Caniadau John Morris-Jones/Y Seren Unig
← Y Ddinas Ledrith | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Cwyn y Gwynt → |
Y SEREN UNIG
Y gwridog haul fachludodd,
Ac yn y nef uwchben
Y gwelir yn tywynnu
Ryw unig seren wen.
Mi sylwais ar ei llygad
Yn gloywi yn y nef,
Fel petai ddeigryn disglair
Yn cronni ynddo ef.
Mi glywaf ddeigr yn llenwi
Fy llygad innau'n awr;
'R wyf innau'n unig unig;
Fy haul a aeth i lawr.