Caneuon Mynyddog (testun cyfansawdd)

Caneuon Mynyddog (testun cyfansawdd)

gan Richard Davies (Mynyddog)

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Caneuon Mynyddog
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Richard Davies (Mynyddog)
ar Wicipedia

CANEUON


MYNYDDOG



WREXHAM
CYHOEDDEDIG GAN R. HUGHES & SON, 56, HOPE STREET.



RHAGYMADRODD

 
RHYW orchwyl digon an'odd
Ar ddechreu llyfr fel hyn,
Yw gwneuthur RHAGYMADRODD
Fo'n well na phapur gwyn:
Y ffordd gwnawn ni yr awrhon
Yw gadael lol di les,—
Cymerwch chwi'r CANEUON,
Cymeraf finau'r pres


LLANBRYNMAIR,
Calanmai, 1866.

Cynhwysiad


Y LILI A'R RHOSYN

GWELAIS ddau flodeuyn hawddgar
Yn cyd-dyfu mewn gardd fach,
Un yn Lili dyner, ddengar,
A'r llall yn Rhosyn gwridog iach;
Sefyll wnai y Rhosyn ëon
Heb ddim byd i ddal ei ben,
Tra y llechai'r Lili dirion
O dan nawdd rhyw ddeiliog bren.
 
Storm a ddaeth i chwythu arnynt,
Chwyddo wnai mewn nerth a rhoch,
Ac o flaen ysgythrog gorwynt
Syrthio wnaeth y Rhosyn coch;
Ymddiriedodd ynddo'i hunan,
Yn ei falchder 'roedd ei nerth,
Ond mewn storm fe brofai'r truan
Dlysni boch yn beth di werth.

Ond yn nghanol y rhyferthwy
Sylwais ar y Lili wen,
Gyda'i phwys ar le safadwy,
Sef ar foncyff cryf y pren;
Er i'r gwynt ymosod arni
Gyda nerth ei ddyrnod ddwys,
Gwenu'n dawel'r oedd у Lili
Fel pe buasai dim o bwys.


Dyma wers i'r ieuangc, bywiog,
Sydd a'i hyder yn ei nerth,
Tlysni grudd, a boch rosynog,
Brofant iddo yn ddi werth;
Stormydd cystudd ddeuant heibio,
Gwywa'r gwrid fel Rhosyn gwan,
Camp yw cael yr adeg hono
Rywbeth ddeil y pen i'r làn .

Awel oeraidd dyffryn marw
Chwytha arnom yn y man,
Pobpeth sy'n y byd pryd hwnw
At ein cynal dry'n rhy wan;
Byw yn ymyl Pren y Bywyd
Ddylem oll tra îs y nen,
Pwyso arno yn mhob adfyd
Hel y gwnaeth y Lili wen.


YMSON HEN FERCH.
TON:—"Bugeilio'r Gwenith Gwyn."

MAE'R adar bach ar frigau'r coed
Mor ysgafn droed a dedwydd,
Pob un a wêl ei gydmar mwyn
Ar frig rhyw dwyn neu gilydd;
Ehedant bob yn ddau a dau,
Gan gyd fwynhau eu pleser;
Pan gano un mewn hwyl diwall,
Fe gân y llall bob amser.

Ar lethr y mynydd mae dwy nant
A redant tua'r gwaelod,
Ac ar y gwastad yn y rhyd
Mae'r ddwy yn cydgyfarfod

Ac nid oes a'u gwahana mwy,
Ymdodda'r ddwy i'w gilydd,
Mae'r ddwy nant fach yn un nant lawn
Yn llawer iawn mwy dedwydd.

Ond O! 'rwyf fi fel 'deryn bach
Mewn awyr iach yn hedfan,
Heb wel'd erioed mewn lle na llwyn
Un cydmar mwyn yn unman;
Caf deithio f'oes o fryn i bant
Fel unig nant yn llifo,
A marw'n môr tragwyddol fyd
Heb neb i gydymdeimlo.


MAE'R ORIAU'N MYN'D!

MAE'R oriau'n myn'd! yn myn'd o hyd,
A dyn yn myned gyda'r oriau;
Un awr mae 'n faban yn ei gryd,
A'r nesaf bron mae'r dyn yn angau.

Mae'r oriau'n myn'd! Pob awr a gawn
Sydd megys defnyn llawn sirioldeb;
Ond prin y ceir ei gwel'd yn llawn—
Dyfera'i hun i dragwyddoldeb.

Mae'r oriau'n myn'd! ac O! mae awr,
Er byred yw ei hoes, yn bwysig;
Mae 'n gwthio'r dyn i lawr i lawr
Ar oriwaered einioes lithrig.

Mae'r oriau'n myn'd! mae'n d'w'llwch prudd!
Oes awr imi yn y dyfodiant;
Ai yntau bysedd yr awr sydd
Fyn gau am byth fy marwol amrant?


Mae'r oriau'n myn'd! fel llif y nant,
Chwyrn deithia amser mewn prysurdeb,
O'i ynys fach mae'n gwthio 'i blant
I faith gyfandir tragwyddoldeb.

Mae'r oriau'n myn'd! ac mae pob awr
Yn dweud ein hanes yn y nefoedd;
A'u cyfri hwy'n y frawdle fawr
A selia 'n tynged yn oes oesoedd!


WEDI'R NOS YN NGHYRMU GYNT.
CANIG.—Y miwsig gan Mr. J. D. Jones.

FE weuai'r fam ei hosan ddu,
A'r tad oedd yn canu 'n fwyn;
A phwytho 'r oedd yr eneth gu,
A'r forwyn yn pilio brwyn:

'Roedd Huw yn gwneuthur clocs i'w frawd
Na bu eu bath,
A'r hogyn bach yn gwneuthur gwawd
O'r ci a'r gath;

Ac ar y tân y berwai'r uwd,
A Phegi 'n ei droi yn lew;
Ac ambell i 'sglodyn o glocsen Huw
Yn helpu ei wneud yn dew:

Ond er eu symledd a'u trwstanwch,
'Roedd yno gariad pur a heddwch;
A mwynhad na fedd y ddaear
Ond anfynych iawn ei gydmar.


RHYDDID EIN GWLAD.
ALAW:—"Molawd Arthur."

MAE Cymru yn rhydd
Fel awelon y borau.
Chweru o gylch y cangenau a'r dail;
Mae Cymru yn rhydd
Fel pelydron y golau
Ddawnsiant ar aeliau'n mynyddau diail:
Cymru grefyddol, anwyl wyt ti;
Diolch am ryddid ein henwlad gynhenid,
A'i breintiau diri'.

Huno mae'r cledd
Gyda'i lafn wedi rhydu,
Gormes a thrais sydd yn isel eu pen;
Baner wen hedd
Sydd yn hardd gyhwfanu
Ar ben pob bryn trwy yr hen Ynys Wen:
Prydain grefyddol, anwyl wyt ti,
Diolch am ryddid ein henwlad gynhenid,
A'i breintiau diri'.

Cilio mae'r nos
O flaen gwawr yr efengyl,
Cyfyd yr haul lle mae t'w'llwch yn awr;
Daear lân, rydd,
Fydd ein daear ryw egwyl,
Daw, fe ddaw'n ddydd dros derfynau y llawr:
Prydain grefyddol, anwyl wyt ti,
Diolch am ryddid ein henwlad gynhenid
A'i breintiau diri'.


ELEN WYNN:
NEU,
YR ENETH AMDDIFAD DDIGARTREF.

MAE boncyff du o dan y twyn,
Yn ngodrau'r bryn,
A'r mwswg oesol am ei drwyn
Yn rhwymyn tyn;
Bu oesau a blynyddau maith
Yn cerfio arno lawer craith,—
Bu hwn yn orsedd lawer gwaith
I Elen Wynn.

O flaen ei sedd fwsoglyd hi
Mae gloew lyn,
A'r unig addurn sy' ar ei li'
Yw alarch gwyn,
Yn ddarlun hardd o'r purdeb mwyn,
A'r rhinwedd, ac o bob rhyw swyn,
Feddianai'r ferch fu dan y twyn,
Sef Elen Wynn.

Chwilfrydedd sy'n awyddus iawn—
Ymwibio fyn,
I roi darluniad teg a llawn
O'r llenyrch hyn;
Y llenyrch bu ymlyniad pur
Yn profi 'n nerthol fel y dur,
Ond nid heb beri llawer cur
I Elen Wynn.


Gerllaw y Llan, wrth foncyn crwn,
Mae tyddyn iach,
Nid oedd y teulu fu yn hwn
O uchel âch;
'Roedd gwyntoedd ffawd yn chwythu llwch
Goludoedd i ryw leoedd uwch,
Ond yno'n godro pedair buwch
'Roedd Elen fach.

A llawer gwaith bu'r eneth dlos,
Wrth odro rhai'n,
Yn suo canu fore a nos
Yn bêr ei sain,
A'i horiau 'n fwyniant pur i gyd;
Trwy forau oes, mewn cartref clyd,
Ni welsai eto yn y byd
Ddim pigau drain.

A iechyd gyda'i rosyn coch
Addurnai hon;
Eisteddai harddwch fel ar foch
Yr eneth lon;
Ymranai 'i heurwallt ar wahan,
O gylch ei gwddf yn dònau mân,
Ac arlun o brydferthwch glân
Oedd yn mhob tòn.

Cymerai 'r eneth hawddgar dlos
Yn bleser mawr
I fyned weithiau ar fin nos
Am haner awr
I gŵr y llwyn oedd dipyn draw,
Ac ar y "boncyff" yn ddi fraw,
A llyfryn bychan yn ei llaw,
Eisteddai' lawr.


Ond Ow! pan oedd yn ddeuddeg oed,
Mewn cartref mâd,
Mor ddedwydd ag bu neb erioed
Mewn unrhyw wlad;
Trywanodd gofid fynwes hon,
A chiliai'r gwrid o'i boch fach gron,
Pan 'sgubodd rhyw angeuol dòn
Ei mam a'i thad!

Ac nid oedd ganddi chwaer na brawd
I gyd-ymddwyn;
O ris i ris aeth yn dylawd,
Heb gartref mwyn:
Y dydd 'r aeth eiddo 'i rhiaint cu
Yn gipris rhwng chwerthinllyd lu,
Hi wylai ar y "boncyff du"
Oedd dan y twyn.

Yn mrig yr hwyr aeth at y tŷ,
A'i bron yn blwm;
Cyfodai adgof am a fu,
Ryw hiraeth trwm;
Agorai'r drws â chalon wan,-
Edrychai'r annedd wag bob rhan,
A llais atebai o bob man—
"Mae 'n eithaf llwm."

Pob dimai goch a aeth ar goll
O'i llogell hi,
Ac awyr ei gobeithion oll
Oedd berffaith ddu;
Ac felly gyda chalon drom
Gorweddodd yn y gongl lom,
Lle bu hi gynt cyn profi siom,
Ar wely ply'.


Ysgubai hen adgofion fyrdd
Trwy 'i mynwes brudd,
Tra dan ddyrnodiau pwysig gyrdd
Gofidiau cudd;
Ond wrth wel'd hyny oll yn awr
O'i gafael, hithau ar y llawr,
Fe dreiglai deigryn gloew mawr
Ar hyd ei grudd.

Hi geisiai gysgu—methai 'n llwyr
Trwy'r noson laith,
A Duw o'r nef yn unig wyr
Ei gofid maith;
Myfyrdod dwys mewn lle fel hyn
A doddai'i chalon fach yn llyn:
Ah! dweud gofidiau Elen Wynn
Byth nis gall iaith.

Y borau aeth at ffryndiau cu,
Fu gynt yn hael,
A'r ateb gai oedd llygad du,
A chuchiog ael;
Er cerdded hyd yn hwyr brydnawn,
O dŷ i dŷ oedd ddigon llawn,
A hithau yn newynog iawn,
'D oedd dim i'w gael.

Mor rhyfedd fel mae'r byd yn myn'd!
Os arian fydd,
Bydd pawb yn gyfaill, pawb yn ffrynd,
Yn morau 'r dydd;
Ond cyn y nos, os angau ddaw,
Fe gilia 'r holl gyfeillion draw,
Ac ni bydd neb a estyn law
I'n tynu 'n rhydd.


Fe daflai'r nos ei mantell oer
Dros fro a bryn,
Ac wrth oleuni gwan y lloer
Aeth Elen Wynn,
I gŵr y llwyn bu lawer awr
Yn ddifyr ar y "boncyff" mawr
Sibrydai ar ol eistedd lawr
Y geiriau hyn:—

"Mor unig wyf! O faint fy loes!
Y funyd hon;
Un cysur mwyach im' nid oes
Drwy'r ddaear gron;
Wyf yma yn fy hiraeth trwm,
A'm cylla 'n wag, a'm cefn yn llwm;
Fy nghalon sydd fel darn o blwm
O fewn fy mron.

"Os troaf tua'r annedd gu
Bum gynt yn byw,
Unigrwydd dd'wed ar drothwy'r tŷ.
Nid cartref yw;
Os gofyn wnaf i feibion ffawd
Am damaid bach i Elen d'lawd,
Hwy daflant ataf wg neu wawd,—
'Does neb a'm clyw.

"Mor ddedwydd ydyw 'r alarch gwyn,
Heb brofi sen,
Yn gwthio 'i big ar loew lyn
I'w aden wen;
Mae ef yn cael ei ddewis fan
I gysgu'n dawel wrth y lan,
A minau gyda chalon wan
Heb le i ro'i 'mhen.


"Tra dedwydd treuliwn f'oriau gynt,
Mewn mwyniat llon,
Pan redwn ar fy nifyr hynt
I'r gilfach hon,
Cyn gwel'd a phrofi gofid cudd,
Na deigryn galar ar fy ngrudd,
A chyn bod nyth i deimlad prudd
O dan fy mron.

"Yr amser hwnw'n ol ni ddaw,
Aeth dan y llen;
Byth mwy ni thyn fy nhad ei law
Ar hyd fy mhen:
O na chawn wel'd fy anwyl fam,
Gawn gynt i'm gwylio rhag pob cam,
A'm helpu i wisgo 'n brydferth am
Fy noli bren."

Ond pan oedd cysur wedi ffoi,
A'i dagrau 'n lli',
Dechreuai'r fantol bwysig droi
O'i hochr hi;
Sibrydai rhywbeth yn ei chlyw,-
"Mae Tad amddifaid eto 'n fyw,
Bydd dda gan galon dirion Duw
Dy wrando di."

Yn mhob cyfyngder rhedai mwy
At orsedd gras;
A phrofai yno dan ei chlwy'
Ryw nefol flas;
Trwy yspieinddrych galar dwys
Hi welai byrth y nefoedd lwys,
A gwelai fan i ro'i ei phwys
Mewn gofid cas.


Un lle oedd ganddi i ddweud ei chwyn
Yn eithaf hy',
Sef wrth ei Duw ar lwydaidd drwyn
Y "boncyff du;"
Cai yno ddiangc rhag pob gwawd
Ro'id gan y byd ar Elen d'lawd,
A dal cymdeithas gyda'i Brawd,
Sef Iesu cu.

Er lluchio hon gan dònau 'r byd
I draethell cur;
Er i'w felusder pena'i gyd
Droi iddi 'n sur;
Hi gadwodd olwg dan bob loes
At haeddiant UN fu ar y groes,
A gweithiodd allan ddisglaer oes
O rinwedd pur.

Chwi blant amddifaid yn mhob man,
Ystyriwch hyn,
Os mynwch Iesu Grist yn rhan,
Eich codi fyn;
Ystyriwch chwithau, fawrion byd,
Sy 'n byw mewn llawnder cartref clyd,
Fod llawer geneth ar y pryd
Fel Elen Wvnn


COLLIANT Y "ROYAL CHARTER."

MORIAL, hir hwyliai'r "Royal Charter" hylon,
Heb arw agwedd ar wyneb yr eigion;
A difyr ddwndwr dyfroedd y wendon,
A'i ru o danynt dawelai'r dynion:
Eithr er alaeth rhuthrai yr awelon,
A huliwyd awyr a chymyl duon;
Cynhyrfa, digia y don!—croch rua—
Ei brig a lidia,—berwa 'i gwaelodion!

Corwynt erchyll sydd fel cawr yn tyrchu
Yr eigion erfawr, er ei gynhyrfu;
Ac mal i gwrdd y cymylau gorddu,
Môr gan ddryc-hin sy'n diflin ymdaflu;
Rhag gwel'd yr annhrefn mae'r dydd yn cefnu,
O! wg mantellawg, mae hi'n tywyllu!
Ac ar y llong, O! dacw 'r llu—dynion
Gan eu byw loesion yn gwyneb lasu!

Ffraeo 'n wgus wna'r dòn, a ffyrniga,—
Angau agwrddawl ar ei mwng gerdda;
A'i lli' angerddol y llong a hyrddia
I greigiog làn;—ar y graig y glyna:
Ah! edrych i wyneb y drych yna
Dŷn lwyth o alar,—dynoliaeth wyla;
Y llong a ymollynga—i'w dyfnfedd,—
Y waneg halltwedd ffyrnig a'i hollta!

O! ing y teithwyr!—eu tynged hwythau
Yw marw yn eigion môr a'i wanegau;
Ac uwch tabyrddiad 'storm a'i rhuadau
E gwyd wylofain, gwae, a dolefau;
Ar lanau tudwedd orlan eu tadau
Erfawr rengoedd a rifir i angau;
Ac yn mhob man ar y glanau—geirwon,
Ymrolia dynion mewn marwol dònau'


YR ARIAN.

MAE 'r testyn yn boblogaidd
Beth bynag fydd y gân,
Mae fel tae swyn gyfaredd
Yn nglyn a'r darnau mân;
O'r anwyl! mae nhw 'n anwyl,
Mae pawb yn caru 'r rhai'n;
Os na fydd gwr ag arian
A'i barch i le lled fain.

Yn grynion gwneir yr arian
Er mwyn eu treiglo'n rhydd;
Ond dyna sydd yn rhyfedd,
Er cymaint treiglo sydd.
Ni welais i'r un ddimai
Yn treiglo 'rioed i'm cwrdd,
Ond gwelais lawer ceiniog
Yn treiglo 'n syth i ffwrdd.

Mae tuedd yn y darnau
I ddiangc rhag y t’lawd,
A rhedeg i'r palasau
I goffrau meibion ffawd;
Mae aur yn treiglo 'fynu
Yn lle yn treiglo i lawr,
Peth od fod aur a chopor
Yn adwaen pobl fawr.

Fel hyn mae'r byd a'i ffafrau
Yn rhedeg nerth ei goes,
Os gwel dylawd mewn eisiau,
Pe'r doethaf yn ei oes;
Os nad oes rhyw wahaniaeth
'Nol croesi i'r ail fyd;
Siawns wael fydd i'r tylodion
Am nefoedd dawel, glyd.


Peth ffol yw son am arian
I lenwi rheidiau bol,
A gwneuthur tŷ o arian,
Mae hyny'n berffaith lol;
A gwisgo côt o arian
Sydd waeth na'r ddau yn nghyd,
Ac eto rhaid cael arian
I gael y rhai'n i gyd

Mae'r byd, 'run fath a gofaint,
Yn gyru darn o ddur,
Yn gyru aur yn synwyr
I dalcen hurtyn pur;
Ac felly mae'r boneddwyr
Yn ddynion call, wrth gwrs,
Os na fydd synwyr coryn
Bydd synwyr yn y pwrs.

Mae ambell ŵr arianog
Sy 'n hynod fawr ei wangc,
A'i barch mewn cist o haiarn
A'i synwyr yn y bangc;
Mae hwnw 'n fawr ei helynt
O foreu hyd brydnawn,
I lenwi coffrau'r bangcwr,
A'i ben ddim haner llawn.

Y cybydd yw 'r pencampwr
Am hela aur yn nghyd,
Mae ef yn tynu arian
O bobpeth yn y byd;
Ei Alpha a'i Omega
Yw aur yn mhob ysgwrs,
Mae'i enaid yn ei boced,
A'i galon yn ei bwrs.


Ond wedi ail ystyried,
Gwahaniaeth bychan sydd
Rhwng cybydd wrth gynilo
A'r dyn gwastraffus, rhydd;
Mae un yn hela arian
Er mwyn cael cadw punt,
A'r llall yn hela arian
I'w lluchio hefo'r gwynt.

Gall cybydd ac oferddyn
"Gyd rwbio gefn y'nghefn,"
Mae'r ddau yn trafod arian,
Ond nid yw'r ddau'r un drefn;
Mae'r naill yn cloi ei hunan
Yn nghyd a'i aur i gyd,
Mae'r llall yn llyngcu'i hunan,—
Pe gallai, llyngcai 'r byd!

'Ran hyny nid oes undyn,
Boed ef yn ffol neu gall,
Yn mhwngc yr aur a'r arian,
All ddannod fawr i'r llall;
Mae'r byd wrth hyn fel pobpeth,
Yn fyd amrywiog iawn,
Mae pawb a'i ffordd a'i ddyben,
Ond nid yw pawb 'run ddawn.

Er hyn i gyd mae rhywbeth
Yn eisiau ar y dyn,
Er tyru aur o'i gwmpas
Mae'i angen ef yr un;
Nid ydyw casglu cyfoeth
Yn ateb dyben oes,
Pe rhoech chwi fyd i'r galon
Mae hono 'n gwaeddi "Moes."


O TYRED Y GWANWYN!

O! TYRED y Gwanwyn, cynhesa ein byd,
Trydana ei rewllyd wythenau;
Mae natur yn curo ei gliniau yn nghyd
Gan anwyd er's llawer o ddyddiau.

O! tyred y Gwanwyn, mae llygaid y byd
Yn disgwyl am weled dy wyneb;
Tyr'd, dangos i'r eira fu 'n aros cyhyd,
Y medri ei ladd â'th sirioldeb.

O! tyred y Gwanwyn, a chladda lwyd wedd
Y gauaf yn meddrod tymorau;
A chwyd gofadeilad i ddangos ei fedd,
O ddail, o friallu, a blodau.

O! tyred y Gwanwyn, mae natur yn fud,
A'i thanau i gyd wedi rhewi;
Cyweiria'r hen delyn fu'n ddistaw cyhyd,
A deffro beroriaeth y llwyni.

O! tyred y Gwanwyn, mae llygaid y dydd
Yn tyfu yn ol dy gerddediad;
Wrth deimlo tynerwch dy awel iach, rydd,
Y rhosyn a egyr ei lygad.

O! tyred y Gwanwyn, anadla yn llon,
Anadla ail fywyd i'n bröydd,
A gad i brydferthwch roi 'i phen ar dy fron
I wrando caniadau llawenydd.


RHYDDID.
Geiriau ar y Glee "Here in Cool Grot."

DADBLYGER baner rhyddid cu
Uwchben cadwynau'r Ethiop du
Uwch anialdiroedd Affric fawr,
Cilied y nos o flaen y wawr;
Daw, daw amser gwell, mae'r dysglaer ddydd
Yn nesu, nesu ar ol dunos brudd:
Lle clywid trwst y gadwyn gref
Cyhoeddir geiriau pur y Nef;
Newidir swn y fflangell lem
Am fwyn newyddion Bethlehem:
Caniadau rhyddid fydd ryw bryd
Yn adsain dros derfynau'r byd.


Y GWYLIAU.
TON:—"Dydd Gwyl Dewi."

MAE rhai yn hoff o hinon haf,
Ei flodau tlws a'i ddail,
Ei wresog hin a'i ffrwythydd braf,
Ei hirddydd teg a'i haul;
Ond o bob darn o'r flwyddyn gron
Y Gwyliau well gen i,
Mae rhywbeth yn y Gwyliau llon
Yn anwyl iawn i mi:

Cawn eiste 'n rhes o gylch y tân
O swn y storm a'i rhu,
Cawn chwedl bob yn ail a chân
Ar hirnos Galan gu


Er fod yr eira ar y tô,
A rhew yn hulio 'r llyn,
Ac er fod stormydd trwy y fro
Yn chwythu 'n gryf pryd hyn;
Ond chwythed gwynt, a rhewed dw',
Mi neswn ninau 'n nes,
Ac ar yr aelwyd lân, ddi stwr,
Try 'r gauaf oer yn wres:

Cawn eiste'n rhes o gylch y tân, &c.

Y Gwyliau daw y plant di nam
I gyd o'r trefydd pell,
Cant groesaw tad, a gwenau mam,
A llawer henffych well;
Mor ddifyr ydynt wedi cwrdd,
Daw pawb a'i stori'n rhwydd,
Cant wledda oll o gylch un bwrdd
Ar gorpws ceiliog gŵydd:

Cawn eiste'n rhes o gylch y tân, &c.

Y Gwyliau caiff hen ffryndiau llon
Ddweud cyffes calon lawn,
Ac adrodd helynt blwyddyn gron
Wrth olau tân o fawn;
Mae tad a mam, mae mab a merch,
A phawb yn ei fwynhau,
A hen gylymau anwyl serch
Yn cael eu hail dynhau:

Cawn eiste 'n rhes o gylch y tân,
O swn y storm a'i rhu,—
Cawn chwedl bob yn ail a chân
Ar hirnos Galan gu.


Y DIFFYG AR YR HAUL
GORPHENAF 18, 1860.

EDRYCHA'R ddaear werdd yn brudd
Fel pe b'ai t'w'llwch nos yn dyfod,
A'r miloedd blodau tlysion sydd
Yn plygu'u penau mewn yswildod.

Mae Duw fel pe'n rho'i cŵr ei law
Cydrhwng y byd a'r haul tanbeidiol,
I dynu sylw'r dyn uwch law
Ei bryder a'i ofalon bydol.

Ni wna'r digwyddiad hwn ddim dwyn
Y dyn di feddwl, hurt, o'i gaban,
Ddim cynt na phe b'ai canwyll frwyn
Yn cael ei chuddio gan law baban.

Anffyddiwr, cwyd dy olwg'n awr,
A gwel mor gywrain yw 'r peirianau,
A wel' di enw y Bôd Mawr
Mewn du ar fron yr ëangderau?

Edrycha, ddyn, ar dad y dydd,
A gorchudd dros ei wyneb melyn;
Rhyw fawredd anhraethadwy sydd
Yn argraffedig ar y darlun.

Yr hwn sy'n edrych ar y nen
Bob amser gydag anystyriaeth,
Cwyd d'olwg 'nawr, a gwel uwch ben
Amlygiad clir o Dduw Rhagluniaeth.


BWTHYN Y WEDDW DDUWIOL.

DAN aden gysgodfawr celynen henafol
Y saif bwthyn bychan yn ngodrau y bryn,
O'i amgylch y gwelir rhyw symledd tra gwladol,
Ei do sydd wellt llathraidd, a'i fur oll yn wyn;
Y llwyn a gysgoda ei gefn rhag gerwindeb
Hyf wynt y gorllewin a'r dymhestl gref,
A heulwen y nefoedd a chwardd yn ei wyneb,—
Arllwysa fendithion i lawr arno ef.

Mae'r gwynt a'r elfenau mewn cyngrair gwastadol,
Am adael tawelwch i'r lle bychan hardd,
Teyrnasa dedwyddwch a symledd tra swynol
Ar wyneb pob rhosyn a dyf yn yr ardd;
Y fwyalch chwibana ei chân o'r gelynen,
A'r pistyll chwareua'r isalaw gerllaw,
A mantell o iddew ddillada y talcen,
I'w gadw'n ddiangol rhag curiad y gwlaw.

Os ydyw y bwthyn yn hardd oddi allan,
O'i fewn mae'r prydferthwch foddlona y Nef,
Mae perl fydd yn nghoron y Duwdod ei hunan
Mewn telpyn o ddaear yn byw ynddo ef:
Ti weddw unigol, anwylyd y Nefoedd,
Os cefnodd perth'nasau, a'th adael dy hun,
Dy noddwr tra chadarn yw Arglwydd y lluoedd,
Mae'n Dad a Gwaredwr, mae 'n Gyfaill a lŷn.

Ar aelwyd gysurus eistedda y weddw,
Heb unrhyw rwysg bydol o'i chylch yn un lle,
Nac unrhyw gydymaith, ond hen gadair dderw,
A Bibl Peter Williams, sydd ar ei llaw dde':
Ah! gadair henafol, mae mwy o wir fawredd,
Er gwaeled dy olwg, yn perthyn i ti,
Na'r eurawg orseddau, er maint eu hanrhydedd,
Sy'n dal ymerawdwyr mewn urddas a bri.


Oes, oes, oddiar hon yr anadlwyd gweddïau
O fynwes y weddw i glustiau y Nef;
Bu dda gan angylion ro'i tro gylch ei godrau,
I godi y deigryn a gwrando y llef:
Wrth eistedd ar hon, pan yn distaw fyfyrio
Ar gariad yr Iesu, ca'dd le llawer baich,
A llawer hen benill a ganodd wrth gofio
Am wynfyd y Nefoedd, a'i phen ar ei braich.

Gorwedda 'r hen Fibl gerllaw wrth ei hystlys,
Ni phrynai holl berlau y byd mo'no ef;
Ah! dyma'r hyfforddwr—hwn ydyw'r mynegfys
Sy'n dangos y drofa i groesffordd y Nef:
Y ddalen a sonia am chwys Gethsemane,
A fwydwyd a dagrau o gariad at Dduw,
A dengys y nodion, yn nghyd a'r plygiadau,
Mae'r Bibl yw y fan lle mae'i henaid yn byw.

Yn mhen draw y cornel, gerllaw yr hen bentan,
Ar gyfer y weddw, y gwelir ei ffon,
Pan yn y tywyllwch yn teithio ei hunan,
Un cyfaill ni chafodd mor ddidwyll a hon;
Bu hon yn gydymaith wrth deithio i'r capel—
Bu ganwaith yn dyst o'i gweddïau a'i chri,—
Bu'r weddw yn adrodd ei chwyn yn y dirgel,
Bu 'n derbyn bendithion a'i phwys arni hi.

Gadawn un ystafell, a thrown i un arall,
Ysgrifgist ei gŵr sy'n un gongli hon,
O'i mewn mae ysgrifau sy'n anhawdd eu deall,
Mae dagrau a thraul wedi'u blotio o'r bron;
Llawysgrif ei gŵr sydd ar lawer o'r lleni,
Llythyrau y plant gydorweddant fan hyn;
A sibrwd yn drist mae'r llyth'renau a'r llwydni,—
"Y dwylaw a'u gwnaeth sydd dan dywyrch y glyn."


Gerllaw mae ei gwely, lle'r huna ei chyntun,
'Nol trafferth y dydd a'i ystormydd tra blin,
A chlustog o fanwellt sydd dan yr hen erchwyn,
Fu filoedd o weithiau o dan ben ei glin;
Oddiar yr hen wely ei henaid seraphaidd
Eheda ryw ddiwrnod i fynwes ei Thad,
Ca hwn fod yn orsaf i'r gosgordd angylaidd
Wrth gychwyn ei henaid fry, fry, i well gwlad.

Yn mhob congl o'r bwthyn mae rhywbeth yn rhyfedd,
Ei ddodrefn a'i bethau deilyngant ryw fri;
A'r hon a'i preswylia sy 'n haeddu anrhydedd,
Mae palas gogoniant yn ol iddi hi;
Ac er i helbulon yr anial dwfn gwyso
Y gruddiau fu'n gwisgo prydferthwch a moes,
Daw adeg y gwisgant ieuengctyd hardd eto,
Dros faith drag'wyddoldeb, heb drallod na loes.

Ac er mai tô manwellt sy'n cadw yn ddiddos
Ei bwthyn bach prydferth a gwladol ei lun,
Y palas mawreddog sydd draw yn ei haros,
Ddiddosir gan law yr Anfeidrol ei hun;
Ac er mai llawr pridd ydyw'r llawr y mae'n sangu,
Un gareg nag astell i'w urddo ni roed,
Aur balmant grisialaidd trigfanau yr Iesu
Ryw adeg yn fuan a ga dan ei throed.

Chwi feilchion freninoedd, er gwyched palasau
Sydd genych, er cymaint eich rhwysg yn y byd,
Er amled y milwyr a wyliant eich dorau,
Oferedd a gwagedd yw'r cyfan i gyd;
Mae mwy o gadernid o amgylch y bwthyn
Lle trig y wraig weddw, er gwaeled ei wedd,
Lleng gref o angylion a wyliant y llecyn,
A mynwes y weddw sy'n orlawn o hedd.


GWENO FWYN.
ALAW:—"Nelly Bly."

GWENO fwyn, Gweno fwyn,
'Sguba 'r tŷ yn lân,
A thyr'd a'r gadair freichiau 'mlaen,
Ni fynwn ganu cân;
Dyro fawnen ar y tân,
A golau ganwyll frwyn,
Tra byddwyf fi yn rho'i mewn hwyl
Hen dànau'r delyn fwyn:
O Gweno fwyn, Gweno,
Dyro gân i mi,
A thra bo'ch ti'n rhoi tro i'r uwd,
Rhof finau gân i ti.

Gweno fwyn, Gweno fwyn,
Wel'di Johnny bach,
Yn chwerthin arnat yn ei gryd,
Fel pe bai'n angel iach?
Dyro gusan ar ei rudd,
A sua ef i hûn;
'Does neb anwylach yn y byd,
Os nad wyt ti dy hun.
O Gweno fwyn, Gweno,
Dyro gân i mi,
A thra bo'ch ti'n cusanu John,
Rhof finau gân i ti.

Gweno fwyn, Gweno fwyn,
Onid gwyn ein byd,
Cael canu a gweithio bob yn ail,
Fel hyn o hyd, o hyd.
'Rwyf fi yn frenin yn fy nhŷ,
A phen a chalon iach;
A chan 'mod i yn frenin, Gwen,
'Rwyt ti'n frenhines fach.
O Gweno fwyn, Gweno, &c.


Gweno fwyn, Gweno fwyn,
Onid hapus yw,
Cael bwyd, a thân, ac ambell gân,
A chornel glân i fyw;
O bobpeth da sydd yn y byd,
Y gorau genyf fi,
Yw cefnu ar ofidau blin,
A rhedeg atat ti.
O Gweno fwyn, Gweno, &c.


FRY, FRY.
ALAW:—"Home."

FRY, fry,
Mae fy nghyfeiriad,
Uwch pob
Gofid a phla;
Myn'd fry
Yw fy nymuniad,
Fry ceir
Pobpeth yn dda;
Fry mae
Engyl yn byw,
Fry mae
Nefoedd fy Nuw.
Fry mae
Pob rhyw anrhydedd,
Fry, fry,
Gwynfyd a gawn,
Fry mae'r
Teulu a'u bysedd
Ar dant
Anwyl yr Iawn;
Fry mae
Palmwydd a gwledd,
Fry mae
Moroedd o hedd.

Fry, fry,
Mae ein cyfeillion,
Heb un
Trallod na loes;
Fry, fry,
Gwisgir y goron
Gan bawb
Gariodd y groes;
Fry mae
Iesu fy Nuw,
Fry af
Finau i fyw.


MARWNAD JACK Y LANTERN.

MAE beirdd pob oes a gwlad
Wrth ganu marwnadau,
Yn arfer gwneud rhyw nâd
Gwynfanus iawn i ddechrau;
Mi nadaf finau 'n awr,—
Beth bynag wnaf, rhaid nadu,—
Gwneud nâd yw'r orchest fawr
Sy'n nglŷn a marwnadu.

Gadewch ro'i nâd i Jack
Sy'n huno gyda'i deulu,
Mae tànau 'mhawen lac
Bron at y peth i nadu;
Mae'n ffasiwn trwy y wlad
I nadu am enwogion,
Os haedda neb gael nâd,
Mae Jack yn un o'r dynion.


Pwy oedd rhieni John,
(Neu Jack yn fwy priodol,)
Fe dd'wed'r oes olau hon
Nad oes dim sicrwydd hollol;
Ymholais a hen ŵr
A wyddai bron y cwbwl,
A d'wedai ef yn siwr
Ei fod yn fab i benbwl.

Pe na buasai Jack
Yn fwy na'i holl gyfoedion,
Ni roiswn i ddim crack
Am ganu i'w weddillion;
O na, 'r oedd Jack yn fawr
Pan oedd yn fach 'ran hyny,
'Roedd o'n un bychan mawr
Ac nid pob un sydd felly.

Yn ysgol Glan y gors
Ca'dd Jack ei education,
Fe'i llusgwyd ef by force
Trwy'r classics, ben a chynffon;
Ca'dd deitl, sef B.A.,
Yn union am ei drafferth,
A dyma'r ystyr wna'r
Llyth'renau,—"Bwgan Anferth."

Ond cyn pen nemawr iawn,
Fel bydd y llangciau 'n wastad,
Aeth Jack ar ryw brydnawn
Am dro i geisio cariad;
A syrthiodd dros ei ben
Mewn cariad anghyffredin,
A rhyw hen lady wen
A elwid "Gwrach y Rhibyn."


Ni fynai mo'no 'n ŵr,
A'i rheswm oedd, fe dd'wedir,
'R oedd ef am fyw 'n y dw'r,
A hithau ar y sychdir;
Ac felly hyd ei drangc,
Ar ol i hon ei siomi,
Bu Jacko fyw'n hen langc
Heb neb i'w ymgeleddu.

O gors i gors yr äi
Trwy 'i oes, heb neb yn agos,
A golau'i lantern wnai
Pan unwaith doi y ddunos:
Pob "Canwyll Gorff" fu 'rioed
Yn gwibio cymoedd Cymru,
O lantern Jack y rhoed
Y golau ar y rhei'ny.

Pan welai deithiwr t'lawd
Yn cerdded braidd yn fyrbwyll,
Fe dynai Jack y brawd
I ddilyn golau 'i ganwyll;
A phan y syrthiai'r dyn
I fawnog o gryn ddyfnder,
Gadawai Jack ê 'i hun
Heb son 'run gair am swper.

Pan welai Jack ryw dwr
O langciau gwylltion, penrhydd,
Yn cerdded gyda chwr
Tiriogaeth wlyb y corsydd,
Fe'u denai hwy mor fwyn
I'r corsydd at eu gyddfau,
A'i yntau i ben twyn brwyn
I chwerthin am eu penau.


Wrth fyw mewn lle rhy wlyb
Aeth Jack yn sal ryw amser,
O leiaf dyna'r dyb
Gyffredin ar y mater;
Hen gynjer o Sir Fôn
Fu'n rho'i cyfferi iddo,
Mi glywais rai yn sôn
Fod hwnw 'n perthyn iddo.

Ysgydwai hwnw'i ben
Wrth deimlo puls'r hen fachgen,
A d'wedai'n brudd dros ben
"Wel, mae o'n ddrwg ofnatsen;"
Wrth iddo fyn'd yn waeth,
Aeth Jack i ffaelu chwythu,
A chyn bo hir fe ddaeth
Yn barod iawn i'w gladdu.

Y lantern oedd gan Jack
Adawodd yn ei 'wyllys
I'w gefnder, "Wil-y-Wisp,"
Mae yntau 'n ddigon hysbys;
Fe redodd rhyw hen frawd
A lantern Jack i hwnw,
Ond erbyn cyraedd "Wil,"
'Roedd yntau wedi marw!

Mae Wil a Jack yn awr
Yn huno 'n ddigon tawel,
Yn hen Gors Fachno Fawr,
A'u penau 'n od o isel;
'Doedd neb wrth gladdu'r ddau
Yn teimlo fawr o bryder,
Nac undyn yn pruddhau,
Os nad oedd ambell gynjer.


Y "Tylwyth Teg" i gyd
Fu farw gyda rhei'ny,
A phob hen yspryd mud
Fu'n blino yr hen Gymry;
Wel, bendith ar eu hol,
A waeddaf fi o galon,
'Does neb yn awr mor ffol
A meddwl am ysprydion.

Yn awr fe ddrachtia'r wlad
O ffrydiau pur gwybodaeth,
A bechgyn Cymru fad
Sy'n dringo bryn dysgeidiaeth;
Y niwlen ddu fu'n toi
Ein gwlad â llèn o d'w'llwch,
Sy'n awr yn prysur ffoi—
Mae 'n toddi'n ddydd o harddwch.

Mae addysg ar ei hynt
Trwy lawer ardal lydan,
Lle d'wedai pobl gynt
Fod Jack y Lantern druan;
A llygad Cymru wen
Sy'n edrych ar i fynu,
Rhoed pawb trwy'r wlad Amen,
I fynu'r elo Cymru!


HEDDWCH.

ARWYDDAIR amser heddwch—yw cariad,
Ac eirian dawelwch;
Darfu trwst arfau tristwch,
O tan draed rhydant yn drwch.

Heddwch, hoff heddwch ddiffodda—gynen,
A'r gwanaf gyfoda;
O'i flaen, llèn brudd ymdaena,—
Rhyw ail Nef ar ei ol wna.


EINIOES.

O WANED ydyw einioes!
Ail yw i niwl: olwyn oes,
A'i throad erch wthia 'r dyn
O'r byd fel rhyw abwydyn:
Gyda bod ei gyfnod gwael
Y' myd, mae yn ymadael.
Fy awr red, mor frau yw oes
Edef fain ydyw f' einioes;
Afiechyd enyd fechan
A dŷr y wyw ede' wan.
Ar eu hynt cyflym y rhed
Yr oriau ar i waered,
Hyd riniog pen draw einioes,
Lle derfydd hwyrddydd ein hoes.
Cadwen fain a'n ceidw 'n fyw,—
Dyma'n dydd, dim ond heddyw;
Yr oed sy 'n cyflym redeg,—
Ah! ddoe nid oedd y wen deg,
Y foru eto 'n farwol;—
O Dduw Ner! beth fydd yn ol
I'r enaid wedi'r einioes?
P'le bydd ei le mewn ail oes?
O! na ddoem i chwilio 'n ddwys,
Ai cam, ai ynte cymwys
Y rhodiwn tra byddwn byw,—
Adeg dra phwysig ydyw.
Bore einioes, byw rhinwedd,
Tua'r nawn sy 'n troi yn hedd;
A draen yn hydre' einioes,
Yw wario rhan orau 'r oes.


"RHOI'R TROED GORAU 'MLAEN."
Hen Ddiareb.

MAE llawer o ddulliau gan ddynion i fyw,
Rhai'n myn'd ar i waered, a'r lleill fynu 'r rhiw;
Mae rhai hyd eu hoes dros eu penau 'n y byd,
A'r lleill ar eu heithaf yn falchder i gyd:
Peth anhawdd yw d'weud pwy sydd gall,
Ac anhawdd yw d'weud pwy sydd ffol;
Mae rhai am "roi'r troed gorau 'mlaen,"
A'r lleill am roi'r troed gorau 'n ol.

Peth digon di barch yw "rhoi'r troed gorau 'mlaen,"
A digon colledus a d'wedyd yn blaen;
Peth gwael byw mewn sidan o'r gwaelod i'r top,
A bill cy'd a braich yn 'sgyrnygu'n y siop:
Mae "rhoi'r troed gorau 'mlaen" ddyliwn i,
Wrth sylwi, yn waith digon ffol;
Os bydd rhyw un troed gwell na'r llall,
Gwell cadw'r troed gorau ar ol.

'Roedd party ryw ddiwrnod yn Hafod-y-rhyd,
A'r "anwyl a minau!" yr oedd yno fyd;
Ond ar ganol y gwledda 'n y parlwr mawr tlws,
Dyna "feili'r cwrt bach" yn rho'i cnoc ar y drws!
'Roedd pobpeth yn hallt erbyn hyn,
Os oedd pobpeth yn felus o'r blaen,
A gwyneb y wraig yn troi 'n wyn,
O achos "rhoi'r troed gorau 'mlaen."

Peth sobr yw gweled y llangc yn rhoi 'i bres,
I dalu am bethau sydd waeth na di les;
A chadwyn o arian neu aur ar ei fron,
A chadwyn o ddyled yn pwyso wrth hon:
Gadewch ini gofio i gyd,
Os byddwn ni'n wastad mor ffol,
A "rhoi'r troed gorau 'mlaen" yn y byd,
Bydd y ddau droed ryw ddiwrnod ar ol


CYFLAFAN Y BEIRDD YN NGHASTELL BEAUMARIS.
Y Miwsig gan Mr. J. D. Jones, A.R.C.P.

GYMRU anwylaf, mor aml yw'th ofidiau,
Mynych y rhwygwyd dy fynwes gan gur;
Llawer tro gynt y derbyniai 'th briddellau
Gochwaed dy feibion gwladgarol a phur:
Gormes fradwrus a fu ddigon creulon
Wrth dy iawnderau i'w mathru dan draed;
Gwelwyd cyn hyn yn dy gestyll talgryfion
Bur Ddiniweidrwydd yn marw 'n ei gwaed.

O!'r fath gyflafan fu 'n Nghastell Beaumaris!
O!'r fath fradwriaeth ddadblygwyd fan hyn!
Pan y cyfrifid gwaed beirddion yn ddibris;
Safai Ceridwen i wylo yn syn,
Gollwng ei deigryn ar balmant y castell
Wnai, i gymysgu â gwaed plant y gân;
Cleddyf melldigaid bradwriaeth a dichell
Drochwyd mewn bronau dihalog a glân.

Cymru ddynesa yn foddfa o ddagrau
Uwch y gyflafan, edrycha yn syn;
Gyda'r awelon gollynga 'i hoch'neidiau,
Tra y sibryda ryw eiriau fel hyn:—
"O, fy anwyliaid! ai yma gorweddwch
Wedi'ch llofruddio yn aberth i drais?
Mwyach nid oes yn fy aros ond tristwch,—
Ffarwel am byth i gael clywed eich llais!

"Hoffwyr y gerdd, rhoddwch heibio'ch telynau.
Tafod yr Awen ddistawodd yn lân;
Na foed i'w glywed ond dwfn ocheneidiau
Mwyach trwy Walia am feibion y gân:

Clywed y Fronfraith sy'n tori fy nghalon,
Byngcia ar gangen yn ymyl ei nyth,
Tra mae y bardd a fu'n moli'i hacenion
Wedi dystewi yn lân ac am byth."

Chwythed yr awel ei lleddfdon alarus,
Wyled y nefoedd ei gwlith ar y fan;
Donau y môr, ocheneidiwch yn glwyfus,
Pan tuag yno'r ymroliwch i'r làn:
Oes ar ol oes pan fo'r Cymro twymgalon
Tua'r hen Gastell yn edrych yn syn,
Hiraeth a wthia ochenaid o'i ddwyfron,
Teimlad a dodda ei lygad yn llyn.


Y DYDD YN MARW.

EDRYCH mae'r cymylau 'n drymllyd
O gylch gwely angau'r dydd,
Yntau ar obenydd dyfrllyd
Yn tynu 'i anadl olaf sydd:
Dal eu hanadl mae perth'nasau
Yn ngwydd angau erch ei wedd,
Felly anian ddeil ei hanadl
Pan ymsudda'r dydd i'w fedd.

O! mor brydferth yw'r gorllewin,
Ond y mae 'n brydferthwch prudd,
Fel prydferthwch merch yn marw
Gyda rhosyn ar ei grudd;
Gwena'r eneth pan yn meddwl
Am yr adgyfodiad mawr,
Felly gwena'r Dydd wrth farw,
D'wed ei wên—"Daw borau wawr."


EDWARD A HUW.

'ROEDD Edward yn dipyn o lengcyn
Pan nad oedd ond tair-ar-ddeg oed,
Yn hoff braidd o'r taclau pysgota,
A chario ei ŵn trwy y coed;
A phan oedd rhwng pymtheg a deunaw,
Ryw noson fe ga'dd ei fam dlos
Hen getyn yn llogell ei wasgod,
A 'baco yn mhoced ei glôs.

'Roedd Huw wed'yn eisiau cael ysgol,
A darllen, a darllen o hyd,
Fe'i magwyd a'i drwyn mewn rhyw lyfrau,
Fel cybydd a'i drwyn yn y byd;
Fe yfai wybodaeth yn ieuangc,
A'i syched gynyddai bob llwngc;
Aberthai ei gwsg a'i gysuron
Er mwyn cael llwyr ddeall rhyw bwngc.

Waeth tewi na siarad, 'roedd Edward
Yn llawer mwy dyn gyda'i dad,
A brolio ei fachgen am gamblo
Oedd gwaith yr hen ŵr hyd y wlad;
Adroddai ei droion direidus
Dan wenu, heb arwydd o ŵg,
Aeth Edward fel hyny i feddwl
Nad ydoedd dim drwg mewn gwneud drwg.

Os sonid am Huw, ei fab arall,
Ysgydwai'r hen gyfaill ei ben,
A meddwl am Huw, dyn a'i helpo,
A'i gyrai cyn sobred a phren;
A d'wedai yn fynych, "'Rwy'n ofni
Yr aiff yr Huw acw o'i go',
Wrth bondro a phwndro mewn llyfrau,
Mae'n edrych mor wirion a llô."


Bu farw'r hen ŵr a'r hen wreigan,
A marw difrifol oedd hwn,
Sef marw oherwydd i Edward
Roi'u meddwl dan ormod o bwn:
Aeth Edward yn lleidr a meddwyn,
Efe fu yn hogi y cledd,
Efe fu'n ei estyn i angau
I daro ei riaint i'w bedd.

Ond Huw ddaeth yn gristion goleuddysg,
Er cymaint dderbyniodd o wawd,
Ysgodd yr adfydau truenus
Sydd tua phen draw ffordd ei frawd;
Rieni, cymerwch yr awgrym,
Tra byddo y plant yn eich clyw,
Ymdrechwch eu gwneud yn ddarllenwyr,
A chofiwch am Edward a Huw.


Y WAWR.—CANIG.
Y Miwsig gan Mr. J. D. Jones, A.R.C.P.

YMEGYR dorau'r dwyrain draw
Gan dywallt golau ar bob llaw;
O forau teg! mae llaw'r wawr dlos
Yn ysgwyd llaw â llaw ddu'r nos:

Yr adar a chwery gân,
Gan edrych i'r dwyrain glaer,
Chwarddant am ben yr haul yn codi
Fry o'i wely aur:

Yr awel chwery rhwng y dail,
Yn araf a thyner y chwyth;
A dawnsia llon belydrau'r haul
Ar fynwes pob defnyn o wlith.


Y CAETHWAS.

EISTEDDAI Sambo'r caethwas t'lawd
O fewn ei gaban gwael,
I feddwl munud am y gwawd
A'r dirmyg oedd yn gael;
Fe dreiglai'r chwys yn ddafnau mawr
Ar hyd ei aeliau duon,
'Rol llafur blin am bymtheg awr
O dan y fflangell greulon.

Edrychydd, gwel y deigryn mawr,
Wrth dreiglo hyd ei rudd,
Yn sefyll ar ei ffordd i lawr,
I ddangos gofid cudd
A wel di greithiog gefn y dyn,
Dy gydgreadur tirion?
Pob craith sy'n gyfrol ynddi 'i hun,
Yn erbyn cadw caethion.

Tynerwch gyda gwridog rudd,
Saif uwch y caeth was cu,
Gan synu'r fath wahaniaeth sydd
Gydrhwng y "gwyn" a'r "du;"
A hithau Rhyddid oddi draw
A wyla ddeigryn tristwch,
Ond O! ni feiddia estyn llaw
I'w dywys i ddedwyddwch.

Wrth huno ar ei wely gwael,
'Rol llafur maith y dydd,
Rhyw freuddwyd dedwydd mae yn gael
Ei fod yn fachgen rhydd;
Ond O! y gadwen gylch ei draed,
A ddengys ei sefyllfa,
A hono'n rhydu gan y gwaed
Oddiar ei gefn ddisgyna.


Gorphwysfa'r nos, mor felus yw
I lawer bachgen gwyn,
Ond Sambo, druan, ddu ei liw,
Sy'n methu profi hyn;
Mae tingc y gadwen rydlyd, gref,
A phoen ei gefn dolurus,
Yn ddau gydymaith iddo ef
Ar hyd ei oes druenus.

Mor hyfryd ydyw'r borau cu
I'r bachgen gwyn sy'n rhydd,
Ond cenad gwae i'r caethwas du
Yw'r ceiliog gyda'r dydd;
Mae'r wawr yn gwasgar cysur pur
Trwy'r cread maith o'i chwmpas,
Tra mae'n pentyru cur ar gur
Yn mywyd blin y caethwas.

Ysgydwa'r awel frig y twyn,
A dawnsia'r ddeilen fach,
A miloedd o alawon mwyn
Gofleidia'r borau iach;
Yr afon dreigla nɔs a dydd
I'r môr, heb ddim i'w lluddias,-
Mae'r greadigaeth oll yn rhydd
Oddieithr Sambo'r caethwas.

Ryw noson wedi llafur maith
Eisteddai Sambo'n brudd,
Dan furmur ei doredig iaith
A'r deigryn ar ei rudd:—
"Mae Massa'n elyn pur i mi,
Er cymaint'rwy'n ei weithio,
'Does neb trwy'r ddaear wrendy gri
Ochenaid glwyfus Sambo.


"Tynghedwyd Sambo ddu yn nôd
I boen, a chefn yn friw,
A hyn i gyd oherwydd fod
Ei groen yn ddu ei liw;
O Ryddid hoff! p'odd cefnaist ti
Ar feibion duon Affrig?
Gwynfyd na theimlai 'm gwadnau i
Dy ddaear fendigedig.

"Mae 'm hoes er pan y sugnais fron
Fy mam, yn llawn o gur,
O mam! paham yr enwais hon
I ddeffro cariad pur?
O mam! rwy'n cofio'r borau erch
Y rhwygwyd fi o'i mynwes,
Pan ddrylliwyd holl linynau serch
Gan ddwylaw gwaedlyd gormes

"Cofleidiai fi yn dyner iawn,
Cofleidiwn inau mam,
Wrth feddwl am y cam a gawn
Ei serch enynai'n fflam;
Mi gofia'i threm,-ei chalon oedd
Am danaf fel ei breichiau,
Yn swn ei thorcalonus floedd
Gwahanwyd mam a minau.

"Gwreichionen olaf cariad pur
Enhuddwyd yn y fan,
A byth er hyny wermod cur
Ddarperir ar fy rhan;
Fy nghalon sydd fel darn o faen
Galedwyd gan ofidiau;
Tywyllwch dudew'n haen ar haen
Orchuddiant fy syniadau.


"Os tremiaf i'r dyfodiant du,
Mae hwnw fel y nos,
Heb belydr gobaith o un tu
Nac amnaid seren dlos;
O'r newydd daw pob nos a dydd
A llu o greulonderau,
Ac felly'r caethion truain sydd
Yn etifeddion gwaeau.

O ormes erchyll! beth a fydd
Dy dynged di ryw bryd?
Pan egyr rhyddid byrth y dydd
I'th ddangos di i'r byd;
Dalenau 'th hanes erch a droir
Ryw dro gan fys cyfiawnder,
A thithau yn y gadwyn ro'ir,
Fe rifwyd dyddiau d' amser.

O ormes erchyll! byddar yw
Dy glust wrth bob rhyw gri,
Swn flangell lem ar gefnau briw,
Peroriaeth yw i ti;
Ar ol dy gamrau gwaedlyd di
Mae llygaid Hollalluog,
Gofynir gwaed rhyw dorf ddi ri’
Oddiar dy law lofruddiog.

Pelydred golau rhyddid cu
O fôr hyd fôr yn awr,
Datoded rwymau'r caethwas du
Sy'n gruddfan am y wawr;
A thodder holl gadwyni'r byd
Yn gadwyn cyfeillgarwch,
Y "du" a'r "gwyn" fo'n rhodio 'nghyd
Dan aden aur dedwyddwch.


Y DDAU HEN LANGC.
Y Miwsig gan Mr. J. D. Jones, A.R.C.P.

Dafydd.A 'dwaenost ti Tomos fu'n byw'n Tanygro?
Rhys.'Dwaenwn siwr, 'dwaenwn siwr.
D.Mae wedi priodi'r wraig sala'n y fro.
R.Felly'n siwr, felly'n siwr.
D.Mae'n slwt yn ol ystyr fanylaf y gair.
R.Dear me, dear me.
D.Aiff cymaint i'w chadw ag ambell i dair
R.Dyna hi, dyna hi.
Y ddau. 'Rym ninau mor llawen a'r ŵyn ar y bryn,
Pwy byth gymer wraig tra bo gwragedd fel hyn.

Rhys.Mi'dwaenost Cadwalad' ga'dd wraig gyda brys,
Ddigon glân, ddigon glân,
Esmwythach fuasai i hwnw roi 'i fys
Yn y tân, yn y tân,
Neu oddef ei drwyn ar faen llifo fai'n troi.
Dafydd.Gwarchod ni, gwarchod ni!
R.Mae gwenwyn y wraig bron a lladd yr hen foy,
D.Catto ni, catto ni!
Y ddau. 'Rym ninau mor llawen a'r ŵyn ar y bryn,
Pwy byth gymer wraig tra bo gwragedd fel hyn.

Dafydd.Dyn helpo John Edward fu'n byw'n Mhant-yr-hin
Rhys.Wela hai, wela hai.
D.Mae gwraig hwnw wed'yn yn anferth o flin,
R. Wela hai, wela hai.
D.Wrth fethu ei hateb ryw dro'n ddigon mwyn,
R.Hynod iawn, hynod iawn.
D.Ca'dd gic yn ei grumog nes gwaedodd ei drwyn.
R.Hynod iawn, hynod iawn.
Y ddau.'Rym ninau mor llawen a'r ŵyn ar y bryn,
Pwy byth gymer wraig tra bo gwragedd fel hyn.


Rhys.A blygı di Dafydd o flaen allor serch?
Dafydd.Na wnaf byth, na wnaf byth.
R.A ro'i di dy hunan yn aberth i ferch?
D.Na wnaf byth, na wnaf byth.
D.Ai tybed, Rhys anwyl, wnei dithau mo hyn?
R.Na wna'n wir, na wna'n wir.
D.Mae cwlwm priodas yn gwlwm rhy dŷn,
R.Ydyw'n wir, ydyw'n wir.
Y ddau.Mae cwlwm priodas yn gwlwm rhy dŷn,
Pwy byth gymer wraig tra bo gwragedd fel hyn.


DDOI DI, GWEN!

A ro'i di genad eneth lân
I'th anerch gyda phenill?
Fy mynwes lysg gan serchog dân
O eisiau gallu 'th enill;
Ac O! na allwn er dy fwyn
Ro'i f'enaid yn fy ngeiriau,
A'th yru i gredu iti ddwyn
Y cyfan o'm serchiadau:
Ond O! nid geiriau ingc ar bapur gwyn,
A fedr ddweud y filfed ran o hyn.

A wnei di wrando ar fy llef?
Llef bron sy'n llawn anwyldeb,
Llef un a'th gara fel mae'r Nef
Yn caru delw purdeb;
Llef un ystyria glod a bri
Yn ddim wrth gariad meinwen, —
Llef un a lyna wrthyt ti
Fel iddew am y goeden:
A chyn y gollwng iddew gorff y pren,
Rhaid myn'd a'i fywyd,—felly finau, Gwen.


O'th gwmni anwyl!—na chawn i
Un haner awr o'i fwyniant,
Mor ddedwydd byddwn gyda thi
A'r angel mewn gogoniant;
Mae'r byd yn bobpeth gyda thi,
A dim pan heb dy gwmni,
Dy golli sydd yn nos i mi,
A'th gael sydd wawr goleuni;
Ai tybed y gadewi i'm, O eneth dlos,
I fyw a marw mewn rhyw anobeithiol nos!

Mae'th dremiad arnaf fel y lloer
Yn edrych o'r uchelder,—
Mor dlws, mor glir, ac eto'n oer
Fel delw ar fy nghyfer;
Mae'th wên a fu yn nefoedd im'
Yn gwanu fy nheimladau;
Ac wrth ei gwel'd wna f'enaid ddim
Ond gwaedu'i hun i angau;
O na bai'r Greenland sy'n dy fynwes di,
Yn troi yn Affric grasboeth fel f'un i.

Disgyned fflam o gariad cu
I wneud dy fron yn gynes,
Ai tybed Gwen i'th galon di
Droi'n gareg yn dy fynwes;
Wrth ddrws dy galon, anwyl fun,
Rwy'n curo'n ddyfal, ddyfal,
Ac nid oes dim ond angau 'i hun
A feiddia ddod i'm hatal;
Ac os na wnei di agor,
Cei wylio nghalon i,
Yn rho'i ei churiad olaf
Ar drothwy'th galon di.


BU FARW YR ENETH.

Bu farw yr eneth! a'r Nefoedd a ŵyr
Y chwerwder a deimlodd wrth farw;
A'r lleuad yn wylaidd dan amrant yr hwyr
Edrychai i'w gwyneb oer, gwelw.

Bu farw yr eneth yn ymyl y ddor,
A phwysau ei phen ar y rhiniog,
A rhewai dyferion y bargod oer, oer,
Ar fynwes fu unwaith yn wresog.

Bu farw ar drothwy tŷ anwyl ei thad,
Yr hwn roddodd dro i'r agoriad,
Ar ol troi yr eneth anwyla'n y wlad
O'r tŷ, am mai t'lawd oedd ei chariad.

Bu farw y ferch, tra â'i dwrn bychan gwyn
Y curai y ddôr er ys meityn,
Ond perffaith ddistawrwydd atebai pryd hyn,
Fod tad wedi bolltio'n ei herbyn.

Bu farw, tra llithrai rhyw air trist neu ddau,
Dros wefus oedd wanaidd a gwelw;
"Yn ffyddlon i un rwy' o hyd yn parhau,
Ar allor ffyddlondeb rwy'n marw.

Bu farw, a'i beddrod a erys o hyd
Yn ddarlun o dad heb ddim teimlad;
Y twmpath gwyrdd yna a ddengys i'r byd
Fod nerth anorchfygol mewn cariad.


O NA BAWN YN AFON!
ALAW:"Rosalie the Prairie Flower."

MYN'D ymlaen mae'r afon loew, loew, lân,
Rhwng y dolydd lle mae blodau fyrdd;
Chwerthin mae am ben y 'Deryn du a'i gân,
Byngcia ar y cangau gwyrdd:
Myn'd ymlaen mae'r afon loew, loew, lân,
Nid yw'n hidio rhwystrau bach na mawr;
Myn'd ymlaen mae'r afon loew, loew, lân,
Myn'd ymlaen i lawr, i lawr:
Rhwng ei cheulanau araf yr ä,
Gwenu yn llon ar bobpeth a wna,
Siarad dwyfol iaith yn mysg y graian mân
Mae yr afon loew, lân.

O na bawn i'n afon loew, loew, lân,
Unrhyw ofid dwys na phoen ni chawn;
Treulio f' oes ynghanol blodau tlws a chân,—
Fel yr afon, O na bawn!
O na bawn i'n afon loew, loew, lân,
Fel y gallwn beidio hidio'r byd,
Chwerthin ar flinderau'r ddaear fawr a mân,
Myn'd ymlaen, ymlaen o hyd:
Teithio yn ddiwyd i de fy nhad,
Tynu o hyd tua môr cariad rhad;
Treiglo tuag eigion gwynfyd pur a chân,
Fel yr afon loew lân.


RHYWBETH MWY.

SAIF y dyn uwch ben goludoedd,
Prif ddymuniad calon ffol,
Rhifa'r arian wrth y miloedd.
Gan eu gwasgu yn ei gol;
Llawer un mewn awydd annoeth
Fu'n ymdd'rysu gyda hwy,
Ond ar garnedd auraidd cyfoeth
Llefa'r enaid,—Rhywbeth Mwy.


Rhed un arall at bleserau,
Gan gofleidio mwyniant byd,
Trocha 'i enaid yn y ffrydiau
Sydd yn llygru dyn bob pryd;.
Pan nofio'r dyfroedd swynol
Teimla yn ei enaid glwy',
Ac yn nghanol mwyniant bydol
Llefa'r enaid,—Rhywbeth Mwy.

Rhed y llall at dduwies mawredd
Gan ymgrymu iddi hi,
Ymgais hwn yw cael anrhydedd
Enw bydol a phob bri;
Ar ol dringo'r grisiau hyny
Yn llawn o iechyd nerth a nwy',
Metha gael tawelwch felly,
Llefa'r enaid,—Rhywbeth Mwy.

Llecha'r llall mewn rhyw ystafell
Lle mae llyfrau'n haen ar haen,
Pleser hwn yw byw'n ei lyfrgell
A thalentau'r byd o'i flaen;
Plymia'r gwersi dwfn di waelod
Sydd yn gronfa ynddynt hwy,
Ond yn nghanol ffrwyth myfyrdod
Llefa'r enaid,—Rhywbeth Mwy.

Try y llall i feusydd gwyrddion
Yr Ysgrythyr Sanctaidd, wiw,
Bwyty'r cynyrch pur a ffrwythlon
Sydd yn tyfu'n ngwinllan Duw;
Teimla arogl Rhosyn Saron
Fel yn llwyr wellau ei glwy',
Yna gwaedda'r enaid,—"Digon,
Nid oes eisiau dim sydd fwy."


CYWYDD DIOLCHGARWCH,
(Chwedl yr hen feirdd) am ffon a gefais gan fy nghyfaill
N. BENNETT, Ysw.
(Nicola), Trefeglwys.

Fy llonwych gyfaill union
Wnaeth harddaf, hoffusaf ffon
I MYNYDDOG; —mae'n haeddu
Am y rhodd fad, ganiad gu.
Tyr'd awen gymen o'th gôd,
Diosga hyd dy wasgod;
Cyweiria dànau cariad
I ddwyn mel o dy ddawn mad,
A diolch mewn brwd awydd
Heb un trais i BENNETT rydd.
Yn awr caf y ffon eirioes
I'm cynal cystal a'm coes,
Gwna'm dilyn o hyn i henoed,
Os deil ei thrwyn, cystal a throed.
Wyr eres dewch yr awrhon
I weled hardded yw hon,
Ei chlapiog goes a'i chlwpa
Sy' lawn dwf,—sy o lun da.
Os daw y ddunos dywell
Dros anian a'i hugan hell,
A minau yn mhell o'm hanedd
Yn pallu dod o'r pwll di hedd;
Y ffon a'm hamddiffyna,
Wrth f'w'llys fy nhywys wna.
Os bwriada ysprydion
Rodio gwyll yr adeg hon,
Laeniaf yr holl gâd elynol
Ffwr'n un haid i uffern yn ol!
Wandio i lawr gŵn diles
Yn yroedd wna'r ffon eres;
I Ddaeargi rhydd ergyd
Ar ei ben, a'i gyr o'r byd.

Cawri uchel,—corachod
Geir dan haul, a gwŷr di nod
Rêd ffwrdd rhag curiad y ffon,
O'r golwg yn llwfr galon.
Ni chym'raf ragor o'm sorri,—
Ddowch chwi feirdd i heddwch a fi?
Oes dawel gewch os deuwch,
Onide eich lle fydd llwch;
Os clyw Cymru eich rhu a'ch rhoch,
Pwniaf bob copa o honoch.


HOFFDER PENAF CYMRO.
CANIG.

HOFFDER penaf Cymro yw
Gwlad ei dadau;
Dyna'r fan dymuna fyw
Hyd ei angau:
Chwareu ar ei bronydd,
Yfed o'i ffynonydd,
A gwrando cân, yr adar mân
Delorant yn ei gelltydd.

Clywed rhu ei nentydd gwylltion,
Ac yfed iechyd o'i hawelon,
Yw prif ddymuniad pena'i galon:
Mae golwg ar ei dolydd gwiwlwys,
Yn adlewyrchiad o baradwys,
Ac awyr iachus ei mynyddoedd
Yw'r awyr iachaf dan y nefoedd:
Mae'ngwlad a fy nghalon fel wedi ymglymu,
Yn uwch, yn uwch dyrchafer hen Gymru.


UN GOEG OEDD Y GNEUEN.
Y Miwsig yn y "Gyfres Gerddorol," Rhan V., gan Mr. J. D. Jones.

AR frigyn hen gollen yn ngwrych top y rhos
Mi welais un gneuen,
Edrychai o draw yn un hynod o dlos
Mor felen a sofren;
Mi wnes benderfyniad y mynwn i hi
Er cymaint y drafferth,
Mae clamp o gnewyllyn i'w gael, ebe fi,
Mewn cneuen mor brydferth.

Tra'n llamu trwy'r d'rysni, mi rwygais fy nghôt
Wrth ryw hen fieren,
Ac wedi cael ffwdan braidd fwy na gwerth grôt,
Cyrhaeddais y gollen;
Ar ol myned ati, nid mymryn o waith
Oedd cyraedd y gangen,
Ond wedi im' gynyg ryw chwe' thro neu saith,
Mi gefais y gneuen.

Ac wrth im' ei thori, mi holltais ryw ddau
O'm danedd yn yfflon,
Mae'r ddanodd er hyny heb byth esmwythau,
Bron tori fy nghalon;
'D oes ryfedd fy mod i yn methu o hyd
Ag edrych yn llawen;
A dyna'r peth gwaethaf o'r stori i gyd,—
Un goeg oedd y Gneuen.

Y llangciau ddygwyddodd gael gwragedd lled wael
A wyddant i'r mymryn,
Y casgliad sydd fwyaf priodol i'w gael
Oddiwrth yr hanesyn;
Ar ol cael colledion a llawer o fyd
I gyraedd y feinwen,
Yr byn sy'n eu nychu i'w meddwl o hyd
Mai coeg oedd y Gneuen.


Ar aelwyd annhrefnus eistedda y gŵr
Gan edrych o'i ddeutu,
A synu fod gwneuthur cyfeillach a'r dw'r
Mor gas gan ei deulu;
Yn hulio'r holl aelwyd yn ymyl ei droed
Mae'r lludw'n un domen,
Ac wrtho ei hunan fe dd'wed yn ddioed,
Un goeg oedd y Gneuen.

Mae gwe y pryf copyn yn nghonglau y ty
Er rywbryd y llynedd,
A'r plates ar y dresser yn edrych yn ddu
O eisiau ymgeledd;
Mae'r llawr heb ei 'sgubo,—mae lludw yn drwch
Ar hyd yr holl ddodr'en; ;-
Bys du esgeulusdod argraffodd mewn llwch—
Un goeg oedd y Gneuen.


PAN DDAW YR HAF.
Y Miwsig gan Mr. E. James, Newcross.

PAN ddaw yr haf a'i dyner hin
I loni bro a bryn,
Cawn drwsio bedd y gauaf blin
A blodau gwyrdd a gwyn;
Cawn weled myrdd o egin mân
Yn tyfu'n ngwres yr haul,
A chlywed cân yr awel lân
Ar dànau'r delyn ddail:
Cawn gasglu blodau hyd y glyn
A rhodio'r dyffryn dir,
A chanu marwnad gauaf gwyn
Ar goryn clogwyn clir.


Daw'r haf i dynu newydd gân
O dànau cangau'r coed,
Lle sang yr haf mae meillion mân
Yn tyfu'n ol ei droed;
Prydferthwch wisga am ei ben,
A'i ddwylaw'n llawnion sydd;
Ac ar ei fron mae'r lili wen
Mor deg a gwawr y dydd:
Cawn gasglu blodau, &c.

Ar wely'r haf, ffarwel i'r rhew
Roi blaen ei droed i lawr,
A'r lle bu'r eira'n haenen dew
Daw haen o flodau'n awr;
Daw'r byd i wenu ar y nen
Mewn newydd wisg o ddail,
Daw hithau'r awyr las uwch ben
I wenu bob yn ail:
Cawn gasglu blodau hyd y glyn
A rhodio'r dyffryn dir,
A chanu marwnad gauaf gwyn
Ar goryn clogwyn clir.


Y BACHGEN DIDEIMLAD.

EISTEDDAI henwr, llwyd ei wallt,
Ar bincyn craig,
A thano rhuai tonau hallt
Y brigwyn aig;
Bu 'i fron yn nyth i lawer clwy',
A gorthrymderau fwy na mwy;
A than dywarchen mynwent plwy'
Yr oedd ei wraig.


Cynhyrfai corwynt Hydref fru
Y dyfnder mawr,
A'r haul ar fynwes cwmwl du
Ymsuddai 'i lawr;
A chwifiai'r gwyntoedd y gwallt gwyn
Ar hyd ysgwyddau'r henwr syn,
Eisteddai ar y graig ddi gryn
Er's pedair awr.

'R oedd bron a rhynu'n delpyn oer,
Tra 'stormus nwyd-
Y môr a luchiai ei glafoer
I'w wyneb llwyd:
Fe deimlai ar ei galon wan
Ryw lesmair, a chwant bwyd mewn rhan,
Er hyn ni wyddai am un man
Y caffai fwyd.

Gwnai gais at godi, er mor wan,
Dros amser maith,
A'r gwynt a'i gwthiai'n ol i'w fan
Am lawer gwaith;
Ond ildio wnai i'r gwynt a'i drais,
Ac wedi methu yn ei gais,
Clustfeiniai'r 'storm i wrando 'i luis,
A dyma 'i iaith:—

"O mor resynus wyf yn awr!
Mewn unig fan,
Nis gwn am neb trwy'r holl fyd mawr
A rydd im' ran ;
Fy mab a'm gwthiodd dros ei ddôr,
(Ac yntau'n byw mewn llawnder stôr,)
I drengu'n swn rhuadau'r môr,
Yn hen, a gwan.


"Ei holl deimladau mabaidd ef
O'i fynwes ffoes,
Ac ni wrandawai 'm hegwan lef
O dan fy loes;
Agorais iddo ddwylaw hael,
Pan oedd yn faban bychan gwael,
A dyma'r tâl wyf finau'n gael
Yn niwedd oes!

"Fy mab a ddeliais ar fy nglin
Am lawer awr,
Rhoi's lawer cusan ar ei fin,
Heb feddwl fawr
Mai dyma'r bachgen wnai fy nhroi
Dros drothwy'r tŷ, gan feiddio 'i gloi,
A minau'n hen heb le i roi
Fy mhen i lawr.

"Mae ef yn eiste'r fynyd hon
Ar aelwyd gu,
A phawb o'i ddeutu'n iach a llon
Yn gwenu'n llu;
Heb feddwl fawr am henwr llwyd,
Sydd bron newynu eisiau bwyd,
Heb wely gwell na chareg lwyd,
Ar noson ddu."

Rhoes angau derfyn ar ei oes,
A'i chwerw hynt,
Anadlodd anadl olaf oes
I gôl y gwynt;
Dan sibrwd gweddi o'r iawn ryw
Ar ran ei fab i glust ei Dduw,-
'R oedd cariad tad wrth farw'n fyw,
A chryf fel cynt.


PARADWYS Y DDAEAR.

PARADWYS y ddaear yw Cymru fach lonydd,
A bendith y Nef ar ei phen;
'R wy'n caru gwylltineb ysgythrog ei chreigydd
A'm serch a ymglyma o amgylch ei moelydd
Fel iddew'n ymglymu am bren.
Coleddwn ein hiaith, a mawrygwn ein gwlad;
Tra cura y galon yn gynes,—
Tra gronyn o serch yn ein mynwes,
Carwn hen Gymru fad.

Mae'r awel a chwery a grug ei mynyddoedd,
A'i dyfroedd yn iechyd i gyd;
Ac yma mae 'r awen, a'r delyn trwy'r oesoedd,
A rhyddid yn byw yn mynwesau y glynoedd,
Addurnant baradwys y byd.
Coleddwn ein hiaith, &c.

Mae enwau ei dewrion trwy'r byd yn ddiareb,
Ni fagodd y ddaear eu hail;
Ei harwyr gwladgarol sydd lawn o wroldeb,
A'u henwau ddarllenir ar graig anfarwoldeb
Tra goleu yn llygad yr haul.
Coleddwn ein hiaith, &c.

Cael bwthwn i fyw, a chael bedd a ddymunaf
Yn rhywle yn Nghymru bach lon,
A'm gweddi at Dduw mewn Cymraeg a anadlaf,—
Bendithia hen Gymru, O! Dad trugarocaf,
Dy nodded fo'n aros ar hon.
Coleddwn ein hiaith, a mawrygwn ein gwlad;
Tra cura y galon yn gynes,
Tra gronyn o serch yn ein mynwes,
Carwn hen Gymru fad.


Y TE.
Y Miwsig, yn y "Gyfres Gerddorol," Rhan 28.

Os bydd gwr a gwraig mewn ffrae,
Fel mae weithiau'n digwydd;
A'r gwr am ddangos, fel pe bae
Pwy sydd uwcha 'i ysgwydd;
Os gall hi liniaru 'i wg
Nes daw "Moc" i ferwi,
Bodda'r "Tê" ei natur ddrwg
Ddim ond iddo 'i brofi:
Am gael yspryd dyn i'w le
Yn drefnus, drefnus;
Eithaf peth yw pryd o "Dê‚"
Melus, melus.

Os bydd gwraig, dro arall, braidd
Fel pe am golynu,
A'i geiriau'n glynu fel col haidd
Wrth i'r gwr eu llyngcu;
Swn y llestri yn eu lle
Leddfa'r 'storm a'r dwndwr,
Todda geiriau'r wraig mewn "Tê"
Fel y todda'r siwgwr:
Am gael yspryd gwraig i'w le
Yn drefnus, drefnus;

Eithaf peth yw pryd o "De,"
Melus, melus.
Pan fydd gwaew yn dy ben
Nes bydd ar ymagor,
Gofyn di am De gan Gwen
Lle myn'd at doctor;
Swn y llestri ar y bwrdd,
Sü y dwfr yn berwi,
Yr y gwaew blin i ffwrdd
Cyn i ddyn ei brofi;

Am gael iechyd dyn i'w le,
Yn drefnus, drefnus;
Eithaf peth yw pryd o De,
Melus, melus.

Os bydd arnoch eisiau cael
Pob hanesion hynod,
Ceisiwch swp o wragedd hael
I gael "Te" ryw ddiwrnod;
Tingc y llestri Te, a'r llwy,
Sydd fel miwsig dyddan,
Yn eu swn cewch hanes plwy'
Yn wir a chelwydd allan:
Am gael hanes gwlad a thre'
Yn drefnus, drefnus;
Eithaf peth yw pryd o De,
Melus, melus.


CARTREF.
ALAW—"The tight little Island,"

WEDI teithio mynyddoedd,
Llechweddi a chymoedd,
A llawer o diroedd blinderus;
'Does unlle mor swynol,
Na man mor ddymunol
A chartref bach siriol cysurus:
O fel mae'n dda gen' i 'nghartef,—
Mae swn bendigedig mewn 'cartref;'
Chwiliwch y byd, drwyddo i gyd,
'D oes unman yn debyg i gartref.


Pan fo'r gwyntoedd yn chwythu,
A'r 'storm yn taranu
Ei chorn i groesawi y gauaf;
Mae nefoedd fy mynwes
Yn yr hen gornel cynes,
Yn nghwmni fy nheulu anwylaf:
O fel mae'n dda gen' i 'nghartref, &c.

Mae yr aelwyd ddirodres
Yn agor ei mynwes
I'm derbyn yn gynes, heb genad;
Ac mae'r hen gadair hithau,
Yn estyn ei breichiau,
A bron a dweud geiriau o gariad:
O fel mae'n dda gen' i 'nghartref, &c.

Mae y dodrefn yn gwenu
I gyd o fy neutu,
A phrin mae'r piseri heb siarad;
Ac mae'r hen awrlais tirion
Pan cura ei galon,
Yn siarad cysuron croesawiad.
O fel mae'n dda gen' i'nghartref,—
Hen le bendigedig yw cartref;
Chwiliwch y byd, drwyddo i gyd,
'D oes unman yn debyg i gartref.


Y FODRWY BRIODASOL.

Y fodrwy briodasol
Sydd ar y bys yn dweud,
Fod dau yn byw yn ei chanol
A'r ammod wedi'i gwneud;
Mae'n grwn'r un fath a chariad,—
Difwlch fel yntau yw;
Mae'n gylch am fyd o deimlad
Anwylaf dynolryw.


Ar forau i'engtyd swynol
Edrycha'r eneth lon,
A llygaid clir, gobeithiol,
I gylch y fodrwy gron;
Mae'n gweled nef o hawddfyd
O'i mewn, a d'wed y ferch,—
"Ah! dyma 'gylch y gwynfyd,'—
Cylch cysegredig serch."

Mae dymuniadau calon
Yr eneth fywiog iach,
A sylwedd ei gobeithion
Yn byw'n y fodrwy fach;
Wrth nofio cefnfor cariad,
Mae nodwydd gobaith llon
Yn wastad a'i chyfeiriad
Yn syth i ganol hon.

Mae hon'r un fath a'r tywod
Sy'n wregys am yr aig,
Yn wregys am yr ammod.
Sy'n uno gwr a gwraig;
Mae serch a chywir undeb
Yn cadw'r fodrwy'n gron,
A llanw môr anwyldeb
Sy'n chwyddo byth yn hon.

Mae cariad yn y galon
Yn gwneud ei nefol nyth,
A holl serchiadau dynion
Ehedant yno'n syth;
Mae hithau'r fodrwy eres
Fel ffrwyth ar gangen pren,
Yn siarad iaith y fynwes
Ar law yr eneth wen.


Waeth beth a fyddo 'i defnydd,
Os bydd y serch yn grwn,
Maent oll'r un fath a'u gilydd
Gan deimlad cryf fel hwn;
Lle bynag byddo cariad,
Boed ef yn llawn neu'n llwm,
Mae cysur yno'n wastad,
Pe ba'i y fodrwy'n blwm.

Addurna rhai 'u modrwyau
A pherlau gwledydd pell,
Fel pe bae addurniadau
Yn gwneud priodi'n well;
Ond bywyd llawn o rinwedd,
Ah! dyma addurn drud,
Mae hwnw yn y diwedd
Yn werth holl berlau'r byd.

Mae serchog gymydogion
Lle byddo heddwch llawn,
A rhwymyn pur gyfeillion
Yn rhwymyn agos iawn;—
Mae modrwy fawr cymdeithas
Yn nesu mab a mun,
Ond modrwy fach priodas
Sy'n gwneud y ddau yn un.

Mae mil o addurniadau,
A gwenau bron heb ri';
Ac oes o amgylchiadau
Yn gorwedd ynddi hi:
Mae'n gryfach fil o weithiau
Na chreigiau'r ddaear hon,
'D oes dim ond dyrnod angau
All dori'r fodrwy gron.


MEDDYLIAU OFER IEUENGTYD.

WR ieuangc, wrth ollwng y ffrwyn i dy feddwl
I edrych yn mlaen ar bleserau y byd;
Wrth dynu darluniau o einioes ddigwmwl
Meddyli mai mwyniant fydd d'amser i gyd;—
Arafa dy gamrau,—ystyria'th ffyrdd anghall
Efallai fod gofid yn meddwl fel arall.

Wrth edrych yn mlaen ar ryw gyfnod dych'mygol,
Mae'n hawdd genyt feddwl am gyfoeth a bri,
A rhed dy ddychymyg yn mhell i'r dyfodol,
A lleinw dy logell ag aur yn ddi ri';—
Arafa dy gamrau,—ystyria'th ffyrdd anghall,
Efallai fod t'lodi yn meddwl fel arall.

Dy feddwl goledda fod coron anrhydedd
Yn goron osodir ryw dro ar dy ben;
Dychymyg gymera ddyrchafiad, a mawredd,
A gwenau cyfeillion i fritho ei len;
Arafa dy gamrau,—ystyria 'th ffyrdd anghall
Efallai fod siomiant yn meddwl fel arall.

Wrth edrych ar iechyd yn gosod ei rosyn
I harddu dy wyneb,—ystyria ei werth;
Wrth deimlo corff iachus, a nwyf yn mhob gewyn,
Mae'n hawdd genyt feddwl y pery dy nerth;
Arafa dy gamrau,—ystyria'th ffyrdd anghall,
Efallai fod cystudd yn meddwl fel arall.

Wrth syllu ar d' einioes yn ngolau trybelid,
Yr heulwen ddisgleiria ar forau oes glir,
Gwnai gynllun o fywyd llawn c'yd a'r addewid,
Edrychi ar d' einioes yn gyfnod hir, hir;—
dy gamrau, ystyria'th ffyrdd anghall,
fod angau yn edrych fel arall.


DACW'R BWTHYN GWYN.
ALAW—"Just before the battle, mother."

DACW'R bwthyn gwyn ym ganwyd
Ar y llechwedd bychan, tlws;
Dacw'r pistyll gloew'n disgyn
Ar y gareg wrth y drws:
Dacw'r hen gelynen anwyl
Yn ymgrymu gyda'r gwynt,
Dan ei chysgod bum yn chwareu
Fil o weithiau'r amser gynt:
Ond ffarwel i'r holl fwynderau
Gefais pan yn faban iach,
Mynwes ysgafn, ddi ofidiau,
Ydyw mynwes plentyn bach.

Borau disglaer di gymylau
Ydyw borau bywyd brau,
Cyn y daw canolddydd einioes
Mae'r awyrgylch yn trymhau;
Gofid eilw ofid arall,—
'Stormydd ddaw i hulio'r nen,
Ni ddaw diwrnod heb ei gawod
I ymdywallt am fy mhen:
Ffarwel byth i'r holl fwynderau, &c.

P'le mae'r hen gymdeithion difyr
Oedd yn llawn o nerth a nwyf?
Ateb mae'r twmpathau gwyrddion
Sydd yn mynwent oer y plwyf;
Amser chwalodd nyth fy ngwynfyd
Gyda phedwar gwynt y nen,
Pan a'i'n awr i geisio cysur,
Trallod chwardda am fy mhen:
Ffarwel byth i'r holl fwynderau, &c.


YR ENETH AR Y BEDD.
ALAW:—"Annie Lisle."

DAN yr Ywen dewfrig gauad
Ar dywarchen lwys,
Gwelais eneth fach amddifad
Yn och'neidio'n ddwys,
Ebai'r fechan, "Dyma'r beddrod
Lle mae 'm rhiaint cu,"
Ond o ganol loes a thrallod
Codai 'i golwg fry; —
D'wedai'r awel dyner, denau,
Yn yr Yw uwch ben;
Nid oes galar na gofidiau
Yn y nefoedd wen.

Hiraeth wthiai'r dagrau gloewon
Dros ei gruddiau mad,
Yn y beddrod'r oedd ei chalon
Gyda 'i mam a'i thad;
Môr o dristwch ydyw'r ddaear,
Mwy i'r eneth gu,
Ond o ganol tònau galar
Codai 'i golwg fry;
D'wedai'r awel, &c.
"O na allwn wylo 'nghalon,"
Ebai'r eneth gu,

"Fel bo ' nagrau'n berlau gloewon
Ar y beddrod du:
Nid yw'nhad a mam yn wylo
Yn y nefoedd wiw,
Ac mae'r Iesu anwyl yno,—
Tad amddifaid yw:"—
D'wedai'r awel dyner denau, &c.


PRIODAS HUW AC ANN.

MAE ambell un wrth geisio gwraig
Yn ceisio bod yn gryn 'sgylaig,
Ond llawer un a'i cafodd hi
Heb fedru countio "Rule of Three."

Peth diflas iawn gan bob rhyw ferch
Yw son am rywbeth heblaw serch;
Addition yw eu cownts i gyd,
Sef addio un ac un yn nghyd.

Fe ddarfu Huw a'i anwyl fun
Gyd ddysgu addio un at un,
Ond mewn addition mab a merch,
Mae'r ddau yn un yn nghwlwm serch!

'R y'ch chwithau'n un, er bod yn ddau
Ac un y byddoch yn parhau;
Gweniadau siriol o bob man
Belydro byth ar Huw ac Ann.

Ar ol priodi, pawb heb feth
Sy'n dysgu multiplyo' peth;
A hwyrach yn mhen amser teg
Y multiplyir dau yn ddeg.

Beth bynag, boed i'ch yrfa hir
O dan weniadau awyr glir;
A phan ddiffodda'r anadl wan,
Y nef fo'n derbyn Huw ac Ann.


ADGOFION PLENTYNAIDD.
Anfonodd yr awdwr y llinellau hyn at ei anwyl gyfaill Mr. W. JONES, gynt o'r Tymawr, Llanbrynmair, yr hwn a ymfudodd i'r America.

An! fy nghyfaill hawdd yw cofio
Oriau dedwydd borau oes,
Pan oedd gafael byd heb gydio
Yn ein bryd i beri loes;
Cofio'r oriau llawn o fwyniant
Dreuliem hyd ein hardal iach,—
Rhoddwn fyd, pe yn fy meddiant,
Am fod eto'n blentyn bach.

O!'r fath ddarlun prydferth, eglur,
Sydd y fynyd hon o'm blaen,
Sef adgofion oriau difyr
Dreuliem gylch yr afon laen;
Corwynt anghof chwyth yn erwin,—
O'i flaen llawer adgof ffoes,
Ond fel derwen yn y ddryghin
Saif adgofion borau oes.

Cwrdd a wnaethom fil o weithiau
Wrth y "bont" yn morau'r dydd,
Yna dechreu ar y campau,—
Chwareu, neidio, rhodio'n rhydd;
Colli amser myn'd i'r ysgol,—
Chwareu weithiau gryn ddwy awr,
Yna teimlem arg'oeddiadol
Bwysau'r wialen fedw fawr.

Gwnaem yn ddirgel wrth ein llyfrau
Ryw fân gastiau fwy na mwy,
Gorfod byw heb godi'n penau
Wnai un awr cyhyd a dwy;
'N ol cael awgrym am ollyngiad,
Aem i chwareu amser maith,
Gwelem ddwyawr fel dau eiliad,
Gan felysed oedd y gwaith.


Maes y chwareu ddyl'sai enw'r
Hen "Glwt Glas" gael bod o hyd,
Ond yn awr mae beddau'r meirw‍
Yn ei hulio bron i gyd;
Wrth y llanerch anwyl hono
Piniwyd hen adgofion fyrdd,
Ond mae rhai fu'n chwareu yno
Heddyw dan ei gwyneb gwyrdd.

A y'ch chwi'n cofio'r chwarau "bando"
Fyddai ar y "Llanerch wen"?
Yno cadd aml hogyn deimlo
Pwysau'r "clap" yn nghyd a'i ben
Wedi methu chwareu chwaneg
Pwyntiem dranoeth i gyd gwrdd,
Os na wnaem'r oedd rhaid rhoi careg
Ar ben canllaw "Pont-glyn-hwrdd."

Pysgota buom lawer adeg,
Dal, a gadael rhai ar ol,
Gwyddem lun a maint pob careg
O'r Ddolfach hyd at Benddol;
Llawer cenllif fu'n chwyrnellu
Wedi hyny'n wyllt i lawr,
Fel nad oes o'r ceryg hyny
Nemawr un yn aros'n awr.

Amser sydd ar chwyrn olwynion
Yn ymdreiglo yn ei flaen,
Pur ychydig o'r golygon
Heddyw erys fel o'r blaen;
Ond mae penau'r hen fynyddoedd
Eto'n aros megys gynt,
Gan roi her i ymadferthoedd
'Stormydd blin, a nerth y gwvnt.


"Moel Cae twpa" sydd yn aros
Am y cwm a'r "Esgirfraith,'
Gwylio'r fro mae'r "Gareg—ddiddos,"
Fel y gwnai er's blwyddau maith;
Sudda 'r haul dros "Gader Idris"
Pan ddaw'r hafddydd ar ei hynt,
Dyna bron yr oll a erys
O olygon dyddiau gynt."

Hawdd yw nyddu gwael benillion
Ar adgofion borau oes,
Yno mae defnyddiau ddigon
Anwyl gyfaill, onid oes?
Darlun ar ol darlun trylen
Ddaw i'r cof heb unrhyw ball,
Fel mae 'n anhawdd iawn i'r awen
Enwi'r naill o flaen y llall.


"FFRWD FAWR Y PENNANT."

HEN ddernyn llawn addurniant—rhuadwyllt
Yw "Ffrwd fawr y Pennant;"
Anian yn ei gogoniant
Ro'i fy Ner yn nhwrf y nant.

Dros grib y daneddog glogwyn—i'w daith
Ymdeifl y dwfr brigwyn;
E roes Ior mewn rhaiadr syn
Fawredd yn mhob dyferyn.

Mae'n disgyn i lyn aflonydd—eilwaith,
Gan ymrolio beunydd;
Yn y bar trochioni bydd,—
O ruadwy ferwedydd!


A haul anian melynwawr,—a lawen
Dryliwia'r ffrwd erfawr
Yn rhyw enfys eirianfawr,
Groga fyth dros y graig fawr.


NI WN I P'RUN AM HYNY.
Y Miwsig yn y "Gyfres Gerddorol," Rhan IX., Mr. J. D. Jones, A.R.C.P.

CWRDD a wnawn yn nghysgod llwyn
A'r eneth wy'n ei charu,
Mentrais ofyn yn y fan
A ddoi hi i'r Llan eleni?
Ond trodd ei chwt a d'wedai'r fun,—
"Nis gwn i p'run am hyny."

Cyn pen deufis'r oedd y ferch
O draserch bron a d'rysu,
Holi wnai'n druanaidd iawn
A wnawn i ffyddlawn lynu?
D'wedais inau wrth y fun,—
"Nis gwn i p'run am hyny."

Pob hen langc o fewn y byd
A ddeil o hyd i daeru,
Mai gwell i ddyn fod heb un ffrynd
Na meddwl myn'd i garu,—
Byw yn fynach arno 'i hun, —
"Nis gwn i p'run am hyny."

Y sawl briododd forau'u hoes
Sy'n dal yn groes i'r rhei'ny,
Mai llawer gwell i bawb o'r braidd,
(Dros fyw ar haidd,) briodi;
Ffoledd yw fod dyn ei hun,—
"Nis gwn i p'run am hyny."


Myn'd ymlaen fel hyn mae'r byd
A phawb o hyd a'i stori,
Yn groes i'w gilydd ar un gwynt,
Nes ydynt bron a'm gyru
I ddweud wrth wrando pob rhyw ddyn—
"Nis gwn i p'run am hyny."


CYMRU, CYMRO, CYMRAEG.
ALAW:—"The good Rhine Wine."

AWYR hen fynyddoedd Cymru iach
Yw'r awyr buraf brofais,
A swn ei nentydd bywiog, bach,
Yw'r swn pereiddia' 'rioed a glywais;
Tra t'w'no seren yn y nen,
Yn uwch, uwch, uwch, eled Cymru wen.

Penderfynu sefyll fel y dur
Dros ei iawnderau'n mhobman,
Ac esgyn grisiau rhinwedd pur
Fo nod pob Cymro 'gwaed coch cyfan;
Tra t'w'no seren yn y nen,
Yn uwch, uwch, uwch, eled Gymru wen.

Oes y byd i'r iaith Gymraeg, a chân,
A thelyn anwyl Cymru,
A'r hen alawon llawn o dân
O oes i oes fo'n cael eu canu;
Tra t'w'no seren yn y nen,
Yn uwch, uwch, uwch, eled Cymru wen.


CARTRE'R BARDD.

CARTRE'R bardd caredig mwyn
Sydd dan y llwyn celynen,
Pwy a welodd lecyn bach
Siriolach is yr heulwen;
Dymunoldeb pur a'i todd
Mae'n lle wrth fodd yr awen.

Mynydd mawr tu cefn i'r tŷ
Ymgoda fry mewn mawredd,
Creigiau noethion ar ei war
Sydd goron arucheledd;
Ac ar gopa tal y bryn
Mae'r cwmwl gwyn yn eistedd.

O! mae'r ardd o flaen y drws
Yn arlun tlws o Eden,
Hawdd yw gwel'd oddeutu'r lle
Ei fod yn gartre'r awen;
Yn y gwrychoedd gylch y tŷ
Barddoniaeth sy'n mhob deilen.


EWCH I'R YSGOL SUL.
ALAW:—"The Hazel Dell."

GWELAIS Johnny bach yn myn'd i'r Ysgol
Pan yn bedair oed,
Clywais ef yn dweud y geiriau Dwyfol
Yn ei ddwylaw roed;
Gwelais ef o flwydd i flwydd yn tyfu
Gyda gruddiau iach,
Sylwais arno'n dilyn llwybrau'r Iesu
Pan yn blentyn bach:
D'wedai'r byd yr ai yn uchel
Ar y ddaear hon,
Ond dywedai'r Nef mai coron angel
Oedd yn disgwyl John.

Gwelais John yn gorwedd ar ei elor
Pan yn ddeuddeg oed,
Gwelais feddrod bach yn cael ei agor
Yntau ynddo roed;
Tad a mam a wylent eu calonau
Am eu bachgen llon,
Tra'r oedd engyl gyda mwyn delynau
Yn croesawi John:
Dyma lais y bachgen duwiol
Draw o'r beddrod cul,
"Ymhyfrydwch yn y geiriau dwyfol,—
Ewch i'r Ysgol Sul."


"'R OEDD 'DERYN BACH UNWAITH."
Cyfansoddwyd y geiriau hyn ar y deuawd—"The last links are broken."

'ROEDD 'deryn bach unwaith heb 'hedeg erioed
Mewn nyth fach o fwswg yn nghanol y coed;
Canfyddai yr adar dros ymyl ei nyth,
A theimlai awyddfryd i 'hedeg i'w plith;
A hiraethai am weled yr adeg hoff, pan
Y doi nerth i ehedeg i'w aden fach wan,
A chredai fod gwynfyd mewn 'hedeg yn rhydd
O gangen i gangen trwy gydol y dydd.

Cyn hir ei ddymuniad i'r 'deryn a roed,
Ac ehedai mor heinyf a'r un yn y coed;
Ond buan y gwelodd fod siomiant tra chwith
Mewn bywyd aderyn'n ol gadael ei nyth:
Tra y troai gobeithion y nyth iddo'n groes,
A'i wynfyd dych'mygol yn ofid a loes,
Dymunai ddychwelyd o gyraedd pob cam,
I'r nyth fach o fwswg dan aden ei fam.


Mae'r plentyn yn edrych i'r dde ac i'r chwith,
'R un fath a'r aderyn dros ymyl ei nyth;
A chreda fod perffaith ddedwyddwch yn nglyn
A gadael plentyndod, a "dyfod yn ddyn";
Breuddwydia am yrfa heb ofid na loes,
A rhosynau yn tyfu hyd lwybrau ei oes;
Ond diangc wna'r hawddfyd, daw trallod i'w le,—
Mae drain dan y blodau a welodd efe.

Pwy byth na ddymunai gael bod hyd ei oes
Yn blentyn diniwaid o gyrhaedd pob loes,
Mae ei ben bach modrwyog rhy isel yn awr.
I wynt profedigaeth ei daro i lawr;
Caiff chwareu a chysgu heb deimlo un cam,
A derbyn pob tamaid o ddwylaw ei fam;
'R wy'n barod i dd'wedyd mewn llawer storm groes,
"O na bawn i'n blentyn trwy ystod fy oes."


UST, GORWYNT.
Y Miwsig yn y "Gyfres Gerddorol," Rhan XV., gan Mr. J. D. Jones.

UST, gorwynt erchyll, ust!
Ystormydd cysgwch bellach;
Disgynodd ar fy nghlust
Ryw seiniau llawer mwynach;
Fe ddaeth y gwanwn gwych
A'i felus beroriaeth i'n lloni;
Ymloewa'r nefoedd megys drych
I natur wisgo am dani.
Mae'r nefoedd a'r ddaear yn ateb eu gilydd,
Mewn cân gymysgedig o fawl a llawenydd.


"GAIR O GYNGOR."

MAE genyf gyngor bach i'w ddweud,
Mae'n gyngor da'r wy'n credu,
Mae'n gyngor hen, a hawdd ei wneud,
Ond nid yw'n waeth er hyny;
Y sawl a wnelo'r cyngor hwn
Ni fydd ef ar y golled,
Caiff fwy o barch gan bawb mi wn,
A mwy o bres i'w boced;
A dyma y cyngor, gwrandawed pob dyn―
Meindied pawb ei fusnes ei hun.

Os gwelwch ddyn yn fawr ei flys
Am wybod pob helyntion,
Mae'n debyg iawn o losgi 'i fys
Yn mrowes ei gymydogion;
Fe ä y gwr o "chwech i rôt"
Yn gyflym anghyffredin,
Ac odid fawr nad â ei gôt
A thwll yn mhen ei helin:
Mae'n siwr fod y cyngor o werth i bob dyn―
Meindied pawb ei fusnes ei hun.

Fe fyddai llawer llai o ddrwg
Tae pawb yn gwneuthur felly
A llai o gas, a llai o wg,
A llawer llai o bechu;
A mwy o heddwch yn y wlad,
A mwy o gariad brawdol,
A llawer mwy o bob mwynhad
Gydrhwng y teulu dynol:
Gofalwn am wneuthur y cyngor bob un—
Meindied pawb ei fusnes ei hun.


Y TRI BACH SY'N ISDER BEDD,
JANE, JOHN, A RICHARD;

Plant Richard a Mary Breese, Ffriddfawr, Cemmes, Maldwyn.
Cyfansoddwyd y naw penill cyntaf cyn marw John, a'r degfed cyn marw Richard.

WRTH edrych tua'r bedd
'D oes yno ddim ond t'w'llwch,
Ac angau ar ei sedd
Yn gwylio rhandir tristwch;
Ac O! mae'r afon ddofn,
Ac ymchwydd gwyllt ei thonaa,
Yn creu pryderus ofn
Mewn miloedd o fynwesau.

Efallai gallech chwi
Cyn claddu 'ch geneth dirion,
Roi tro trwy'r fynwent ddu
A llygaid digon sychion;
Cyn teimlo, gwelir myrdd
Yn edrych ddigon diwall
Ar dwmpath beddrod gwyrdd,
Bron fel rhyw dwmpath arall

Ond O! pan droir y bedd
Yn wely anwyl blentyn,
Mae'r fynwent oer ei gwedd
Yn ddaear barchus wed'yn;
Cryn gamp i chwithau fydd,
Pan we.och fynwent dawel,
Gadwyno'r meddwl prudd
O fynwent yr Hen Gapel.


Mae yno dwmpath gwyrdd
Yn nghanol maes o feddau,
O'i amgylch gwibia myrdd
O'ch dyfnaf ocheneidiau.
Dwys hiraeth, nos a dydd
Gyfeiria 'i fys at hwnw,
Gan ddyblu'r geiriau prudd,—
"Fod JANE yn mysg y meirw."

Ond diolch, y mae gwlad
Heblaw gwlad lom y beddau
I feddwl mam a thad
I 'hedeg at berth'nasau
Mae'r nefoedd dawel iach
Ga'r saint tu draw i adfyd
Yn nefoedd i blant bach
Ant adre'n morau ’u bywyd.

Y sawl sy'n byw yn hen
Gânt fyrdd o'r llwybrau garwaf,
Ond croesodd yspryd JANE
I Ganaan y ffordd nesaf;
Pe cawsai deithio oes
O bedwar ugain mlynedd,
Hi brof'sai lawer loes,
A marw yn y diwedd.
Mae'r plant a gymer Duw
I'r Nef yn morau 'u bywyd,

Yn blant rhy dlws i fyw
Mewn byd sydd lawn o adfyd;
A chofiwch chwithau hyn,
Mewn bywyd o groeswyntoedd,
Fod JANE ar Seion fryn
Yn un o dlysau'r nefoedd.


Bydd enw'r clefyd cas
Yn ddychryn byth i'ch teimlad,
Mae hwnw'n ffyddlon was
I angau'n mhob amgylchiad;
Ond er mor ddu yw'r glyn,
Ac er mor gas yw'r clefyd,
Gwnaeth Duw e'n gerbyd gwyn
I fyn'd a JANE i'r gwynfyd.

Ar fur ganllawiau'r nef
Mae JANE yn gwel'd eich dagrau,
A d'wed a thyner lef,—
"Na wylwch hoff berth'nasau;
Mae cwmni'r Iesu cu—
Y saint, a'r engyl hoew,
Yn well na'ch cwmni chwi,
Er cystal ydoedd hwnw.

Ac am eich anwyl John
A guddiwyd yn y gweryd,
Mae yntau'r fynyd hon
Yn yfed awyr gwynfyd:
Mae'r ddau yn ddigon iach
Uwch cyraedd pob rhyw elyn,
Ar "oriel y plant bach"
Yn chwareu pawb ei delyn.

Y blodau fu'n eich gardd
A foddiai y Gwaredydd,
Ac ol cael dau mor hardd,
Anfonodd am y trydydd;
Cymerodd RICHARD bach,
Rhag ofn i groes awelon
Edwino 'i ruddiau iach,
A gwelwi ei olygon.


MAE EISIAU NERTH.

MAE eisiau nerth i fyn'd trwy'r byd,—
Mae eisiau nerth o hyd o hyd;
Mae'r oes i gyd yn rhiwiau serth,
Ac ar bob rhiw mae eisiau nerth.

Wrth deithio'r haf mewn haul a thes
Mae eisiau nerth i ddal y gwres,
Ac yn ystormydd croesion certh
Y gauaf oer, mae eisiau nerth.

Pan fyddo clod a'i awel lefn
Yn chwythu'n union o'r tu cefn,
A llwyddiant teg yn gwenu'n rhwydd,
Mae eisiau nerth i ddal y llwydd.

A phan ddaw gofid cas ei hun
Fel nos dros holl feddyliau dyn;
Fe'i llethir o dan draed rhyw loes,
Os na cheir nerth o dan bob croes.

Pan fo cyfeillion bron heb ri
Yn estyn i'n cofleidio ni,
Mae eisiau nerth i beidio myn'd
Rhy bell i fynwes unrhyw ffrynd.

Pan fo'r cyfeillion oll yn ffoi,
A rhyw elyniaeth cas yn troi
Pob cyfeillgarwch yn ddi werth,
Ceir gwel'd pryd hyn fod eisiau nerth.

Wrth ini agor llygad ffydd
I edrych tua gwlad y dydd,
Ein nerth ein hun rhy fychan yw,
Mae eisiau nerth deheulaw Duw.


Mae eisiau nerth i fyw'n gall
Yn nghanol holl ystrywiau'r fall,
Mae eisiau nerth i farw yn gry',
A hwnw'n nerth o'r nefoedd fry.


GWR HAFOD-Y-GAD.

'R OEDD dyn yn byw unwaith yn HAFOD-Y-GAD
A gerid yn wastad gan bawb yn y wlad;
Ni fu yr un wg yn llychwino 'i ael lon,
Ac ni fu cenfigen erioed yn ei fron:
Er hyny 'd oedd dim yn neillduol yn hwn
Heblaw fod o'n talu ei rent a'i dreth, .
A'i fod o mor dewed, mor dewed, mor dewed,—
Yn siarad mor gynted, mor gynted, mor gynted,
Na welsoch chwi 'rioed 'siwn beth.

Dymunwn drwy'nghalon gael "bydio" fel hwn,
A'm hysgwydd yn wastad yn rhydd oddiwrth bwn:
Os do'i rhyw ofidiau i gwrddyd a'r brawd,
Wynebai hwy'n ëon dan glecian ei fawd:
Nid oedd ef yn hidio na thrallod, na loes,
Na gofid, na mwstwr, na ffwndwr, na pheth;
Ond byddai fel 'deryn ar frigyn y gangen,
Yn canu mor llawen, mor llawen, mor llawen,
Na chlywsoch chwi 'rioed 'siwn beth.

Pan fyddai rhyw chwedlau ar hyd yr holl fró,
'D oedd hyny'n effeithio dim byd arno fo;
Rho'i dân ar ei getyn pan gai newydd drwg,
A chwythai y cyfan i gwmwl o fwg:
I wrando ystraeon celwyddog y fro,
Ni roddodd ei glustiau erioed o dan dretn;
Ond troai ei wegil mor sythed, mor sythed,
A cherddai mor faned, mor faned, mor faned,
Na welsoch chwi 'rioed 'siwn beth.


Gwynfyd na fa'i chwaneg o ddynion fel hwn,
Yn byw yn y byd heb na phenyd na phwn;
A dim ond un gwyneb, a hwnw'n un llon,
A chalon ddi ddichell yn curo'n eu bron:
Pe gallem ni dreulio ein heinioes i'r pen,
Heb hidio na mwstwr, na ffwndwr, na pheth,
Ae'r byd ar i fynu, yn lle ar i waered,
A hyny mor gynted, mor gynted, mor gynted,
Na welsoch chwi 'rioed 'siwn beth.


Y GAN A GANAI BETSI.
Y Miwsig yn y "Gyfres Gerddorol," Rhan VI., gan Mr. J. D. Jones.

AR lechwedd bryn yn mhell o'm gwlad,
Heb fam, na thad, na theulu;
Eisteddais gyda 'm dwylaw 'mhleth,
I feddwl peth am Gymru:
Pan oedd alawon brig yr hwyr
Bron wedi llwyr ddystewi,
Ymwthiai i'm dychymyg gwan
Y gân a ganai Betsi.

Bum lawer gwaith yn Ngwalia lon
Yn gwrando hon yn canu,
Pereidd—dra ei halawon mwyn,
A'i swyn oedd yn fy synu;
Er clywed prif gerddorion byd
O bryd i bryd i'm lloni,
Ni chlywais un mor llawn o dân
A'r gân a ganai Betsi.


O! na pa rawel ar fy nghais
Yn cludo 'i llais hyd ataf,
Ac O! na allai'r fronfraith lân
Ail ddweud ei chân bereiddiaf;
Gwynfyd na bawn y fynyd hon
Tu draw i'r tonog heli,
Hyd cyraedd i ryw adlais gwan
O'r gân a ganai Betsi.

Mi glywais lawer geneth wen
Uwch ben ei phwyth yn canu,
Er hyn i gyd eu mwynder llon
A wnai i'm bron alaru;
Rhyw adgof gluda 'm meddwl cu
I aelwyd tŷ 'm rhïeni,
I wrando'n dawel wrth y tân
Y gân a ganai Betsi.

Bum lawer gwaith pan fyddai'r haul
Yn cyffwrdd ael y gorwel,
Yn gwrando ar ei nodau clau
Yn marw'n mreichiau'r awel;
A chyda hwy bu feirw i gyd
Fwynderau ien'gtyd heini;—
O na chawn glywed adlais gwan
O'r gân a ganai Betsi.

Os na chaf wel'd fy chwaer byth mwy
Os na cha'm clwy' ei wella;
Os na chaf roi fy nhroed ar làn
Hen diroedd anwyl Gwalia;
Gobeithio daw rhyw gyfaill mad
O'r wlad lle ce's fy ngeni,
I ganu uwch fy marwol ran
Y gân a ganai Betsi.


O NA BAWN I GARTREF.
ALAW:—"The last Rose of Summer."

O NA bawn i gartref ar aelwyd fy nhad,
Yn lle bod fel alltud yn mhell o fy ngwlad;
Lle treuliwn foreuddydd fy einioes yn llon
Heb ofid na hiraeth, yn ysgafn fy mron.

'N ol chwarau boreuddydd fy einioes i gyd,
Newidiodd y chwarau am ofal y byd;
Ymguddiodd haul dysglaer boreuddydd fy oes
Tu ol i gymylau o drallod a loes

R oedd awyr boreuddydd fy einioes yn glir,
Ond Ow! ni pharhaodd fy heulwen yn hir;
Daeth 'stormydd o ofid i hulio fy nen,
Mae rhei'ny'n ymdywallt o hyd am fy mhen.

Pan fyddwyf yn cefnu ar ofid a loes,
Boed f' awyr yn ddysglaer fel borau fy oes,
Terfyngylch fy hwyrddydd fo'n olau pryd hyn
A'i belydr yn cyraedd gwaelodion y glyn.


Y FFYNON.

MEWN llwyn o frwyn ar gwr y fron
Y llecha distaw ffynon fach,
A thros ei min y treigla'n llon
Y ffrwd risialaidd, loew, iach;
Ond rhwystro hon, 'does neb a faidd,
Mae anfeidroldeb wrth ei gwraidd.


O oes i oes mae Duw ei hun
Yn gweithio'r sugnedyddion hyn,
Ac wrth fyn'd heibio, gwel'd ei lun
Yn nrych ei dwfr mae'r cwmwl gwyn;
Dwy chwaer yw Rhinwedd hoff a hon
A delw'r nefoedd yn eu bron.

Y ffrwd a dreigla fyth o hon
Fel llinyn arian rhwng y brwyn,
A disycheda'r bugail llon
Sy'n gwylio'r defaid mân a'r ŵyn;
Fel hyn wrth ddrws darllawdy natur lon
Mae'r ddiod orau fedd y ddaear gron.

Edrycha'r ffynon ar i lawr
I wel'd ei merch, y gornant lon
Yn ymeangu'n afon fawr
I dderbyn llongau ar ei bron;
Mae fel pe'n dweud yn nghlust pob defnyn mad,
"Fy nghofion serchog at y môr, dy dad."

Pan fydd yr haul a gwresog hin
Yn yfed llawer ffrwd bob dafn,
A llawer nant gan sychder blin
Yn marw yn ei chreigiog hafn;
Mae'r ffynon fach yn herio'r haul a'i wres,
Gan daflu i dwfr i wyneb poeth y tes.

O mae hi'n dlws! 'r un fath a'r gwir,
Yn byw yn lân,—yn mynu byw;
Tra'n edrych ' lawr i'w gwyneb clir
'Rwy'n gwel'd fy hun, wrth weled Duw:
A diolch, gwelaf ffynon Crist a'i drefn,
A môr anfeidrol gariad wrth ei chefn.


BEDD LEWYS MORUS.

MAE Cymru wedi rho'i ei bardd,—
Ei serchog fardd anwylaf,
Yn mynwes Ceredigion hardd,
I huno 'i hun ddiweddaf;
Ond er mai oer a marwol yw
Gweddillion LEWYS MORUS,
Mae 'i enw'n gynes, ac yn fyw,
A'i goffa'n anrhydeddus.

Mae Cymru n caru'r priddlyd flwch
Sydd yn y fynwent isel,
Lle'r ymgymysga 'i anwyl lwch
A llwch Llanbadarn dawel;
Ac fel gofala'r fynwent ddu
Am lwch y rhai sy'n marw,
Bytholrwydd anfarwoldeb sy 'n
Gofalu am ei enw.

O anwyl fedd! anrhydedd yw
I'r rhosyn bach gwywedig
Gael marw yn yr Hydref gwyw
Ar lwch mor gysegredig;
Ac adgyfodi'r gwanwyn hardd,
Yn ddarlun o'r newydd-deb
Sydd yn llinellau byw y bardd
Ar ddwyfron anfarwoldeb.

Yn nghalon hoff ei anwyl wlad
Mae 'i babell yn malurio,
Ac yn nghalonau 'i genedl fad
Mae 'i enw yn blaguro;
Yn nghanol adfail oesau hir
Ei awen, ddeil yn newydd,
Tra cano'r "gog" ei deunod clir,
"Ar fryniau Sir Feirionydd."


Nid careg fedd yr anwyl un
Yw'r unig gareg wybu
Am'enw'r gŵr a wnaeth ei hun
Yn ganwyll llygad Cymru;
Na, na, holl greigiau Cymru wiw
Sy'n adsain ei awenydd,
A chareg fedd i'r gwron yw
Holl geryg ein haelwydydd.

Na ddeued haf a'i hyfryd wedd
Dros wyneb Ceredigion,
Heb fardd a cherddor ar ei fedd
I ganu ei benillion;
Boed farw sain y gân a'r tant
Yn swn y floedd ddychrynllyd
A ddyry Duw i alw 'i blant
I chwarau telyn gwynfyd.


SAFLE'R RHEILFFORDD,[1]

I Safle'r Rheilffordd af am dro yn awr,
Y fan mae bywyd masnach yn cartrefu,
O'm blaen y gwelaf yr adeilad mawr
Fel pen yr adeiladau'n ymddyrchafu.
Ei do grisialaidd sy'n cofleidio'r dydd,
A'r awyr, yma, wêl ei delw beunydd,
A'r nen y Safle hoff gelfyddyd sydd
A natur megys yn cofleidio 'u gilydd.

Ond oddifewn, mae natur fawr yn rhoi
Y gorau i gelfyddyd, gan ei pharchu;
Mae 'i holl elfenau megys yn cyd droi
O amgylch llaw y dyn i'w wasanaethu.

Os hoffit weled mawredd meddwl dyn,
A natur a'i helfenau iddo'n osgordd,
Yn cyd ymgrymu iddo ef bob un,
Tyr'd gyda ni am dro i Safle'r Rheilffordd

Bywiogrwydd welir yma ar bob llaw,
A gweision a swyddogion mewn prysurdeb
Yn gwibio trwy eu gilydd yma' thraw,
Ac arwydd "myn'd" i'w ganfod ar bob wyneb;
Ac ambell hoglangc yma sydd mewn swydd
Yn teimlo 'i hun yn fwy na llon'd ei wasgod,
A theimla gan ei falchder ffrom a'i chwydd
Fel pe bae llyw y byd dan ei awdurdod.

Cyn hir ymdyra dynion gyda ffrwst,
Pob un a chob neu rywbeth ar ei freichiau,
A cherbyd ar ol cerbyd, gyda thrwst,
Arllwysa eu cynwysiad wrth y drysau.
Ac fel mae'r dyrfa'n chwyddo'n fwy o hyd,
Mae'r brys a'r cynhwrf hefyd, yn cynyddu,
Ac engraifft bron o holl deuluoedd byd
Yn safle'r Rheilffordd geir yn ymgymysgu.

A rhai i geisio tocyn gyda brys,
A'r lleill yn ymdrafferthu gyda choffrau;
Daw'r lleill i mewn yn gagal, ac yn chwys,
A golwg wyllt, a'u hanadl "yn eu dyrnau":
Ond yn y cynhwrf, dyna swn y gloch,
A chwiban "teyrn y ffyrdd" yn ateb hono;
A rhuad ei besychiad dwfn a chroch,
A sigla'r ddaear tra'r ysguba heibio.

Yr adeg i gychwyn yn awr sydd gerllaw,
Ac anhawdd yw tynu darluniad.
O gymaint o ddwndwr, a chymaint o fraw,
A chymaint o ferw a siarad;
Mae rhai gan wylltineb, a phryder, a braw,
O gerbyd i gerbyd yn rhedeg,
A'r lleill yn ymddyddan yn dawel gerllaw
Mor oer a digyffro a'r gareg.


Fan acw mae mintai yn cychwyn i'r wlad
I yfed awelon y moelydd,
Yn ysgafn eu calon y sugnant fwynhad
Yn nifyr gymdeithas eu gilydd;
Gadawant y dref a'i thrafferthion yn awr,
Rho'nt heibio bob gofal masnachol,
A rhed eu meddyliau'n gyflymach na'r wawr,
I benau'r mynyddau iachusol.

Yn ymyl, mae mam yn ymaflyd yn llaw
Ei bachgen ymunodd â'r fyddin,
Rhaid myn'd, dyna'r swyddog yn galw'n ddi daw
Rhaid myn'd tuag India'r Gorllewin;
Ac O! fel mae cariad, a hiraeth, ac ofn,
O lygaid y fam yn ymsaethu,
Mae 'i thafod yn fud, ac ochenaid ddofn, ddofn
I wyneb ei mab mae'n anadlu.

Fan acw mae rhian brydweddol a hardd
Yn pwyso ar fraich ei hanwylyd,
Mae'n ysgafn ei bron a hapusrwydd a chwardd
Trwy'r wên sydd yn toi ei hwynebpryd;
Rhoi awgrym o'i hanes y mae'r faneg wen
Sy'n cuddio y fodrwy aur newydd,
Fel hyn y cychwyna Llewelyn a Gwen
I'w taith briodasol yn ddedwydd.

Yn ymyl y pâr priodasol mae dyn
Yn llamu i'r cerbyd yn frysiog,
Ond ar yr amrantiad mae'n teimlo ei hun
Dan law awdurdodol y swyddog;
Mae grym ei euogrwydd yn ysgwyd ei fron,
A'i galon yn suddo'n ei fynwes,
A'r gwaed yn ymdaflu yn dòn ar ol tòn
I'w wyneb i adrodd ei hanes.


Canfyddaf eneth lwyd ei boch
Yn gwthio 'i hun i'r cerbyd,
Aeth trallod cas a'r rhosyn coch
Addurnai ei hwynebpryd,
Ni ddywed air, eistedda' lawr,—
Ond ah! yn nghil ei llygad
Sylldremia'r deigryn gloew mawr,
Mae hwnw'n mynu siarad.

Try hon ei hwyneb ar y wlad
Ond nid i ymddifyru,
Y dydd o'r blaen bu farw 'i thad,
Mae hithau'n myn'd i'w gladdu;
Er cymaint terfysg sydd o'i chylch
'D oes dim a dyn ei sylw,
Ei chadach gyda'i dagrau ylch
Gan hiraeth am y marw.

With gerbyd arall, dacw ferch
Yn edrych yn bryderus,
O'i llygaid byw rhed ffrwd o serch
I lygaid morwr nwyfus;
Mae gwasgiad llaw yr eneth ddel
Yn gyfrol fawr ar gariad,
A'i phwyslais ar y gair "ffarwel"
Yn ddarlun byw o deimlad.

Ond dyna dreiddgar swn y gloch
Yn nghlustiau pawb yn suo,
A dyma'r peiriant a'i bwff croch
Yn ateb adsain hono;
A'n mlaen, a sigla'r ddaear gref
O dan ei chwyrn olwynion,
Ac wrth ro'i ffarwel prudd i'r dref
Ysgydwa llawer calon.


Mae wedi myn'd! ond dyma frawd
A'i wyneb fel marworyn,
Yn holi'n nghanol 'storm o wawd
"Pa bryd mae'r trên yn cychwyn?"
Daeth ef mewn pryd i fod ar ol,
A gwarth orchuddia 'i wyneb,
Yn siomiant y creadur ffol
Cawn draethawd ar brydlondeb.

Trown yn awr i wel'd prysurdeb
Gweision bywiog y swyddfeydd,
Aci wel'd y byd o nwyddau
Sydd yn beichio'r ystorfeydd;
Dyma lle teyrnasa masnach
Gyda dwylaw llawn bob pryd,
Un sydd ganddi'n casglu beunydd,
Tra mae'r llall yn rhoi o hyd.

Wrth ei hystlys mae celfyddyd
Yn ymgrymu gyda pharch,
Dim ond iddi roddi awgrym
Dyna hono at ei harch;
Nid oes raid i'r dyn ond edrych,
Gyda sefyll wrth y llyw,―
Rhoddi awgrym i'w beirianau,—
Dweud y gair,—a digon yw.

Wele'n dod gerbydres anferth
Gyda nwyddau môr a thir,
Rhwygo dyfod mae y peiriant
Gyda 'i gynffon bwysig, hir;
Nid yw miloedd o dunelli
Ddim i hwn ond "plyf i wynt,"
Rhua farwnad pedrolfeni,
A hen droliau'r dyddiau gynt.


Dacw swyddfa y pellebyr
Mewn ystafell fechan draw,
Lle mae dyn a'r mellt ofnadwy
Fel teganau gylch ei law;
Yma, duwies hardd celfyddyd
Sydd yn plethu mellt y nen
Fel pe byddent wiail irion,
I'w rhoi'n dalaith am ei phen.

Rhyfedd gweled dyn yn gallu
Chwareu'n ddifyr gyda'r mellt,
A chadwyno'r gallu hwnw
Rwyga'r dderwen gref yn ddellt;
Dodi ffrwyn yn mhen y trydan,
Arwr gwyllt y 'stormydd ban,
D'wedyd wrtho, "Dos i neges,"
Yntau'n myned yn y fan.

Natur a chelfyddyd unant
I drosglwyddo meddwl dyn
Cyn gyflymed bron ag aden
Y dychymyg chwim ei hun;
Enfyn newydd,—caiff atebiad,
Dros gyfandir,—dan y dòn;
Saetha 'i eiriau ar amrantiad
I eithafoedd daear gron.

Ust! mae tingc y gloch yn suo
Yn fy nghlustiau,—Beth sy'n bod?
Ac mae'r lle yn ferw drwyddo,—
Y gerbydres sydd yn dod:
Chwyrnu'n ddigllon mae y peiriant,—
Lluchia fwg a thân o'i gol,
Ac mae'n tuchan fel pe byddai 'n
Llusgo'r ddaear ar ei ol!


Dyma'r dorau yn agoryd
Ac mae cynhwrf wrth bob dôr,
Rhuthra dynion o'r cerbydan
Fel llifeiriant llanw'r môr;
Tonau o wynebau dynol
Fel yn gwthio 'u gilydd sydd,
Megys diluw byth barhaol
Drwy y Safle nos a dydd.

Ar balmant llwfn y Safle
Y gwelir trefi mad,
Fel pe baent yn dod allan
I ysgwyd llaw a'r wlad;
Amrywiaeth amgylchiadau,—
Amrywiaeth rhyw ac oed,
A welir yn y Safle
Rifedi dail y coed.

Yr agerbeiriant nerthol
O fôr i fôr yr â,
Cyfandir â chyfandir
Fel dau gymydog wna:
A gwregys cyfeillgarwch
Gwregysa lwyna'r byd,
Ac a llinynau cariad
Cenhedloedd rwyma' nghyd.

Adseinio 'i bwff a'i beswch
Y mae clogwyni'r byd,
A'i chwiban cryf a eilw
Ddynoliaeth oll yn nghyd;
Ei ager a'i fwg torchog
Fo'n gorwedd ar bob glyn,
O begwn pell y Deau
I eitha'r Gogledd gwyn.


RHWYFA DY GWCH DY HUN.
[EFELYCHIAD.]

Mi welais lawer tref a gwlad,
A llawer rhyw fath o ddyn;
Ond welais i ddim byd mor rhad
A rhwyfo fy nghwch fy hun:
P'run bynag gaf ai gauaf ai haf,
'Dwy'n hidio fawr pa un,
'Rwy'n taflu pob croes i gefnfor oes
Wrth rwyfo fy nghwch fy hun;
Gan hyny'r ffordd i fyn'd trwy'r byd
Yw parchu dyn fel dyn,
A chanu'n llon o hyd o hyd
Rhwyfa dy gwch dy hun.

Ni feddaf fi na gwraig, na phlant,
Na chariad i hel, a thrin;
Ond canaf yn llon ar frig y don
Wrth rwyfo fy nghwch fy hun:
'Rwy'n edrych yn wyneb y byd yn rhydd
Dan wenu ar bob dyn;
'Dwy'n hidio am arian, os digon a fydd
I rwyfo fy nghwch fy hun:
Gan hyny'r ffordd, &c.

Mae'n burion peth cael ffrynd wrth law
Os cefaist ti brofi'r dyn,
Ond gwell o lawer yn y pen draw
Iti rwyfo dy gwch dy hun;
Na cheisia fenthyg,—prynu'r peth
Yw'r rhataf i bob dyn,
Ni chei di na gwg na thafod drwg
Wrth rwyfo dy gwch dy hun:
Gan hyny'r ffordd, &c.


Os stormydd ddaw i beri braw
Trwy fynwes llawer un,
Na hidia'r byd a'i wg i gyd
Ond rhwyfa dy gwch dy hun:
Daw haul dan odrau'r cwmwl du
Gan wenu ar bob dyn,
A d'wed ei wên o'r nefoedd fry,—.
Rhwyfa dy gwch dy hun:
Gan hyny'r ffordd i fyn'd trwy'r byd
Yw parchu dyn fel dyn,
A chanu'n llon o hyd, o hyd,—
Rhwyfa dy gwch dy hun.


MARW'R GROES.

Draw yn mhell cyn geni amser,—
Cyn bod son am haul na byd;
Cyn rhoi seren, lloer, na phlaned
O gysawdau'r nef yn nghyd;
Cyn i angel chwim anadlu
Anadl ysprydoliaeth fyw,
'R oedd cyfamod wedi 'i drefnu
I heddychu dyn a Duw.

Holl weithredoedd Duw mewn natur
Sydd yn rhyfedd iawn i ddyn,
Delw anfeidroldeb welir
Yn gerfiedig ar bob un;
Casgler rhyfeddodau'r cread
Welwyd,―welir yn mhob oes,
Nid yw'r cwbl ond cysgod eiddil
O ryfeddod marw'r Groes.


Do, bu farw'r Iesu tirion
Dan arteithiau poen a chur,
Tra'r oedd beiau byd o ddynion
Bron a llethu 'i yspryd pur;
Pob ochenaid ddofn a dreiddiodd
O ddyfnderau 'i galon friw,
Dd'wedai'n hyf yn nghlust cyfiawnder
Fod pechadur i gael byw.

Do, bu farw'r Iesu tirion,
Ond mae bywyd yn ei glwy';
Dyma ddadl fawr y cristion
Am fendithion fwy na mwy:
Edrych ar ei groes, bechadur,—
Edrych gyda llygad ffydd,
Ti gai falm i wella 'th ddolur,
Ti gai enaid iach a rhydd.

Do, bu farw, ond cyfododd,
Trwy ei ddwyfol nerth ei hun,
Ac mae agoriadau uffern
A marwolaeth wrth ei glun:
Wrth fyn'd adref yn fuddugol
Heibio i gysawdau'r nen,
Taflai byrth y nefoedd olau
Yn agored led y pen.

'N awr mae llaw trugaredd dirion
Wedi'i hestyn at y byd
Ac mae'n cynyg nef a choron
Yn haeddianau'r aberth drud:
Gwrando ddyn ar lais trugaredd.
Gan fod barn yn agoshau,
Ac mae llaw trugaredd ddwyfol
Cyn bo hir i gael ei chau.


MOEL FADIAN.

UN borau esgynais i gopa Moel Fadian,
Tra'r t'w'llwch yn plygu ei leni yn nghyd,
A'r wawr yn ymdrwsio mewn gemwaith o arian
I dywys yr haul dros derfyngylch y byd;
'Roedd gwên fel yn eistedd ar ruddiau'r gre'digaeth,
A natur yn gorwedd ar wely o swyn,
Tra'r awel fach dyner yn siarad barddoniaeth
Wrth yfed y dagrau oedd ar flaenau'r brwyn.

O hyfryd olygfa! caiff fyw yn fy meddwl
'N ol marw tymorau a blwyddau maith, maith,
Tra teimlwn fy hun fel cymydog i'r cwmwl
Yr hwn newydd ddeffro gychwynai i'w daith;
Rhyfeddais, a d'wedais,—mae môr o feddyliau
Yn gorwedd rhwng plygion naturiaeth ei hun,
Yr afon a'r mynydd,—y dolydd a'r creigiau,
Bregethant ddwyfoldeb o flaen wyneb dyn.

Oddiar yr hen Foel mae dalenau'r gre'digaeth
I'w gwel'd yn agored heb rwymiad na sêl,
Os hoffet ti deimlo pa beth yw barddoniaeth,
Dos yno os oes genyt deimlad, a gwêl:
Pob dalen gynwysa ryw fyd o feddyliau
Sydd wedi'u hargraffu mewn harddwch di ail,
Ac yma a thraw mae hanesiaeth hen oesau
Yn gwneud ei nodiadau ar ymyl y dail.

Yn ymyl o danodd mae bro Aberhosan
O dan amddiffyniad y bryniau di ri',
Brefiadau y defaid, a swn y nant fechan
Yw'r unig beroriaeth a roed iddi hi:
Mae yma addoldy sy'n glod i'r ardalwyr
Lle derbyn plant Seion fendithion y ne';
Boed dynion yr ardal i gyd yn grefyddwyr
Mor gedyrn a'r bryniau amgylchynant y lle.


Mewn bythol dawelwch y mae Rhyd-y-felin
Yn gorwedd o'r golwg yn nghesail y bryn,
Gan warchglawdd o fryniau ni feiddia y ddryghin
Prin ysgwyd y dail mewn ardaloedd fel hyn;
Mae natur yn gwisgo y ddwy am yr harddaf,
Mae'r ddwy wedi clywed newyddion y Groes,
Ac felly esgyned y ddwy am yr uwchaf
Hyd ysgol anrhydedd, a rhinwedd, a moes.

I'r gogledd orllewin y tro'f fy ngolygon,
Tu hwnt i Benegoes y gwelaf o draw,
Y mwg a esgyna yn farwaidd ddyblygion
Gan ddweud fod Machynlleth yn rhywle is law:
Machynlleth mae d' enw yn anwyl yn Nghymru,
Tydi fu'n breswylfod i Owain Glyndwr,
Ac oesau i ddyfod a fynant dy barchu,
Mae d' enw'n anfarwol yn nglyn a'r fath wr.

Mae gwaed wedi britho dalenau ei hanes,
Sef gwaed a dywalltwyd dros ryddid ei wlad;
Bu'n darian iawnderau,—bu'n weṛmod i ormes,—
Bu'n ddychryn i'r gelyn ar feusydd y gâd:
Fel gwron yn angerdd ei deimlad gwladgarol
Y teithiai ymlaen trwy afonydd o waed,
Er gwaethaf pob trais a dichellion gormesol
Ar fryn annibyniaeth gosododd ei draed.

Is law i Fachynlleth mae hen afon Dyfi
Yn dotio ar swyn a phryferthwch y wlad,
Tra'n estyn bendithion i Feirion a Theifi
Cyn marw mewn heddwch ar ddwyfron ei thad;
O na byddai tafod ac iaith gan yr afon
I ddweud hen hanesion ei dyffryn hardd hi,
Mi hoffwn ei chlywed yn adrodd helyntion
Enwogion a fagwyd yn murmur ei lli'.


Draw'n mhellach canfyddaf yr eigion trochionog
Yn yfed afonydd a ffrydiau ein tir,
Amgylcha ein hynys fel gwregys mawreddog
Cyn loewed a'r grisial neu'r deiamwnt clir;
A dacw y llongau yn britho ei ddwyfron
Gan wneud negeseuon fil myrdd ar eu hynt,
Symudant mor esmwyth ar wyneb yr eigion
Tra 'u hwyliau chwyddedig yn yfed y gwynt.

Mae gwledd i'r golygon os troir tua'r gogledd,
Darowen a'r Cemmes a welaf is law,
A bryniau Meirionydd eisteddant mewn mawredd
Y naill ar y llall yn y pellder draw, draw;
Y Gader, a'r Aran—dwy ysgwydd hen Gymru,
Sy'n esgyn yn hyfion fry, fry, tua'r nen,
Ac O! dacw'r Wyddfa tu cefn i'r rhai hyny
Yn dweud mewn awdurdod mai hi sydd yn ben.

Draw, draw tua'r deau edrychaf yr awrhon
A gwelaf fynyddau ar draws ac ar hyd,
Yn sefyll fel grisiau i ddringo Plunlumon,
Yr hwn yw tywysog y deau i gyd;
A dacw fryn Hyddgant yn esgyn yn dirion
Yn uwchaf mewn hanes y saif yn eu plith,
Efe sydd yn cadw llwch anwyl ein dewrion
Heb feddfaen nac addurn, ond cawod o wlith.

Ddarllenydd! os hoffet ti weled gwir fawredd,
Rho dro i Foel Fadian, cei ddigon o waith
I syllu a synu ar bur arucheledd,
Mae'n werth iti fyned, cei dâl am y daith;
Hanesiaeth a natur sydd fel ar eu gorau
Yn dangos eu hunain yn mhob cwm a glyn,
A hefyd cei glywed hyawdledd y creigiau
Bregethant Ddwyfoldeb ar gopa pob bryn.


Y MAB AFRADLON.[2]

AR riniog tŷ ei fam a'i dad
Y safa bachgen glân a hoew,
Bwriada gefnu ar ei wlad,
A chysur pur y cartref hwnw.

Dirmyga erfyniadau ’i fam,
Ac ymbil tad sydd lawn o deimlad;
A ymaith heb un rheswm pa'm
Heblaw mai—dyna 'i benderfyniad.

Disgyna heilltion ddagrau'r tad
Wrth ysgwyd llaw, ar law y bachgen,
Ond profa'r dagrau'n ddi leshad
Edrycha ef yn hyf a llawen.

Sibryda 'i fam,—"Bydd fachgen da,"
Mewn iaith doredig un yn teimlo,
Rhydd yntau ffarwel oer fel ia
Tra'n edrych ar ei fam yn wylo.

Mae'n cefnu yn ei fympwy ffol
Ar gartref lle na welodd gilwg,
A sylla 'i riaint ar ei ol
Nes llwyr ddiflana ef o'r golwg.

A phan ddaw y terfyngylch pell
I'w gau o olwg ei rieni,
Pan dry y ddau i'w hunig gell
Mae enw'r bachgen yn eu gweddi.


Mae ef a'i hyder ynddo 'i hun,
Ac yn y llogell lawn sydd ganddo; —
Ni ddaeth i'w feddwl ef fod Un
Sydd uwch na'r uwchaf wedi digio.

A'n mlaen, a phawb sydd iddo'n ffrynd,—
Gwna arian bawb yn ben cyfeillion;—
A'n mlaen, ond i ba le mae'n myn'd
With foddio awydd gwag ei galon?

Mewn cwmni difyr gyda'r gwin,
A'r ddawns, y cawn ei weled nesaf;
Wrth godi'r gwydrau at ei fin
Ei grechwen ef a glywir uwchaf.

Y tafod ddysgodd eiriau Duw
Dan ofal tad pryderus, duwiol,
Fwrlyma lwon o bob rhyw,
A heria ddigter yr Anfeidrol.

Ehed pob meddwl da o'i fron,
Mewn gloddest ffol mae'n ymddifyru;
Ac mewn awyrgylch megys hon
Mae annuwioldeb yn addfedu.

Mae anadl cwmni drwg fel hyn
Yn gwywo tuedd at ddaioni,
'R un fath ag effaith llwydrew gwyn
Yn lladd y blodau yn y gerddi.

A'r bachgen yn ei flaen o hyd
Gan ymhyfhau mewn drwg weithredoedd
Ac yfa wagedd ffol y byd
Fel ych neu farch yn yfed dyfroedd.


Ond er a yf, mae 'i chwant o hyd
Am ryw oferedd, yn cynyddu,
Mae gwagedd ffol yn ddiod ddrud,
A syched byth yn dilyn pechu.

Rhyw adgof byw o'i gartref gynt
O'i flaen rai prydiau sy'n ymrithio,
A thybia glywed gyda'r gwynt
Ochenaid mam sy'n teimlo drosto.

Cydwybod euog ambell dro
Sy'n chwerwi cwpan ei bleserau,
Tra bydd a'i bys ar len y co'
Yn tynu darlun o'i bechodau.

Ond er y cyfan, myn'd ymlaen
Mae'r llangc ar yrfa annuwioldeb;
Pentyra'n ddiwyd, haen ar haen,
Ddefnyddiau gwae am dragwyddoldeb.

Y mab a fagwyd gan ei dad
Yn anwyl, welir erbyn heddyw
Yn ddigon hyf i gael boddhad
Wrth wawdio'r nef ar drothwy distryw.

Ond nid yn hir mae llogell lawn
Yn dal yn llawn i langc fel yma,
Mewn afradlonedd, buan iawn
Y gwelir lliw y geiniog ola'.

Rhy wag yw cronfa cyfoeth drud
I borthi blys afradlon penrhydd;
O ran ei awydd gwariai fyd,
Ac wedi'r cyfan yn anedwydd.


Ond gyda i'r afradlon roi
Y geiniog olaf am oferedd,
Mae 'i holl gyfeillion pena'n ffoi
Heb gynyg iddo'r un drugaredd.

Fel hyn mae'r byd yn gwthio dyn
Ar oriwaered annuwioldeb,
A phan â'n d'lawd ca wel'd ei hun
 th'lodi'n tremio yn ei wyneb.


*****

Machluda'r haul tu hwnt i gymyl trwchus
Y rhai a yrir gan y gwynt ystormus
Fel prudd genhadon trwy yr wybren uchod,
I ddweud fod nos ddryghinog bron a dyfod.
Dwfn rua'r corwynt yn nganghenau'r pinwydd
Wrth alw'n nghyd fyddinoedd yr ystormydd:
Y gweithiwr druan red i'w fwthyn bychan
Gan ddwys resymu wrth y sawl sydd allan;
Wrth wel'd y gwg ar guchiog ael y ddunos
Mae pawb trwy'r fro yn cyrchu i ryw ddyddos.
Tabyrdda'r gwynt ar furiau'r palas uchel
Tra mae'r preswylwyr oll yn eithaf tawel;
Mae'r goleu yn y ffenestr fel pe'n chwerthin
Am ben bygythion a rhuadau'r ddryghin:
Ond wele un tu ol i'r palas yna
O dan guriadau'r storm, yn wag ei gylla;
Mae'n ceisio llechu rhag rhuthriadau ffyrnig
Y corwynt blin, dan gysgod coeden dewfrig;
Ond O! ei changau llymion a wrthoda
Fod i'r newynog hwn yn unrhyw noddfa.
Ah! dyma'r llangc wrthododd holl gynghorion
Rhieni duwiol, a'u herfyniau taerion;
Hwn yw y llangc fu'n lluchio ei holl gyfoeth
I borthi blys a phob rhyw nwydau annoeth:

Hwn yw y llangc fu'n rhedeg i bob rhysedd
Yn awr yn rhwym yn rhwydau caeth anwiredd.
Hwn yw y llangc fu'n meddwi ar win pechod
Yn awr yn profi chwerw flas y gwaddod:
Ac yn y cyflwr hwn o ddarostyngiad,
Mae'n dweud yn nghlust y nos ei bruddaidd brofiad: —

"Gwae 'rioed imi gefnu ar gartref mor gu,
Lle chwarddai cysuron o'r nef ar bob tu;
Lle ni chyfarfyddais a gwg ar un ael,
A'r lle mae rhagluniaeth bob amser yn hael.

Digonedd o fara ga gweision fy nhad,
A minau yn marw yn mhell o fy ngwlad;
Cysuron a redant trwy nghartref fel lli'
Tra'r "cibau" yn fwyd gwaharddedig i mi.

'Rwy'n marw o newyn yn estron tylawd
O gyraedd tosturi rhieni a brawd;
Nid oes unrhyw galon a ystyr fy nghri,
Mae pawb yn dirmygu afradlon fel fi.

O na bai y corwynt sy'n rhynu fy nghnawd
Yn cludo am unwaith f' ochenaid dylawd,
I'r cartref adewais pan ddigiais y Nef,
'Rwy'n siwr y gwrandawai fy nhad ar fy llef.

Yn ngolau'r mellt fforchog mae'r storm yn gwneud gwawd
O'r wisg oer a thyllog ddarn guddia fy nghnawd;
Y curwlaw, a'r oerfel, a'm noethni y sydd
Yn uno i wneud fy sefyllfa'n fwy prudd.

Ac O! mae cydwybod yn gwanu fy mron,
Er ceisio ei hatal, llefaru fyn hon;
A'i bys ar fy meiau mae'n dweud yn fy nghlust
"Ple bynag yr ai, dof i'th erbyn yn dyst.'


Mae awyr fy ngobaith yn hynod o ddu,
Ni welaf er syllu ond un llecyn cu;
A chraffu ar hwnw sy'n rhoi im' foddhad,
Mae'r wawr olau'n union uwch ben tŷ fy nhad.

Mi godaf'n ol gweled goleuni'r wawr fwyn
Af at fy nhad tirion a d'wedaf fy nghwyn;
Efallai er imi ei ddigio cyhyd
Y todda ei galon yn gariad i gyd.

Addefaf fy mhechod, a chwympaf o'i flaen,
Mewn dwfn edifeirwch rho'f f' achos ar daen;
Pwy wyr wrth fy ngweled na chaiff ef foddhad,
Mi af dan ymddiried i gariad fy nhad."


*****

Pan oedd y gwynt yn chwythu
Ar nawn dryghinog du,
Yn ffenestr ei ystafell
Eisteddai henwr cu;
'R oedd olion bysedd gofid
Yn amlwg ar ei rudd,
A phryder a ganfyddid
Yn ngwraidd ei lygaid prudd.

Ehedai aml ochenaid
O'i fynwes brudd yn awr,
Y rhai'n yw tafod enaid
Fo wedi'i lethu' lawr;
Ei lygaid llawn gyfeiriodd
I'r gorwel du ei liw,
A gweddi daer anadlodd
I glust agored Duw.


Cyn hir y corwynt beiddgar,
(A siglai ddol a bryn,)
Oddiar ei wefus hawddgar
A gludai'r geiriau hyn;
"P'le mae fy machgen anwyl
Adawodd de ei dad,
Cael gwybod peth o'i hanes
Ro'i imi fawr foddhad.

'Rwy'n cofio wrth ffarwelio
Ei olwg falch a hyf,
Ond O! 'rwyf yn ei garu,—
Mae gafael serch mor gryf;
Mae dagrau hiraeth eto
Heb sychu ar fy ngrudd,
A'r adgof byw am dano
Yn gwanu' mynwes brudd.

O na chawn air o'i hanes,—
O na chawn wel'd ei wedd;
Os ydyw wedi marw,
Pa le mae 'i anwyl fedd?
Os marw wnaeth, bu farw
Heb dad i ddal ei ben,
Na llaw perthynas anwyl
I sychu 'i ddwyrudd wen."

Fel yna syn fyfyriai
Tad yr afradlon ffol,
Heb feddwl y dychwelai
Y bachgen byth yn ol;
Ond gyda hyn e welai
Ryw grwydryn wrtho 'i hun,
Adnabu ei gerddediad,—
Ei fachgen oedd y dyn.


Y bachgen a fu farw
Yn meddwl ei hoff dad,
Sydd eto'n gwel'd o'i gwmpas
Fynyddau ei hen wlad;
A mwy na'r cwbl, e welai
Ei dad ar lawr y ddol
Yn rhedeg i'w gyfarfod
I'w dderbyn yn ei ol.

O! dacw'r tad yn syrthio
Ar wddf y bachgen drwg,
Tra'r deigryn mawr yn treiglo
Ar hyd ei ael ddi wg;
O! dyma gyfarfyddiad
Na fu ei fath rhwng dau,—
Y bachgen drwg yn diolch,
A'r tad yn llawenhau.

O! fel yr wylai'r bachgen
Wrth rodio tua'r tŷ,
Tra rhuthrai i'w feddwl drylling
Adgofion dyddiau fu;
Y coed a'r ceryg hyny
Amgylchent de ei dad
Oedd erbyn heddyw'n harddach
Na pherlau estron wlad.

"Dygwch allan y wisg orau,"
Ebai'r tad, "mae 'm mab yn fyw
Do, atebwyd fy ngweddiau,
Bendigedig fyddo Duw!
O! 'rwy'n maddeu, wedi clywed
Swn ei edifeiriol lef,—
Pobpeth gorau fedd ei gartref
Sydd yn eiddo iddo ef."


Parotowch y llo pasgedig
Ac arlwywch lawen wledd,
Dyma'r bachgen a gollasid
Fel pe wedi dod o'i fedd;
Am gael gwneud cymwynas iddo,—
Am gael gwel'd fy mab yn fyw,
Boed ein cân yn ddiolchgarwch,—
Diolch i drugaredd Duw."


Mae gwers i bechadur oddiwrth yr afradlon,
Mae yntau 'n golledig a Duw yn anfoddlon:
Dirmygodd baradwys, ei chyfoeth, a'i breintiau,—
Newidiodd ddedwyddwch am ardal "cibau."
Mae 'n grwydryn di gysur, yn nod i bob aflwydd,
A'i fynwes yn uffern dan bwysau euogrwydd:
Nid oes gwag ddigrifwch nad yw wedi'i brofi,
Ond "Moes,” medd ei enaid mae heb ei ddigoni.
Ni ellir cael allan un gongl o'r cyfanfyd
Heb ol troed dynoliaeth yn chwilio am wynfyd.
Hi gefnodd ar gartref, a thad, a dedwyddwch
I chwilio am gysur mewn byd o anialwch;
Gadawodd afonydd grisialaidd a gloewon,
A chloddiodd bydewau toredig a gweigion:
Gwatwara alwadau tyneraf trugaredd,
Mae 'n treiglo i ddinystr fel maen ar y llechwedd.
Arafa bechadur rhyfygus, arafa!
Mae cefnfor o wae o dy flaen y ffordd yna:
O gwel! dacw fellten cyfiawnder yn fflachio,
A chlyw! dyna daran ar daran yn rhuo!
Byddinoedd digofaint sydd bron ag ymosod,
Mae dryghin yn ymyl, a thithau heb gysgod:
Ond clyw rhwng dwy daran mae llais o Galfaria
Yn sibrwd mor dyner,—"trugaredd a noddfa."
Tro adref, bechadur, o ffyrdd annuwioldeb,
Mae 'th dad yn hiraethu am weled dy wyneb:
Edrycha angylion dros ganllaw y gwynfyd,
Gan ddisgwyl a disgwyl dy wel'd yn dychwelyd:

Mae'r nefoedd mewn pryder o herwydd dy gyflwr,
Wyt beunydd yn destyn eiriolaeth Gwaredwr.
Y chwysu a'r gruddfan fu'n ngardd Gethsemane
Sy'n gwaeddi yn uchel "Bechadur tro adre;
Ac O! mae llef gwaed dy Waredwr mor anwyl,
Yn d'wedyd fod cartref a gwledd yn dy ddisgwyl;
Mae 'th dad yn hiraethu am roi iti delyn,
A gwisgoedd gogoniant sydd barod i'th dderbyn.


MERCHED Y FLWYDDYN.
Y GWANWYN.

MERCH henaf blwyddyn ydyw
Y GWANWYN, dyner, fwyn;
Ac O! mae heb ei chyfryw
Mewn i'engctyd, ac mewn swyn;
Mae'n sangu fel ar wywdra,
Ac yna'n ol ei throed
Y ddaear a esgora
Ar flodau tlysa' 'rioed.

Y rhew sydd fel yn marw
O flaen ei gwyneb hardd,
Ac yn ei mantell loew
Yr wybren fawr a chwardd;
Distawa'r corwynt bellach,—
Ymdodda'n awel fwyn,
I chwarau gyda'r deiliach
Flaendardda o bob twyn.


I wel'd ei gwyneb tirion
Deffroa natur iach;
I'w chyfarch a'u halawon
Daw myrdd o adar bach:
Yn ei deheulaw dalia
Y brigyn llawn o ddail,
Ar hwnw'r fronfraith gana
Alawon heb eu hail.

Yn ei llaw aswy gwelir
Yr egin mân di ri';
A'r rhai'n a ymgeleddir
Gan ei thynerwch hi;
A gwlith mae'n eu diodi
O gwpan natur fwyn,
A gwna i'r huan godi 'n
Fwy borau er eu nɩwyn.

Ar ben ei hysgwydd dyner
Disgyna'r Gog mor llon,
I glust y Gwanwyn syber
Ei deunod gana hon;
A neidia'r ŵyn o'i deutu
Yn hoenus ac yn iach,
Fel mam mae hithau'n gwenu
Uwch ben ei theulu bach.

Edrychwch! Ar ei dwyfron
Mae llygaid mân y dydd,
Fel seren ar ei chalon
A wnaed gan natur rydd;
O gylch ei thalcen purwyn
Y mân friallu chwardd;
Wel, onid yw y Gwanwyn
A'i gwisg yn hynod hardd.


YR HAF.
YR HAF yw merch arall y flwyddyn
Yr hon sydd mor brydferth a'i chwaer,
Ar dranoeth cynhebrwng y Gwanwyn
Ymddengys mewn gwisgoedd mor glaer;
Mae mwy o rosynau o'i deutu;
A mwy o haelioni'n ei bron;
Ei gwaith drwy ei hoes yw cyfranu,
Mae golud dihysbydd gan hon.

Mae'n gwisgo y ddol gyda meillion,
A'r mynydd mewn mantell o wyrdd,
A blodau amryliw a thlysion
Sy'n rhidens o amgylch ei ffyrdd;
Mae'r nefoedd gan burdeb ei glesni
Fel drych o flaen wyneb y byd,
I'r Haf i gael gwisgo am dani
Ei dillad prydferthaf i gyd.

Ei gwisg gan mwyaf sydd yn wyrdd,
Wedi ei britho â blodau fyrdd;
A natur olcha rhai'n bob nos
Mewn gwlith, yn nghelwrn anian dlos.

Yw sychu eilwaith daw yr haul,
Ac awel dyner bob yn ail:
Mae'r Haf fel merched "gwlad y gân,"
Yn hoffi gwel'd ei gwisg yn lân.

Yn mhlith holl addurniadau 'i phen
Y benaf yw y lili wen,
Bengryma'n wylaidd ar ei boch
I fwyn gusanu'r rhosyn coch.


Mae'r haul yn methu symud bron
Gan edrych ar brydferthwch hon,
Yn forau cwyd,—mae'n dotio'n llwyr
Wrth syllu arni hyd yr hwyr:

Mae'n chwerthin arni fry o'r nef,
A gwena hithau arno ef;
Gwastraffa 'i amser hyd yr awyr dlos
Fel pe mewn awydd i ohirio'r nos:

A phan yn araf yr ymsudda i lawr
Gollynga ddagrau fel o'i lygaid mawr,
Disgyna rhei'ny i addurno'r byd
Fel pe baent gawod fawr o berlau drud.

Gan hiraeth am gael gweld yr Haf drachefn,
O'r braidd pryd hyn y try yr haul ei gefn;
Dros derfyngylch y gogledd gwelir draw
Yr hwyr a'r borau fel yn ysgwyd llaw,
A'r dydd brysura ar ei yrfa lou
I gael ail olwg ar brydferthwch hon.


YR HYDREF.
HYDREF yw'r foneddiges nesaf ddaw
A myrdd o bob bendithion yn ei llaw;
Er nad yw mor rhosynog, nac mor glaer,
Mae mwy o gyfoeth ganddi na'i dwy chwaer.

Ei llaw a esyd yn ei llogell lawn,
A'i holl gynwysiad ganddi'n siriol gawn;
Rhyw "Ddorcas" gan ragluniaeth ydyw hon
A phur haelioni'n llywodraethu 'i bron.


Yr agoriadau welir ganddi yw
Allweddau ystorfeydd bendithion Duw;
Dadglöa gelloedd ymborth dyn i gyd,
A hulia fyrddau llawn o flaen y byd.

Os yw wrth sangu ar y ddaear ddwys
Yn llethu ambell flodyn, tyner, glwys,
Bob amser y mae ol ei throed yn llawn
O ffrwythau addfed, ac o ŷd a grawn.


Y GAUAF.
YR olaf o ferched y flwyddyn
Yw'r GAUAF wywedig ei gwedd,
Y llwydrew yw addurn ei choryn
A'r ia gloew, oer, yw ei sedd;
Ar bentwr o flodau gwywedig
Y gesyd hi bwysau ei phen,
A gwisga, mewn amdo rhewedig,
Weddillion yr hoff lili wen.

Prydferthwch merch ieuangc yn gwywo
A gwelwder y glyn ar ei gwedd,
A'r darfodedigaeth yn gwyro
Ei phabell yn araf i'r bedd;
Y blodau sydd yn ei llaw ddehau
A dorwyd er's deuddydd neu dri,
Bregethant ddynesiad yr angau
Wrth wywo'r un fath a'i grudd hi:

Prydferthwch pruddglwyfus fel yna
A gawn trwy y gauaf oer, oer;
Neu fel y prydferthwch ymrithia
Ar wyneb arianaidd y lloer;
Mae hono yn brydferth, er hyny
Mae'n edrych yn hynod o brudd,
Ond mae rhyw ddwyfoldeb o'i deutu,
Er oered, a gwyned ei grudd.


O gwel y fantell yna sydd
Dros ysgwydd lom y gauaf du!
Mae'n wynach bron na gwawr y dydd
Sy'n agor dôr y borau cu.

A gwel yr afon loew lefn
Oedd ddoe yn dònau mân i gyd,
Ca'dd wisg o risial am ei chefn
Ddisgleiriach na holl berlau'r byd.

Gwel raiadr serth wrth neidio i lawr
Dros grib y graig yn ddafnau mân,
Yn rhewi fel rhyw enfys fawr
O risial teg, neu berlau glân.

Yn aml y gwelir tlysau llon
Yn nghrog wrth glustiau llawer merch;
A'r rhaiadr sydd yr adeg hon
Fel tlws wrth glust y gauaf erch.

Ofnadwy brydferth yw ei gwedd
Ar brydiau pan y ffroma hi,
Chwibana ei angeuol gledd
Nes gwelwa gwedd ein daear ni.

Yn crogi mae wrth wregys hon
Allweddau pyrth y corwynt cryf,
Yr hwn a sigla'r ddaear gron
Wrth alw ar y dymestl hyf.

Mae'n cadw drws yr eira gwyn
Ac ystorfeydd y cenllysg erch,
I'w gollwng allan pan y myn
I gôl y 'storm, ei hanwyl ferch.


Mae un ochr olau, onid oes,
I ddarlun celfydd a di wall,
A thywyll yw yr ochr groes,
Tra'r naill yn brydferth fel y llall.

Y Gauaf yw y cysgod du
Sydd gan y flwyddyn yn ei llun,
A pherffaith oll yw'r darlun cu
A wnaed gan Ddwyfol law ei hun.


Y PWN AR GEFN YR AWEN.
Y Miwsig, yn y "Gyfres Gerddorol," Rhan 8".

"WEL, Evan, tyr'd i lawr
Lle llosgi canwyll,
Mae 'th dad er's haner awr
Yn trin yn erchyll;
'R wyt wedi dylu'n lân
Yn "moidro" hefo 'th gân,
Yn lle bod wrth y tân
Drwy'r hirnos dywyll.

Mae'th dad yn dod i'r tŷ
Yn ddrwg ei dymer,
Yn wir, mi "cei di hi"
'Mhen 'chydig amser;
Mae 'i lygaid fel y mellt
Gan eisiau tori gwellt,
Mi wna ei ffon yn ddellt
O gylch dy grwper."


A dyma 'i dad yn dod
Dan ddulio 'i wadnau;
Cadd EVAN deimlo 'i fod
O fewn y muriau;
Ymaflodd yn y gân
I'w rhoi yn dreat i'r tân,
A dyna ddiwedd glân
Ar ffwdan oriau!

Ah! dyma erchyll bwn
Ar gefn yr awen,
Nis gall un llangc fel hwn
Byth ganu'n gymhen;
Mae gwg y fam a'r tad,
Yn nghyd a gwawd y wlad,
Yn gwneuthur perffaith frad
Ar duedd darllen.
Rieni! er eich chwant,
Gwrandewch am unwaith,
Rhowch chwarau teg i'r plant
Ar faes llenyddiaeth;
Efallai, fam, deg bryd,
Dy fod yn siglo'r cryd
I ddyn a sigla fyd
A'i dalent helaeth.


BETH SYDD DDEWR?

BETH sydd ddewr? Cenhadwr ffyddlon,
Gefna ar anwylion cu,
Er mwyn traethu y newyddion
Am y Gwaed i bagan du;
Diystyru pob mwynderau,—
Dewis adfyd yn eu lle,
Er lledaenu'r nefol olau,—
Dyma ddewrder, onide?


Beth sydd ddewr? Cardotyn duwiol
Deithia'n foddlon trwy y byd,
A gred y rhydd rhagluniaeth ddwyful
Damaid iddo yn ei bryd;
Gwel'd haelioni ei Dad nefol
Yn mhob tamaid gaiff efe,—
Yn mhob cyni, dal i ganmol,
Dyna ddewrder, onide?

Beth sydd ddewr? Y taer weddiwr,
Sydd mewn edifeirwch llawn,
Yn apelio at Waredwr,
Am faddeuant yn yr Iawn;
Nerth ei ffydd ddadgloa ddorau,
Holl drysorau'r Nefoedd wen,
Gyda thaerni ei weddiau
Tyn fendithion am ei ben.

Beth sydd ddewr? Y cristion hwnw
Genfydd seren gobaith cu,
Yn ymddyrchu'n berlyn gloew
Uwch terfyngylch angau du;
Wrth ei olwg hyf, a thawel,
Ffy ysprydion dychrynfeydd,
Yntau'n edrych dros y gorwel
Ar nefolaidd olygfeydd.


"MAE'R NOS YN DOD."
Geiriau ar y GLEE,—"Ye spotted snakes."

MAE'r nos yn dod,—holl natur fawi
Blyga 'i phen i orwedd lawr,
Cryma'r Lili hardd pryd hyn
Fel angyles yn ei gwyn,
Dywed wrth y rhosyn iach
"Cysga, cysga'n ddistaw bach."
Cefnu'n brudd
Mae golau'r dydd;


Hithau'r awel dyner, iach,
Dd'wed "nos da" yn ddystaw bach.
Dacw'r sêr aneirif lu,
Draw ar fron yr wybren fry;
Heirdd ffenestri'r nefoedd wiw,
Wedi'r nos yn dangos Duw:
Hithau'r awel dyner, iach,
Dd'wed "Nos da" yn ddystaw, ddystaw bach.


Y "NHW."

MAE llawer o chwedlau yn cerdded trwy'r wlad
Na fyddai eu coelio o nemawr leshad;
Pe'r holid eu hachau, mi gym'rwn fy llw
Eu bod hwy yn disgyn o deulu y "Nhw:"
Y "nhw" fu'n eu meddwl,—y "nhw" fu'n eu gwneud,
A chofiwn bob amser, y "nhw" sy'n eu dweud.

Cryn bwnc eu dal "nhw," y mae "nhw'n" rhai mor chwim
Mae pob cais i'w canfod yn darfod mewn dim;
Pe gyrid Policemen y byd ar eu hol,
'Rwy'n siwr na ddoi neb ond Policemen yn ol;
Wyr neb yn y byd lle cartref y "nhw,"
Waeth tewi na siarad rhai rhyfedd yw "nhw."

Y "nhw" sydd yn cofio pob helynt y fu,—
A "nhw" sy'n cofrestru pob helynt y sy';
Hwy wyddant bob hanes fu 'rioed tan y nen,
Ac ambell i hanes bach arall dros ben!
Am wybod a chofio 'does neb fel y "nhw,"
Waeth tewi na siarad rhai rhyfedd yw "nhw."


Mi glywais gyfrinach, ai gwir yw, nis gwn,—
Mai teulu menywaidd ryfeddol yw hwn;
Mae'r oll o'r gyfrinach yn wir meddai'r gwynt,—
Cymered y merched a'r gwragedd yr hint:—
P'run bynag ai gwryw ai benyw yw "nhw,"—
Waeth tew na siarad rhai rhyfedd yw "nhw."

Mae rhai am fedyddio y teulu'n ddioed
A rhyw enw newydd rhyfeddaf fu 'rioed;
Un dosparth a'u geilw'n "hiliogaeth y wrach,"
Ac eraill a'u geilw yn "blant y gras bach;"
Ond wedi'r holl helynt y "nhw" ydyw "nhw,"
Waeth tewi na siarad rhai rhyfedd yw "nhw."


SIAN PENRHOS.

'R OEDD Sian Penrhos yn eneth dlos
Yn rhai o'r oesoedd aethant heibio,
Ond erbyn hyn, mae 'i gwallt yn wyn,
A hithau wedi llwyd heneiddio.

Roedd Sian Penrhos yn caru'r nos
Yn'r oesoedd gynt, medd rhai hen bobol;
Ond erbyn hyn, 'does neb a'i myn,
O na! mae Sian yn hen ryfeddol.

Mae wedi blino'n dal ei bys
I ddangos nad oes dim am dano,
Ond llawer gwaith y teimlodd flys
I gael y fodrwy i'w addurno.

Fe wenodd llawer bachgen glân
Wrth glywed son am bres y feinwen,
Ond d'wedent oll pan welent Sian
Ei bod mor hen a boncyff derwen.


Mae'n gwisgo bonet fach yn awr,
I ddilyn ffasiwn y genethod;
Yn hyn mae Sian yn methu'n fawr.—
Mae mwy o'r gwyneb hen i'w ganfod.

Mae Sian, er hyned yw, mor ffol
A gosod cylchau i'w hamgylchu,
A'r llangciau'n sibrwd o'r tu ol,
Fod "Sian yn hen, ac eisiau 'i chylchu."

Mae'n gwisgo blodau gylch ei phen,
Gan feddwl gwneud ei hun yn harddach;
Ond dyna'r drwg, mae'r lili wen
Yn dangos gwyneb hen yn hyllach.

Mae cadair hen yn nghongl y tŷ,
I ddysgwyl gwr, pe doi rhyw fachgen;
Ond beth sydd arni? Hen gath ddu,
Yn golchi 'i gwyneb hefo 'i phawen.

Anrhegodd gynjer a dwy ham
Am ddweud pa'm ddrwg na ddoi y bechgyn,
Ond methodd hwnw ddweud y "pa'm"
Nes bwyta'r hamiau cig bob mymryn.

Wrth halltu cig am flwydd neu ddwy,
Bu'n halltu mwy o haner mochyn;
Mewn hyder byddai'r teulu'n fwy
Cyn halltu moch y flwyddyn wed'yn.

Pa fodd y safodd hi'n hen ferch?
Nid oes trwy'r ardal gystal dynes!
Am nad oedd lle i angor serch
I fachu yn ei hoerllyd fynwes.


LLANBRYNMAIR.
ALAW:—"The moon behind the hill."

MAE llawer lle, a llawer llan
Yn hyfryd fan i fyw,
A llawer llanerch deg, a bron,
Yn hardd a llon eu lliw;
Ond O! mi wn am ardal fach,
Mil hoffach ydyw hi;
Ei henw yw fy newis air,—
Hen LANBRYNMAIR i mi.

D'wed rhai fod awyr mil mwy iach
Yn rhai o'r gwledydd pell,
Ac er mor iach yw Cymru fach,
Fod gwledydd llawer gwell;
Pe bawn yn ffeirio hon ryw bryd,
Cawn golled yn y ffair,
Mae'r awyr iachaf fedd y byd
Ar fryniau LLANBRYNMAIR.

Ymffrostia ambell ardal hardd
Yn ei hafonydd mawr,
Ond llawer gwell i lygad bardd
Yw'r cornant dreigla i lawr;
O mae hi'n dlws mewn creigiog hafn,
Yn berwi fel rhyw bair!
Mae byd o iechyd yn mhob dafn
O ddyfroedd LLANBRYNMAIR.

Ond moesau da yw coron hon,—
Hir, hir parhao 'i bri,
A rhinwedd bletha ar ei bron
Ei cheinion harddaf hi:
I hon tywysodd Duw ei arch,
Bu'n gryd i'r Dwyfol air,
Mae Cymru oll yn talu parch
I grefydd LLANBRYNMAIR.


Tra cura gwaed fy mynwes i,
Tra calon dan fy mron,
A thra y saif ei bryniau hi,
Bydd dda gan i am hon:
O cofiwch fy nymuniad i,
A deliwch ar fy ngair;
Pan wedi marw, rhowch i mi
Gael bedd yn LLANBRYNMAIR.


Y TEGAN ENBYD.

WR ieuangc a ddarfu 'ti feddwl ryw bryd
Fod pwys mewn dewisiad teganau
A welaist ti rywbryd yn ngwagedd y byd,
Ryw swyn yn at-dynu 'th feddylian?
A ddarfu ti deimlo rhyw flys yn dy fron
I hoffi'r teganau peryglus,
Sy'n tynu y llangc heb yn wybod o'r bron
I byllau o adfyd truenus?

Ystyriwn y perygl, gyd-ie'ngetyd i gyd,
Os tegan a ddaw dan ein sylw,
Gadawn i gydwybod roi barn ar y pryd
Fydd rhywbeth yn enbyd yn hwnw;
Meddyliwn o ddifrif cyn cellwair a'r un,
Fydd niwaid yn dilyn y chwarau;
Mae argraff y tegan ar fywyd y dyn,—
Mae pwys mewn dewisiad teganau.

Mor fawr ydyw gofal a phryder y fam
Yn gwylio o amgylch ei phlentyn,
Rhag iddo trwy anffawd gael briw, neu ryw gam,
Ei llygad o byd sy'n ei ddilyn;

Dychlama ei chalon gan bryder a braw
Os gwel hi y bach yn ymaflyd
Mewn rhywbeth peryglus, a thyn ef o'i law,
A cheidw bob tegan sy'n enbyd.

Y mamau rhinweddol a geisiant bob pryd
Ryw degan a'r A, B, C, arno,
Er mwyn i'w rhai bach tra o amgylch y cryd
Gael dysgu'r egwyddor a'i chofio;
Mor fuddiol a fyddai i langciau ein gwlad
Gymeryd esiampl y baban,
Gofalu bob amser, heblaw cael mwynhad,
Am ddysgu egwyddor o'r tegan.


DIRWEST.
ALAW:—"Y Deryn Pur."

LLEDAENER dirwest dros y byd,
Estyner hyd ei hedyn,
A gwasged yn ei thyner gôl
Bob ffol anfuddiol feddwyn;
Iachus oriau a chysuron.
A helaeth daena yn mhlith dynion,
Egyr ddorau hen garcharau
Lle cadwynwyd meibion gwaeau,
Gan ddwyn y rhai'n i awyr iach
Anwylach yn eu holau:
Perlau anwyl pur lawenydd
A eres gluda dros y gwledydd,
Gwena'n dirion ar y meddwon,
Nes diflana 'u anghysuron,
Brenhines bendith yw mewn gwlad,
A chariad yw ei choron.

Derbyniwch feddwon tref a gwlad
Ei galwad a'i hymgeledd,
Addurna eich aneddau mad
A chariad yn lle chwerwedd;
Dewch o feddwon dan ei baner,
Ufuddhewch i'w galwad tyner;
Gwelwch fel mae 'i phlant yn gwenu,
Wrth eich gwa'dd yn un o'r teulu,
A chwithau, druain, heb un wên
Trwy angen bron yn trengu:
Dirwest leinw nythod newyn,
Dirwest esmwythä y coryn,
Anedwyddwch nos o dristwch,
Dry yn ddydd o wir hyfrydwch,
A than ei nawdd gofidiau gant
A doddant yn ddedwyddwch.


PRYDFERTHWCH Y GREADIGAETH.

******
Y Greadigaeth sydd yn brydferth oll,
Edryched dyn i'r man y myno ef,
Prydferthwch saif o'i flaen. Ei ddelw sydd
I'w weled mewn tywodyn bach ar fin
Y môr, yn gystal ag ar wyneb haul.
Ei lais a glywir yn nghaniadau'r llwyn,
Yn gystal ag yn nghyngherdd mawr y 'storm,
Neu yn rhuadau dyfnion eigion blin.
Darlithio ar brydferthwch natur fawr
A wna y pistyll bach wrth ddrws y tŷ;
A'r un hyawdledd sydd yn ngenau hwn
Ag sydd gan raiadr y Niag'ra fawr.

Rhyw dlws yw'r cread roed ar bared mawr
Y gwagle anherfynol, di bendraw,
Yr hwn sydd ardeb hardd o'r Duw a'i gwnaeth:
Neu fel dwyfroneg lawn o feini byw,
A roed ar fynwes tragwyddoldeb maith,—
Pob maen a pherl yn cynnwys enw'r Ion.
******
Edrych, O! ddyn ar bobpeth o dy gylch,
Ymrithia yr Anfeidrol o dy flaen.
Pa fodd y meiddi wadu nad oes Duw,
Ag yntau'n siarad gyda thi bob dydd,
Yn mhobpeth welaist ti erioed.
******


EIN TYWYSOG A'N TYWYSOGES.

O BOED Tywysog Cymru wiw,
A'i anwyl Dywysoges,
Yn drachtio hawddfyd pur wrth fyw,
A'r nefoedd lon'd eu mynwes;
Ac o fewn cylch eu modrwy gron
Blodeued pob rhinweddau,
A haul dedwyddwch byth ar hon
Fo'n taflu ei belydrau.

Mae Prydain gyda gwên o serch
Yn estyn ei deheulaw,
I law ei mabwysiedig ferch
Gan ddweud o galon,—"Croesaw;"
Mae'r Cymro'n gwenu, ac mae'r Sais
Yn ateb gwên y Gwyddel,
A'r 'Scotyn yn dyrchafu 'i lais
I chwyddo'r fanllef uchel.


Mae tywysogion Cymru wen
Yn huno dan garneddau,
Ond awel rhyddid uwch eu pen
Sy'n suo hwyr a borau;
A'r blodau ar y beddau hyn
Sy'n awr yn cym'ryd sylw,
Maent fel angylion yn eu gwyn
Yn gwenu dros y meirw.

Coelcerthi fyrdd a dd'wed "Lwc dda*
I'r T'wysog calon gynes,
A'r clychau etyb gyda'r chwa
"Lwc dda" i'r Dywysoges;
Mae holl fagnelau môr a thir
Yn dweud mewn iaith daranllyd,—
O boed eu hoes yn ddwy oes hir,
A'u dyddiau oll yn hawddfyd.

Mae'r deyrnas fawr a'i herys ef
Yn addurn i deyrnasoedd,
Boed yntau ar ei orsedd gref
Yn addurn i frenhinoedd;
A holl adnoddau 'i meddwl coeth
O boed i ALEXANDRA,
Ei gynorthwyo i ddal yn ddoeth
Deyrnwialen aur Brittania.





GWRECSAM: ARGRAFFWYD GAN R. HUGHES A'I FAB.

Nodiadau

golygu
  1. Fe wel y cyfarwydd fod rhai o'r drychfeddyliau sydd yn y gân hon, wedi eu cymeryd o ddarlun dihafal Frith,—"The Railway Station."
    William Powell Frith The Railway Station
  2. Nid oeddwn wedi bwriadu dodi yr un gân cyn feithed a hon yn y llyfr hwn o gwbl, ond "ar daer annogaeth lluaws o gyfeillion" (felly bydd yr awdwyr enwog yma yn dweud) dodir hi i mewn.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.