Bydd canu yn y nefoedd

Bydd gweld gogoniant Iesu Y peraidd dir hyfrydlon

gan Peter Williams (Pedr Hir)

Pryd y caf, O! Arglwydd Iesu

672[1] Sychu'r Dagrau
76. 76. D.

BYDD canu yn y nefoedd,
Pan ddêl y plant ynghyd,
Y rhai fu oddi cartref
O dŷ eu Tad cyhyd;
Dechreuir y gynghanedd,
Ac ni bydd ŵylo mwy,
Ond Duw a sych bob deigryn
Oddi wrth eu llygaid hwy.

2 Mae Iesu yn darparu
Trigfannau yn y nef,
I wneuthur croesaw helaeth
I'w holl ddilynwr Ef.
Dechreuant fod yn llawen,
Ac ni bydd gofid mwy,
Ond Duw a sych bob deigryn
Oddi wrth eu llygaid hwy.

3 Pan ddelo'r pererinion
I gwrddyd yn y nef,
Rhyw ganu mawr diddiwedd
A glywir "Iddo Ef";
Pob un â'i dannau'n dynion
Yn seinio marwol glwy';
A byth ni chlywir diwedd
Ar eu caniadau hwy.

1-2, Peter Williams (Pedr Hir)
3, Ahysbys


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 672, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930