Caniadau John Morris-Jones/Yn y Cwch
← Y Gwylanod | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Seren y Gogledd → |
YN Y CWCH
Mewn cwch eisteddem, eneth wen,
Ar fynwes Menai dlos;
Tywynnai yn y nef uwchben
Frenhines loyw'r nos.
Rhyw briffordd arian ar y don
O'n blaen a daflai hi;
Ar hyd y briffordd honno'n llon
Y llithrem gyda'r lli;
A'r cwch a gurai'r tonnau mân
Onid adseiniai'r rhain
O’n hamgylch megis adlais cân
Rhyw glychau arian cain.
O, na chaem deithio byth ynghyd,
Dan wenau'r nef uwchben,
Yn sôn ariannaid glychau hyd
Ryw ffordd ariannaid wen!