysur heb ruso.

Daw'n drydydd ŵr gwiwlan, ie Meister John. Fychan,
Sy'n heliwr da i amcan o'r ddwylan i'r ddôl;
Y bore mae'n bwriad, cadarn yw'r codiad,
Gwn y bydd bagad yn dwad ar d' ol;

Dydi fydd brudd y dydd y dôn',
Helwyr hael, di-wael dôn,
Am danat ti ni bydd ond son
Pan hwylio nhw i'r hela;
Mi ddaw yma, rhedfa rhod,
Y cwn gore a alle fod,
Yn Nyffryn Clwyd yn caffel clod,
Yn hynod mi henwa.

Daw Larwm, a Thrymer, a Chiwpit, a Theler,
A Chywir, a Ffidler, a Throwler wrth raid;
Daw Piper, gi gwisgi, a Chowntes, a Ladi,
A Jewel, a Lili, a'r rheiny 'n un haid;
Daw Dic y cynnud, deca cwyn,
A ddyry lef ar y llwyth ar lwyn,
Nid oes i'w gael well dyn ar dwyn,
O dywed, "Tyrd yma";
Hwn, medd pawb, sydd heliwr pur,
Am hwylio 'i gwn yng ngolwg gwŷr,
Ni ddaw yma'r un a'i cur,
A'i fesur ni fisia.

"O gwae fi dy gwarfod, y dyn digydwybod,
A'm rhoes mewn dychryndod a gormod o gur."
Bydd rheitiach it gwyno yn sad ac arswydo
Pan ddelo'r dydd treio ac ympirio i'r gamp bur.
"Tro di 'n d' ol, y Cymro glân,
Trwy amod gwiw hyn yma o gân,
Ni thrwbla i monot, myn y tân,
Trwy ogan, dro eger."
Na phoena pratio a'th wyneb prudd,
Gwn i amcan fel y fydd,
Mi af yfory efo'r dvdd
A'r newydd i lawer.


Yn nydd yr helwrieth daw pawb o'r gymdogeth
Cydgodwch ar unweth yn odieth i'r nod,
Pan glywoch chwi gynta swn y cyrn hela,
Dowch allan yn gyfa, swydd fwyna sy' i fod;
Daw pawb yn arfog yn i nerth,
I lywio ac i bwyo 'r berth,
Y sawl sy ganddo 'r un ci certh,
Go gydnerth, at gadno;
Ni ddaw mwy, i braio bras,
Yr un llwynog cefnog cas,
At wyn plwy nag at un plas,
Yr andras, i blyndro.
NED LLOYD, o'r Bala, a'i cant.


Y CEILIOG HWYAD.

DYDD da fo i'r celiog hwyad glân,
Sy'n rhodio ymysg yr adar mân,
O hil yr wy yn hel i ran,
Ond llynia man yw'r mynydd?
Pa fodd yr wyt ti 'n dwyn dy fyd,
A'th garsiwn hyd y corsydd?
Tydi sy'n rhodio 'r wlad ar led,
Moes beth diniwed newydd.

"Caled iawn, O coelia fi,
Ydi y rhew, mawr ydi 'n rhi,
Ar aua caled, gwae nyni,
Yn methu ymgodí i 'mgadw;
Onis gwn pa beth a wna,
Gan rew ac eira garw,
Gwaeddi rwy mewn ffos a llyn
Gael meiriol cyn fy marw.


Mi ath weles di, geiliogyn clir,
Ddoe yn hwyr, mae hynny 'n wir,
Yn hedeg tua phen isa'r sir,
Ymddygiad segur ddigon;
Pa fodd y cest ti drawiad trwch,
Gadarnwch, yn Edeyrnion?
Mae ar dy frest di olwyth per
Y ffitia'r bêr yn burion.

"Ni cha i mo'r pori wrth y mhwys,
Ar lan yr afon lonwedd lwys,
Na botho rog o gysgod cwys,
A'i fwriad dwys yn barod;
A'i wn ffrit i'm hyll gyffroi,
A'i ddwrn i roi imi ddyrnod;
Ple buost tithe 'n byw ar des?
Moes beth o'th hanes hynod."

Yn ddigon llawen, fwyalch llon.
Ar hyd y fangre hynod hon,
Pob gwyr braf bum ger i bron,
Bonddigion union enwog,
Mewn pob plasdy, closdy clyd,
Mewn dedwydd fyd godidog,
Yr ydw i ers gwell na phedwar mis
Yn rhodio llys Rhiwedog.

"A welest ti yno nos na dydd.
Hen ddrag o ffowliwr drwg i ffydd,
Ar hyd y plas, wr cas a fydd,
Un Morus Dafydd greulon?
Hwnnw gynt a laddodd gant
Wrth herwa, o mhlant a'm hwyrion,
A welest ti mo'r cyfell blin
Ar ymyl min yr afon?"


Rwy wedi spio cono certh
Yn mynd i gysgod parod perth,
Cymer hediad nofiad nerth
Na bydd gwiw anferth ynfyd;
Cais di ddiengid rhag cael cam,
Yn fuan am dy fywyd;
Mae ganddo bowdwr chwerw chwyrn
A bâr i'th esgyrn ysgwyd.

"Mewn twyll yn wir dydithe sydd,
Ond trwm yw'r loes, nid oes un dydd
Na bo nhw 'n cynneu dan y gwŷdd,
Iddewon y fydd mor daiwyd;
I Riwedog dos yn d' ol,
Mi af finne i ganol Tegid,
Pe cawn i feiriol glân a glaw,
Mewn gole draw ym gwelid."

Y Meistres Llwyd yw pen y llu,
A'i gwir aer teg yw'r gore yn tŷ,
A Meistres Wynn, mi ddeuda'n hy,
Sy'n gwir groesawu 'n siriol;
Meistar Robert Llwyd ddifeth,
A phawb o'r odieth bobol;
Ple cewch chwi 'r fath gwmpeini per,
Ym Meirion, er ymorol?

ROBERT HWMPHRES.


YMADAEL AG OFEREDD.
Cerdd Antarliwt.
Tôn—"BREUDDWYD Y FRENHINES."

O F' ARGLWYDD trugarog a'm llywydd galluog,
Eneiniog, un enwog, Oen union,
Clyw gwynfan pechadur, sy'n ceisio sain cysur,
Dan fawr-gur, bur eglur beryglon;
Tydi ydi'r unig feiddiol feddyg
Rhag braw uffernol, briwie ffyrnig;
Er dal o Satan fi 'n i gorlan,
Heno i elli nhynnu allan;
Rwy'n drygu, egwan agwedd,
Dan ddistryw diluw dialedd,
Mewn buchedd ffiedd ffol;
Ond rho fy ngobeth a'm credinieth,
Drwy ufudd gredu i Iesu o Nasreth,
Yn Nuw gogonedd hyd y diwedd
I'm nol i o fache anuwiol fuchedd,
Mewn puredd gryfedd grefydd,
Rhag llwybre caere cerydd,
O'i magle boene beunydd, a'i hylwydd ddilwydd ddol.

Os torres i grefydd oreuglod yr Arglwydd,
Wrth ddilyn ynfydrwydd anfeidrol,
A bwrw 'n ddiddonie holl flaenffrwyth fy nyddie,
Heb feddwl am gaere rhagorol,
Gweddia'n bendant am faddeuant
A modd i drechu meddw drachwant,
Treia wirffydd, gryfach grefydd,
I labro didwyll lwybre dedwydd;
Of Arglwydd, hylwydd haeledd,
Dod gymod imi am gamwedd,

Trwy guro wrth ddrws trugaredd,
Cyn dialedd diwedd dwys;
Mae'r sel a egore i'r sawl a guro,
Mae llaw yn rhoddi i'r sawl a geisio;
Gweddia 'n wastad ddiderfyniad
Ar Dduw Goruchel, bugel bagad,
Gael dwad yn y diwedd
Dan goron dy drugaredd
I'th dirion union annedd o'r waeledd geufedd gwys.

Mi dreulies Sabothe yn darllen gwag lyfre,
Heb ynddyn na donie na deunydd,
A gadel fel tristwch dy ddonie diddanwch
I ganlyn digrifwch digrefydd;
llunio eilweth hvn o chw'ryddieth,
A dal i'w dilyn, dwl hudolieth,
O hyd ar hyder blasus bleser
Wrth naturieth afieth ofer,
Yn dyner, Arglwydd dawnus,
O hela'r gwael anhwylus,
Rhag dwndsiwn Annwn ynys,
I'th barchus nwyfus nef;
Rhag syrthio 'n drythyll, erchyll archoll,
Garwa fargen, ar gyfyrgoll,
A mynd ryw ddiwrnod i erchylldod
Gur, heb ochel garw bechod;
Cyn dyfod dydd edifar
Trown at Dduw 'n foliangar,
Yn holl osgo 'n ewyllysgar, drwy hawddgar lafar lef.

Ymdrwsiwn yn addas yng ngwisg y byriodas,
I fyned i'w hurddas a'i harddwch,
A bod yn barodol, trwy gariad rhagorol,
I gael yr hy frawdol hyfrydwch;

Oddiwrth yr enfysg cymrwch addysg,
Cyn dychryn fawr a dirfawr derfysg,
Gwelwn ddigon o arwyddion
Yn ddrwg i riwlio ar ddaearolion,
Roe 'r cyfion Arglwydd cofus
Yn hollol wrth i wyllys
I droi rhai pechadurus
Cyn poenus frawchus fraw;
Rhaid mewn egluredd, medd Ysgrythyr,
Roi cyfri o'n swga eirie segur,
Mae nhw, ysyweth, yn rhy heleth,
Fwrn mewn dygyn farnedigaeth,
Ein gwenieth fydd yn gwynio
O flaen yr Union yno,
Heb le inni o'r gwydd mo'i guddio, er treio i droi o draw.

Mewn llyfr a ddarllennes yn graff mi a greffes,
A gweles ein hanes yn hynod,
Pan oeddem ni 'n waeledd, yn gwla ddiymgeledd,
Dan ddialedd ein buchedd am bechod,
Daeth Crist ein brenin a'n hamddiffyn
Oddiar ddiobeth oriw ddibyn,
A ninne 'n unig a methedig,
Mewn gwall adwyth yn golledig,
Yn ddi-ddig fo ae í ddiodde,
Ac ar y pren y'n prynne,
O ddiwaredol rwyde,
A llwybre dreigie drwg,
Ond Duw 'r uchelne a fyddo i fadde
Ein baich adwyth o bechode,
Ar ol ein galw ar fyrr i farw
Na ddyro anedwydd gerydd garw,
Na fwrw am oferedd
Mo'n cyrff i ddilwydd ddialedd,
Na'n henaid i anhunedd ddiddiwedd farwedd fwg.

JOHN JONES a'i cant.


MAWL I FERCH.
Tôn—"IECHYD O GYLCH."

CLYW, bun gain, gynnes, fynwes fain,
Dirion, gywrain feinir gwyredd,
Glân siwr o'th serch, y weddol foddol ferch,
Lana ar lunied, feinir luniedd,
Rhyw newydd frathol ferthyr
A fagodd dduliw ddolur
Yn fy mynwes, dirion baenes, garw bennyd,
Sef cariad pur yn gwreiddio
O'r galon, di alli goelio,
Sydd i'm clwyfo, eitha clefyd.

Ow ystyr, bun, weddedd lariedd lun,
A gwel y dygyn gosbedigeth,
Rwy a'm bron yn brudd, bob nos a dydd;
Ac o'th herwydd yn dwyn hireth,
O gariad i'th hawddgarwch
Rwy'n glafedd drostwy o dristwch,
A'ch gore degwch garedigol,
Nid adwen mo'th gymhares
Oleulan burlan baunes,
Bryd angyles, ddynes ddoniol.

Dy wastad drwsiad dro, bun, y ffordd y bo,
I'm goleuo, meinir lawen,
A'ch geirie gore gwir, cariad clymiad clir,
Byth yr adwen yn ol dy gefen;
Gwiwddoeth reswm gweddol,
A chusan oedd iachusol,
O main i chanol, mwyn a chynnes,
Dy leisie per-felusion,
Fel odle tanne tynion,
Ne glyche mwynion yn fy mynwes.


Y mae dy degwch di, fy mun ffraethlon ffri,
I'm digalonni, meinir luniedd;
A'th eirie a dorre 'r dur, a bâr i'r galon gur,
Gwel fy nolur, mawr yw nialedd,
Bydd yn help 'wyllysgar,
War ddiwies, ar y ddaear,
I dorri galar sy ar y galon,
A dyro, meinir wisgi,
Dan amod gusan imi,
Cyn gweld o ddifri briddo'r ddwyfron.

M yn gynta sydd, ac E, am deg i grudd,
Blode 'r hafddydd gwynion,
I phempryd hyfryd hardd fel blode gore gardd,
A dianhardd, medd a'i 'dwaenon;
Llwyddiant y byd llawen,
Y fytho i hon heb amgen,
A gras i'w harwen, fyth, a hiroes,
Boed Iesu i'w chywir dwyso,
I nefol wlad i nofio,
Yn ddi-boen yno ar ddiben einioes.
JOHN HUGHES a'i cant.


HEN BENNILL.

ROBIN goch ar ben y rhiniog,
Ai ddwy aden yn anwydog,
Ac yn dwedyd yn ysmala,
"Mae hi'n oer, mi ddaw yn eira;
Mae fo 'n barod ar ben Berwyn,
Daw i lawr, a niwl i'w ganlyn,
Hulyn gwyn i hulio'r gwanwyn,"


CAROL HAF.
Ton—"MWYNEN MAL"

TANGNEFEDD glân i'ch annedd glyd,
Dymuno 'ch gosteg mwyn í gyd,
Ni ganwn beth, a gwyn yn byd,
Llawenfryd sy ymhob llwyn;
Clywch yr adar, hawddgar hil,
Er pan aeth ia ac eira ar gil,
Yn tiwnio i Fai fel tanne fil,
Ne ganiad Fyrsil fwyn.

Od oes brydyddion doniol,
A wnant i'r Arglwydd nefol
Gân addas awenyddol,
Grefyddol gore oedd fod;
Creaduriaid byd yn dyrre,
Rhont yn eu hieithoedd hwythe,
A'r cogau, nid rhaid ame,
Sy'n canu glame i glod.

Nef, daear, môr, a dyfnder maith,
Ront fawl i'n Hior, bawb yn i iaith,
Hwyr a bore, gore gwaith,
A pherffaith yn i ffyrdd,
Am roddion da'r Messeia Sant
Fel Hermon wlith i blith i blant
Rhown iddo ar dafod ac ar dant
Ddiffuant foliant fyrdd.

Ni welodd y rhai hyna
Un ail i'r flwyddyn yma,
Na garwach rhew ac eira,
A thosta gaua i gyd;

Nid alle'r gwas braidd ddyrnu,
Yn goes grothog, gan ysgrythu,
A'r meistar aethe 'n finddu,
Gan gredu rynu o'r yd.

Pan ddarfu i'r dyfroedd fferru,
Ewyllys Duw oedd felly,
A wnaeth i Degid dagu,
A Dyfrdwy fel llawr dôl;
Ni chair anifel arni,
Yn ddidwyll mo'i ddiodi,
Ac o ddefeidiau wedi,
Mae cyfri aneiri ar ol.

Bu filoedd mewn cyfyngdra,
Yn gwaeddi am feiriol fara,
Ac oerfel, ne amal gurfa,
Wnaeth bart, fi glywa, 'n gla,
Amhosibl oedd ymhwsio
Na bydde i anwyd w'nio,
Ni a gawn ymddiosg eto,
Gan ymdorheulo'r ha.

Mae llawer morwyn lysti
A redodd i'w phriodi
Nis gwybu tan eleni
Mo'i geni am i gwaith;
Dechreuad yr anffortun
Oedd balchder ar i choryn,
Nes cael i dir aderyn,
Hwy ân yn ara'n saith.

Mae'r ifanc mawr i afieth,
Fel iredd lasbren eurbleth,
Am ddyfod i farwoleth
Ni fyn ysyweth son;

Nid ydyw'r ddysg a'r ddeall
Sy am dianc hebddi ond cibddall,
Hi gyrredd hwn ac arall,
Y fwyall sy ar i fon.

I Dduw bo'r ore arwyren
Ac nid i'n henwau'n hunen,
Am rwystro gelyn milen
I'r gywren Fryden fras;
Caed helynt dda i bob tylwyth,
Cawn eto, byddwn esmwyth,
Daw yde glån diadwyth
Ar ddaear lawnffrwyth las.

Mil, seithcant, a deugeinmlwydd
Yw oedran Crist yn Harglwydd
Pan wnaethpwyd hyn o newydd
I'n Harglwydd heb ddim llai;
Pob prydydd rhoed o'i fynwes,
A'i awenydd yn ddi-anwes,
I Hwn ogoniant cynnes
Ar ddyddiau moeldes Mai.

Duw, cadw'n Heglwys hoew-glod,
Er maint i hymryson isod,
Bydd iddi 'n gadarn briod,
A pharod uwch i phen;
Gwna i George yr Ail reoli
Yn ddibrin frenin arni,
Ond iawn i bawb sy i'w berchi
Ddweyd efo myfi "Amen"?

WILLIAM ROBERTS a'i cant.


CAROL HAF. 1741.
Tôn—"LLAFAR HAF."

Y TEULU hyfryd haelion,
Gostegwch, garedigion,
Boed rhwydd dangnefedd rhadlon.
I'ch clydion dirion dai;
Clywch drín mesure amserol,
Gin hedied mân dymunol,
Sy'n pyncio 'n fwyn foreuol
I carol moesol Mai.

Daeth blwyddyn dost eleni
'R hyd wledydd ar dylodi,
Ni bydd yr iach nes profi
Yn dwyn caledi 'r cla;
Ni all gwannwr lai na gwenu
Na'r nych ond llawenychu,
Na mwrdrwr nid yw 'n medru
Ond canu er hynny yr ha.
Byrdwn,—
Duw cadw 'r eglwys wiwlwys wår,
I'th foli ynddi, yn Celi a'n car,
Na throed i theulu'r un i får,
Dros i dynnu 'n bedwar darn;
Mor dda i'r trugarog gore i ffydd,
A wna ddaioni yn i ddydd,
Pan ddêl a fu, bob rhwym a rhydd,
Sydd ac a fydd, i farn.

Y gweinied rhown ogoniant
I Dduw am gael yn porthiant,
Yn ddiwall, a maddeuant,
Yn bendant am yn bai;

Er cael wythnose lawer,
Yn oerion, digon eger,
Ond gwaeth na hynny o'r hanner
Yw'r prinder, medd pob rhai.

Yn llanw y mêl a'r maidd,
Os rhaid punt 'r hob am 'r haidd,
'D all tylodi i brofi braidd,
Rhywiogaidd eto yw rhai;
Nid gwiw mo'r digalonni 'n glir,
Daw cynhaua yd cyn hir,
Os methant gael y fael ar fir,
Siawns na ddarllewir llai.

Mae cimint yn cardota,
A rhai rhy fyr o fara,
O gwnaed y cryf hydwythdra
A'r gwanna, gwaca i god;
Gan lawen fwyn gyfrannu
Budd gwell, yn ol i gallu;
Ond gwyn i fyd fo 'n heuddu
Cael wrth i gladdu glod?

Esmwythach na gwasneuthu
Gan amal ddau ymglvmu;
Ac os na fethant fythu
A chyd-tynnu ar y tir,
I henaint daw gwahaniad,
Fo heb unioni, anynad,
Daw 'r glomen wenlliw 'n anllad
Yw'r siarad sy ymhob sir.

Mae son am ryfel gwaedlyd,
Pob d'rogan derfydd rywbryd,
Arwyddion gynt a roddwyd
Mai rhewllyd fydde 'r hin,

A dae drudanieth caled,
A dynion mewn caethiwed,
Ac eisie ar anifeilied,
Gofalus oedd i trin.

Os aeth y coed a'r plwm o hyd
Ty hwnt i'r môr yn drysor drud,
Cael eto ymborth, gaws ac yd,
Fu dewis byd i Sbaen;
Ti Dduw frenin oddifry,
A phen ein cred, amddiffyn cry,
Diflanna ein gelynol lu
Rhag gallu ymledu ymlaen.

Yr Iesu a fo 'n amddiffyn
I George y gwron frenin,
I gadw i longe a'i fyddin,
Rhag twyll a gerwin gad;
A madde'n camwedd inni,
Arferwn dy glodfori,
Cyduned mewn daioni
Holl lân arglwyddi 'n gwlad.

Mae cedran Crist yleni
Yn fil a saith cant wedi,
A phedwar deg o flwyddi
Sydd inni o gyfri, ac un;
Duw, dod heddychlon hafddydd,
Yn ffrwythlon a helaethrwydd,
Eu llunieth a llawenydd,
Da dedwydd, i bob dyn.

WILLIAM ROBERTS a'i cant.


CARU WEDI NOS.
Ymddiddan rhwng carwr a hen wraig ddaeth i'r ffenestr wedi iddo gnocio. O interlude.
Tôn—"HYD Y FRWYNEN."

MAE pawb yma mewn esmwythdra,
Anifyrra un wyf fi,
Ni fyn henaint mo'i ddihuno-
"Yn rhodd ewch heibio, 'n rhwydd i chwi."

Os e, modryb ddwys i 'madrodd,
Mi wn lle arhosodd llawer rhai.
"Chwi ellwch goelio, ni wiw cnocio,
Rydw i eto 'n effro, 'r nai."

Yma'n wastad 'roedd fy nghariad,
Dygwch f' archiad at y fun.
"Hi fyn lonyddwch. Oni choeliwch,
Ewch a chwynwch wrthi ych hun."

Ow, deffro heb orffwys, cwyd a chynnwys,
Eneth gymwys, un a'th gâr.
"Bore godi, gweithio heb ddiogi,
Cysgu sy arni, poeni a'i par."

A ewch chwi 'n dringar at i siambar
Dyma ddrwg anhawddgar hin.
"Oni bydd hi'r bore 'n barod,
Caiff gin i ddiflasdod flin."

Pe cawn i'r eos dan ddiweddnos,
Nid alla i aros gwylnos gudd,-
"Gwell a fydde eiriach orie
Na mynd adre ym min y dydd."

Gwell na cnoweth gwrach anhyweth,
Gael yr eneth o liw'r od.
"Fe geir mawredd ac anrhydedd
Parch ond cyrredd perchen cod."


Da gin i gynnig ar buredig
Ferch barchedig, wledig, lân.
"Oes arnoch chwithe 'r fath rinwedde
Fel y maent o'r gore ar gân?"

Rhyw fath afieithus diwenieuthus,
A chen i ddiesgeulus gwyn.
"Mae ffansi flysig ddarfodedig
A siomedig gan was mwyn."

Roedd gen i amheueth nad awn ymeth,
Heb un amod a'r fun wen.
"Mae i chwi groeso i aros heno
Dan y bondo, dyna ben."


BEDD-ARGRAFF ROBERT HUMPHREYS.

YR awen gymen ddigamwedd—Robert,
A'i oreuber faswedd,
Mewn gweryd y mae'n gorwedd
Glain y beirdd, gwelwn y bedd.

O Feirion dirion y daeth—a Ragad
Rywiogaidd athrawiaeth;
A'i ddwys gadarn ddysgeidiaeth
O Deirdan at Eilian aeth.

Ei rwydd enaid am ddonie—a gydia
Er gado 'i gorff gartre;
Ddi ledlais dduwiol odle,
Beraidd naws gyda beirdd ne.

EDWARD SAMUEL.


CERDD Y SAESON.
Tôn—"MEL WEFUS."

MYNNAI bellach yn ddiballu
Loeger lydan i'w meddiannu,
A blaenffrwyth tyciant y meusydd teca.
Yn ddiysig y ddewisa;
Caiff y Saeson yn i hoese,
Taera gwyr, y tiroedd gore;
Hwy geiff yr hen drigolion cwla
A'u ffydd amhwyll ffoi oddiyma,
I gyrre gelltydd, gaere gwyllta;
Mi fyddwn ninne wrth drin i doldir
Yn wyr ystowtiach ar wastatir,
Ac yno ceiff y Cymry nhwythe
Yrru yr ychen hyd yr ochre,
Mewn man anddig ym min mynydde.

Mi gân yno fyw'n deneuon,
A gwerthu i ninne'r pasgedigion,
Am y pris y fon i'w leicio,
Ped fae o ond hanner hynny dalo;
Cân fwyta llymru ac uwd i'w cadw,
Cawn ninne'n burion rost a berw;
Tan yfed glasdwr a llaeth enwyn,
Mi fyddwn ninne gwell ein ffortun;
Ond gore mael gael cwrw melyn,
Mi gân gwedi nyddu gwdin,
Ymwasgaethach ymysg eithin;
Torri ffrithoedd tir anffrwythlon,
Mewn bwth isel yn gaethweision
Yn oes oesoedd i ni, 'r Saeson.

JONATHAN HUGHES[12] a'i cant.


TAIR RHAN OES.
Tôn—"WNG CYTIRAWG."

POB perchen einioes nwyfus,
Ystyried yn dosturus,
I feddwl hyn yn foddus,
Bwyllus beth,
Mae pasio wnaiff yn dyddie
Fal barrug ne niwl bore,
Pan ddelo dyrnod ange,
Marcia meth;
Nid arian yn godeidiau,
Nac aur o'r cweiniad gorau,
Gwir yw hyn,
Eill roddi help na ffafreth
Rhag terfyn a marwoleth
Na choweth, coeliwch hyn;
Am hynny pob grasusol
Wybodus Gristion bydol,
Yn ddi-baid,
Ymbaratoed i fuchedd
I'r siwrne faith anrhydedd
Erbyn y bo rhaid.

Dyddiau dyn sydd debyg
Mewn oes i blymen ysig
Ar ochor llechwedd llithrig,
Llathredd le;
Pan fytho'r haul olwynog
Yn i oleuni gwresog
Yn disglaer dw'nnu'n enfog
Dan y ne,
Fe dderfydd bob yn ronyn
Mewn agwedd sad yn sydyn,
Hwnnw a dawdd;

Ac felly'n heinioes ninnau
A dderfydd o'r un moddau,
Rwy'n meddwl hynny'n hawdd;
Am hynny bawb yn hynod,
Arferwn lân gydwybod
Wiw-ber lon,
Gocheled neb yn ddiau
Letyfa drwg feddyliau
Yn ddilys dan i fron.

Tri amser sy i bechadur,
Yn benna peth i'w vstyr,
Yn hyn o fuchedd dostur,
Ferthyr fud;
Oes aur hyd ddeg ar hugen,
I fyw mewn hawddfyd llawen,
Yn rymus ar ddaiaren,
Ddewredd fryd;
Heb feddwl chwaith, na thybio,
Y dichon dim i flino,
I blagio i nerth;
Mor siriol mewn pleserau
Gan hedfan yn i flodau
Fel edn byw'n y berth;
Yn hoewedd mewn cwmnieth,
Yn dilyn cwrs naturieth
Mabieth merch;
A'i natur yn blaenori
Oddiar gydwybod wisgi,
Nes diwres oeri i serch.

Yr ail oes, pruddach bargen,
I'r arian ni a'i cyfflyben,
A honno yw'r deg à deugen,
Diben daw;

Rhaid bario 'r holl bleserau,
A'r nwyf a syrth fel blodau,
A'r meddwl ar ei gamrau,
Ei gymrud braw;
Ei bwyll a'i nerth a balla,
A'i grefydd byddiff gryfa,
Yn i ddydd;
A'r onix feinir wynna
Eiff megis yr wrthuna,
A'r deca a grycha'i grudd;
Helen lân ni fedrodd,
Mewn henaint pan edrychodd
Hi 'n y drych,
Ond wylo 'r heilltion ddagrau
Wrth feddwl laned fasai
Hi gynt mewn modde gwych.

A'r drydedd oes fethedig
Yw'r deg a thrigen unig,
A hon yw'r plwm tawddedig,
Ysig ais;
Pallu wna'r golygon,
Y meddwl, clyw, a'r moddion,
Y teimlad, a'r co tirion
Llon, a'r llais ;
A diben nos yn nesu,
A'r corff yn llesg wargrymu
Tua'r llawr;
Nid pleser hen ond cofio
Yn fadws drwy ofidio
Ymrwyfo am yr awr;
Ni fedrodd Milo rymus
Ond wylo'n brudd alarus,
Lwyrfodd loes,

Pan wele 'i nerth yn unig,
A'i freichie 'n ddarfodedig,
Tawddedig ysig oes.

Meddylied bawb yn ddilid,
Yn nyddie ein ieuenctid,
Am henaint, amser gofid,
Gyfaill prudd ;
Os angau ni ddaw 'n gynta,
Henaint a'n gorchfyga,
Fe 'n delir ar yr yrfa,
Redfa rydd;
Bydd rhy ddiweddar inni
Grio 'n dost," Peccavi,"
Cofiwn hyn;
A'r amser ar ein gwartha,
Briw sarrug, a brysura,
Fel tynfa ton ar lyn;
Heb allael ymsirioli
Yn chwidir chwaith, na chodi
Braich na llaw,
Ond hytrach wylo am elawr,
A manwl grio 'n ddirfawr,
Och Dduw, i'r awr na ddaw.

O ceisiwn wisg a thrwsiad
Ffydd, a gobaith, cariad,
Erbyn ein diweddiad,
Addas daith;
Ag ew'llus fal y gallon
Fordwyo 'r holl beryglon
A nofio drwy'r gofalon.
Mawrion maith;
A'n bwriad bawb yn beredd
I erfyn am drugaredd,
Gorau mael;

Ag ew'llus pur o'n mynwest
Rhown foliant yn ddi-fales,
A chynnes oedd i chael;
Ac yno caen yn benna
Seinio mawl hosanna
Lân ddi-lyth;
O flaen wynebpryd Iesu
Moliannu a llawenychu
Yn ddiderfyn fyth.

Rym ni yma'n byw mor farus
Yn hyn o fyd trafferthus,
Megis ar ia dyrus
A dyrr ar lynn;
Yn dawnsio 'n ddiofalon,
Heb wybod mo'n peryglon,
Nes syrthio i'r dyfnder creulon,
Cri alar synn;
Duw ysgrifenna ar fyrddau
Clau anwyl ein calonnau,-
"Dyddie yw dy wallt";
Y rhain sydd megis eira
Pan fytho 'r haul oleua
Wresoca ar ucha'r allt;
Dwg ni i'th dragwyddol deyrnas.
Yn y wisg byriodas
Baredig wen.
Ger bron d' orseddfainc olau
I blith y nefol seintiau,
Drwy bur amodau.Amen.

EDWARD ROWLAND a'i cant.


Nodiadau

golygu
  1. Y mae Morris ab Rhobert yn un o feirdd a meddylwyr mwyaf dyddorol y cyfnod hwn. Y mae'n ddolen gydiol rhwng y Diwygiad Puritanaidd a'r Diwygiad Methodistaidd. Cafodd ei feddyliau gan Buritaniaid rhan gyntaf yr ail ganrif ar bymtheg, daethant wedyn yn gynhyrhad ac yn gysur i weithwyr cynharaf y Diwygiad Cymreig.
    Bu farw yn 1723. Saer oedd wrth ei grefft; ac y mae awrlais celfydd o'i waith eto 'n mynd ym Mhant Saer, Llanuwchllyn, cartref rhai o'i ddisgynyddion. Yn yr un lle mae Beibl Dr. Parry y dywedir iddo fod yn eiddo iddo ef.
    Ysgrifennodd lyfr gweddol helaeth, sef "Cyngor i'r Cymry." Cyhoeddwyd y llyfr yn 1793. yn Nhrefecca, gan William Thomas, gweinidog yr Anibynwyr yn y Bala, trwy gydsyniad fy mrodyr yr Ymneillduwyr a'r Methodistiaid." "Уг oedd yr awdwr yn byw yn y Bala," ebe W. Thomas, "ac mewn amser blin, cyn i'r diwygiad diweddaf dorri allan yn Nghymru; efe a ddioddefodd lawer o ddirmyg er mwyn Crist, a hir gystudd corph cyn ei farwolaeth; ac yn y dyddiau hynny yr ysgrifennodd ef y traethawd canlynol; eithr ei gopi cyntaf o hono a dorrwyd yn ddrylliau gan gyfreithiwr oedd yn byw yn y dre, fel y gorfu arno ei ail ysgrifennu, ac yntau yn nesau i angeu. Ei ddiben pennaf yn ysgrifennu ydoedd i gynghori ei blant i ymofyn am iechydwriaeth i'w heneidiau, ac i amcanu bod yn fendith i'w gydwladwyr ar ol ei farwolaeth."
    Flynyddoedd wedi hynny, priododd un o'i blant, sef Margaret Morris, John Evans o'r Bala.
    Mae peth o waith prydyddol Morris ab Rhobert wedi ei gyhoeddi, ar ddiwedd! "Cyngor i'r Cymry," ac yn y "Blodeugerdd." Argraffwyd ei Gywydd Llyn Tegid, yn cyfflybu tonne'r llyn i dragwyddoldeb" yn 1748 ac yn 1770.
  2. Codais y cywydd hwn o'r "Piser Hir," y casgliad helaeth gan y Parch. D. Ellis sydd yn awr yn nghadw yn Llyfrgell Rydd Abertawe. Gyda'r cywydd y mae'r nodiad canlynol, o waith y casglydd parchedig.—Morys Roberts o'r Bala oedd yn byw yn amser y Frenhines Ann; gwr difrifol oedd, fel y tebygwn oddiwrth ei waith, ond ychydig a wyddai am reol barddoniaeth gywrain. Nid oedd ychwaith yn cyttuno a'r llywodraeth fel y tystiai ymryson â fu rhyngddo a Robert Williams o'r Geulan Goch, yr hwn oedd wir aelod o Eglwys Loegr a deiliad cywir i'r Frenhines. D. E."
    Wedi hynny, daeth y casgliad i law Iolo Morgannwg, ac y mae yntau wedi ysgrifennu y peth cyntaf ddaeth i'w feddwl, sef,—"O Ddiawl! Ai Ymneillduwr oedd? Nid rhyfedd ynteu chwilio am fai neu haeru yn anwireddus ei fod ar gywydd ddifai Morys Roberts. Iolo Morganwg."
  3. Un o Edeyrnion oedd Ellis Cadwaladr. Yr oedd yn dipyn o ysgolhaig, ac wedi casglu gwaith y beirdd Cymreig. Y mae peth o'i waith wedi ei gyhoeddi, a llawer heb.
  4. Num. xvi.
  5. Ianthe the Lovely.
  6. "A'r Methodistiaid tostion," mewn llaw ddiweddarach.
  7. Nid ar y Berwyn, fel y dengys ambell odl, y ganwyd Edward Samuel; ond yng Nghwt y Defaid, Penmorfa, yn 1674. Gwnaeth waith ei oes yng ngolwg y Berwyn, ym Mettws Gwerfil Goch a Llangar, ac yn Llangar y claddwyd ef, Ebrill 8, 1748. Hysbysid ei esgob mai gŵr diddefnydd, di-ddarbod oedd, yn rhannu yr amser na fyddai yn yr eglwys "rhwng y dafarn a llyfrau Cymraeg." Ond y mae ei waith yn dweyd peth pur wahanol. Cyhoeddodd Bucheddau'r Apostolion yn 1704; "Gwirionedd y Grefydd Gristionogol," o Ladin Grotius, yn 1716; "Holl Ddyledswydd Dyn," o Saesneg rhywun, yn 1718; "Prif Ddyledswyddau Cristion, o Saesneg Beveridge, yn 1722; "Athrawiaeth yr Eglwys," o Saesneg Dr. Peter Nourse, yn 1723. Bu mab iddo yn berson Llangar ar ei ol, yr oedd ŵyr iddo gyda'r Capten Cook ar ei fordaith olaf.
  8. Codwyd y cywydd hwn o lyfr yn llawysgrif Rowland Huw o'r Graienyn. Aeth William ap Robert Saunderson a'r llyfr hwnnw i'r America tua 1849; boddodd yn afon Alabama, ac aeth ty ei weddw (a'r llyfr ynddo) ar dân
  9. Yr wyf yn meddwl mai brodor o'r Bala oedd John Cadwaladr. Bu yno 'n byw, ac acth oddiyno i Langwm yn athraw ysgol
  10. Valentine
  11. Bu Arthur Jones farw yn 1758 yn 56 oed. Y mae yn y "Dewisol Ganiadau" farwnad iddo, o waith Jonathan Hughes, "Marwnad o goffadwriaeth am y diweddar fardd canmoladwy Arthur Jones o'r Gyldini, clochydd Llangydwaladr; i'r hwn y bu claddedigaeth o wrthrych galarus iawn, canys claddwyd ef. bedyddiwyd iddo blentyn, a rhyddhawyd ei wraig yn yr eglwys ar yr un amser." Sonnir "am dlws bwnc ei adlais bêr," am ei ddysg, am ei lawysgrif am ei areithyddiaeth hyawdl yn Gymraeg a Saesneg. Gwladwr doeth, gwiw lediwr dysg." oedd hefyd. Bu a fynno lawer ag interliwdiau,—
    Dyriau gwych da roe gynt,
    Defnyddiol a dwfn oeddynt,"
  12. Ganwyd Jonathan Hughes Mawrth 17, 1721; treuliodd ei oes yn amaethu Ty'n y Pistyll, ger Llangollen; bu farw Tach. 25. 1805, a chladdwyd ef ym mynwent Llangollen. Cyhoeddodd ei lyfr "Bardd a Byrddau" yn ei henaint yn 1778.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.