Caniadau John Morris-Jones/Y Ddinas Ledrith
← Y Bachgen Main | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Y Seren Unig → |
Y DDINAS LEDRITH
Saf ennyd yma, f'annwyl,
A rho dy law i mi,
Ac edrych ar gyfaredd
Y dref sy dros y lli.
Mae niwlen ysgafn oleu
Yn do am dani hi:
Hi saif fel dinas ledrith
Ar lan y distaw li.
'R wyf innau'n dwyn rhyw fywyd
Cyffelyb ger y lli;
Yn llen oleuwen drosto
Y daeth dy gariad di.
Rhyw fywyd ysgafn oleu
Awyrol sydd i mi,
Mewn byd o hud a lledrith
Ar lan y distaw li.